Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Hawliau dynol plant

Mae Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn yn berthnasol i bob plentyn a pherson ifanc sy'n 17 oed neu iau. Rhennir y Confensiwn yn 54 'erthygl': mae'r rhan fwyaf yn rhoi hawliau cymdeithasol, economaidd, diwylliannol neu sifil a gwleidyddol i blant; tra bo'r lleill yn dynodi sut mae'n rhaid i lywodraethau hyrwyddo neu weithredu'r Confensiwn.

Beth yw'r Confensiwn?

Mae gan bob plentyn a pherson ifanc hyd at 18 oed yr holl hawliau yn y Confensiwn. Mae gan rai grwpiau o blant a phobl ifanc - er enghraifft y rheiny sy'n byw oddi cartref a phobl ifanc anabl - hawliau ychwanegol i sicrhau eu bod yn cael eu trin yn deg a bod eu hanghenion yn cael eu bodloni.

Llofnododd y DU Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn ar 16 Rhagfyr 1991. Golyga hyn bod rhaid i lywodraeth y DU sicrhau bod pob plentyn yn cael yr holl hawliau a amlinellir yn y cytundeb ac eithrio yn y mannau hynny lle mae'r llywodraeth wedi cynnwys eithriadau penodol.

Mae’r Confensiwn yn gytundeb rhwng gwledydd sy'n golygu eu bod yn ufuddhau i’r un gyfraith. Pan fydd llywodraeth gwlad yn llofnodi confensiwn, golyga hynny ei bod yn cytuno i ufuddhau i'r rheolau a sefydlwyd yn y confensiwn hwnnw.

Beth mae’r cytundeb yn ei olygu

Ers 15 Ionawr 1992, pan ddaeth y cytundeb i rym, cafodd pob plentyn yn y DU hawl i dderbyn dros 40 o hawliau penodol. Mae’r rhain yn cynnwys:

  • yr hawl i fywyd, i oroesi ac i ddatblygu
  • yr hawl i roi eu barn a bod y farn honno'n cael ei pharchu a bod eu lles gorau bob amser yn cael ei ystyried
  • yr hawl i enw a chenedligrwydd, rhyddid barn a mynediad at wybodaeth sy'n ymwneud â nhw
  • yr hawl i fyw mewn amgylchedd teuluol neu mewn gofal arall, a chael cysylltiad â'r ddau riant lle bynnag y bo hynny'n bosib
  • hawliau iechyd a lles, gan gynnwys hawliau i blant anabl, yr hawl i iechyd a gofal iechyd a nawdd cymdeithasol
  • yr hawl i addysg, hamdden, diwylliant a'r celfyddydau
  • rhoddir hawliau arbennig i amddiffyn plant sy'n ffoaduriaid, plant yn y system cyfiawnder ieuenctid, plant sydd wedi'u hamddifadu o'u rhyddid a phlant sy'n cael eu hecsbloetio'n economaidd, yn rhywiol neu mewn unrhyw ffordd arall

Mae'r hawliau sy'n cael eu cynnwys yn y confensiwn yn berthnasol i bob plentyn a pherson ifanc, heb unrhyw eithriadau.

Am wybodaeth fanylach ar y cytundeb a'r hawliau sydd ynddo, a gweld unrhyw eithriadau sydd gan bob gwlad, cliciwch ar y ddolen isod.

Sicrhau bod gwledydd yn glynu wrth reolau'r Confensiwn

Y Pwyllgor ar Hawliau'r Plentyn sy'n ysgwyddo cyfrifoldeb dros wneud yn siŵr bod pob gwlad yn glynu wrth y cytundebau yn y Confensiwn. Corff rhyngwladol yw hwn gydag arbenigwyr ar hawliau dynol yn aelodau ohono. Adolygwyd perfformiad Llywodraeth y DU ddiwethaf gan y pwyllgor yn 2002.

Bellach, mae gan Loegr Gomisiynydd Plant, sy'n ysgwyddo cyfrifoldeb dros hyrwyddo ymwybyddiaeth o farn a diddordebau plant yn ogystal â hawliau eraill a sicrheir gan y Confensiwn. Rhaid i'r Comisiynydd baratoi adroddiad i'r Senedd bob blwyddyn.

Sylwadau ar gyflwyno

Mae aelodau'r Cenhedloedd Unedig wedi gofyn i'r llywodraeth adael iddynt wybod sut mae hawliau pobl ifanc yn cael eu hystyried yn y DU.

I wneud hyn, gofynnodd y llywodraeth i oedolion a phlant anfon eu safbwyntiau ar yr hawliau a nodir yn y Confensiwn, a holi a ellid gwneud mwy i'w hyrwyddo.

Roedd yr arolwg yn edrych ar amryw o feysydd gan gynnwys addysg, iechyd a chyfleusterau hamdden, a chaeodd ar 31 Ionawr 2007. Mae'r ymatebion yn cael eu dadansoddi yn awr, a chyhoeddir y darganfyddiadau yn nes ymlaen yn y flwyddyn

Cynghrair Hawliau Plant Lloegr

Yn ogystal â'r Pwyllgor a'r Comisiynydd Plant, mae Cynghrair Hawliau Plant Lloegr yn fudiad an-llywodraethol sy'n llunio adolygiad blynyddol sy'n barnu pa mor dda y mae'r llywodraeth wedi ymateb i ganfyddiadau ac argymhellion y Pwyllgor. Mae'r adroddiad yn crynhoi'r datblygiadau cadarnhaol a negyddol o ran hawliau plant yn Lloegr.

I archebu adroddiad blynyddol diweddaraf y Gynghrair, dilynwch y ddolen isod.

Cysylltiadau defnyddiol

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU