Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Presenoldeb ac absenoldeb o'r ysgol: y gyfraith

Yn ôl y gyfraith, mae'n rhaid i rieni wneud yn siŵr bod eu plant yn cael addysg amser llawn sy'n addas ar gyfer eu hanghenion. I'r rhan fwyaf o blant, mae hyn yn golygu mynychu'r ysgol yn rheolaidd. Os bydd pethau'n mynd i'r pen, mae gan ysgolion ac awdurdodau lleol bwerau cyfreithiol i ddelio â phresenoldeb gwael.

Eich cyfrifoldebau fel rhiant

Yn ôl y gyfraith, rhaid i blant oed ysgol gorfodol (5 i 16) gael addysg amser llawn addas. Mae gennych, fel rhiant, gyfrifoldeb cyfreithiol i wneud yn siŵr bod hyn yn digwydd - naill ai drwy gofrestru'ch plentyn mewn ysgol neu drwy wneud trefniadau eraill i roi addysg amser llawn addas iddynt. Unwaith mae'ch plentyn wedi'i gofrestru mewn ysgol, mae gennych gyfrifoldeb cyfreithiol i wneud yn siŵr eu bod yn mynychu'r ysgol yn rheolaidd.

Os nad ydynt yn gwneud hynny, bydd ysgol eich plentyn neu'r awdurdod lleol yn cysylltu â chi. Mae gan awdurdodau lleol ddyletswydd i ymyrryd os nad ydynt yn credu bod plentyn yn cael yr addysg sy'n ofynnol yn ôl y gyfraith, naill ai gartref neu yn yr ysgol.

Os yw eich plentyn yn colli'r ysgol, efallai y bydd aelod o'r Gwasanaeth Lles Addysg yn ymweld â chi. Byddant yn sgwrsio â chi am broblemau presenoldeb eich plentyn.

Pan fydd plentyn yn bump oed bydd yn cyrraedd oed ysgol gorfodol. Os yw rhiant wedi dewis cofrestru eu plentyn mewn ysgol, rhaid i'r plentyn ddechrau'r ysgol yn y tymor sy'n dilyn ei ben-blwydd yn bump oed. Bydd plentyn yn parhau mewn oed ysgol gorfodol tan y dydd Gwener olaf ym mis Mehefin yn y flwyddyn ysgol pan mae'n cael ei ben-blwydd yn 16 oed.

Cymorth â phresenoldeb yn yr ysgol

Os ydych chi'n cael trafferth cael eich plentyn i fynd i'r ysgol, gall yr ysgol a'r awdurdod lleol eich cefnogi mewn amryw o ffyrdd. Un opsiwn y gallant ei awgrymu yw contract rhianta.

Dull o gefnogi, nid cosb, yw contractau rhianta - eu bwriad yw eich helpu chi a'r ysgol neu'r awdurdod lleol i weithio gyda'ch gilydd i wella lefelau presenoldeb eich plentyn.

Mae contractau rhianta yn wirfoddol. Fodd bynnag, dylech ddeall, os yw'ch plentyn yn colli'r ysgol yn rheolaidd a'ch bod yn gwrthod cytuno i gontract - neu os nad ydych yn cadw at ei amodau - y gellir defnyddio hyn fel tystiolaeth os bydd yr awdurdod lleol yn penderfynu eich erlyn.

I gael gwybod mwy am y mathau o gymorth sydd ar gael - gan gynnwys contractau rhianta - gweler ‘Presenoldeb yn yr ysgol, absenoldeb a'ch plentyn’.

Gweithredu ar bresenoldeb yn yr ysgol

Dim ond dan amgylchiadau cyfyngedig iawn y mae'n gyfreithlon i blentyn sydd wedi ei gofrestru mewn ysgol beidio â mynd i'r ysgol. Mae’r rhain yn cynnwys:

  • pan mae'r plentyn yn rhy sâl i fynychu
  • pan mae'r ysgol wedi awdurdodi'r absenoldeb ymlaen llaw

Os yw plentyn yn colli'r ysgol heb reswm da, mae gan ysgolion ac awdurdodau lleol lawer o bwerau cyfreithiol y gallant eu defnyddio.

Gorchymyn Mynychu Ysgol

Rhoddir Gorchymyn Mynychu Ysgol os nad yw'ch plentyn ar gofrestru unrhyw ysgol a bod yr awdurdod lleol yn poeni nad ydych wedi trefnu i ddarparu addysg amser llawn addas arall i'ch plentyn. Defnyddir Gorchmynion Mynychu Ysgol i'ch cyfarwyddo i anfon eich plentyn i ysgol benodedig.

Cyn cyflwyno Gorchymyn Mynychu Ysgol, dylai Swyddogion Gwasanaethau Plant wneud pob ymdrech i drafod y sefyllfa â chi. Os nad oes modd dwyn perswâd arnoch i wneud trefniadau addas ar gyfer addysg eich plentyn, byddwch yn cael rhybudd yn dweud nad ydych yn cyflawni eich dyletswydd i ddarparu addysg i'ch plentyn.

Rhaid i'r rhybudd eich hysbysu bod angen i chi fodloni'r awdurdod lleol eich bod yn darparu addysg mewn ysgol neu fel arall o fewn cyfnod penodedig (ond ddim llai na 15 diwrnod gan ddechrau o'r diwrnod y rhoddwyd y rhybudd).

Mae awdurdodau lleol yn gyfrifol am erlyn rhieni os ydynt yn torri Gorchymyn Mynychu Ysgol a gallant hefyd geisio Gorchymyn Goruchwylio Addysg.

Gorchymyn Goruchwylio Addysg

Yn ogystal â neu yn hytrach na'ch erlyn efallai y bydd eich awdurdod lleol yn gwneud cais i lys am Orchymyn Goruchwylio Addysg. Mae'r Gorchymyn hwn yn golygu y bydd goruchwyliwr yn cael ei benodi ar eich cyfer er mwyn rhoi cymorth a chyngor i chi ynghylch cael eich plentyn yn ôl i fyd addysg.

Hysbysiadau cosb

Yn hytrach nag erlyn, gall staff awdurdodedig yr awdurdod lleol, yr heddlu a phenaethiaid roi hysbysiadau cosb i rieni plant nad ydynt yn mynychu'r ysgol yn rheolaidd. Y gosb yw £50 a bydd hyn yn codi i £100 os na thelir yr arian o fewn 28 diwrnod. Os na fyddwch yn llwyddo i dalu'r ddirwy, fe'ch erlynir.

Mynd â chi i'r llys

Gallai eich awdurdod lleol eich erlyn (does dim rhaid iddynt roi hysbysiad cosb yn gyntaf) a gallai hyn arwain at gosb fwy llym.

Gallech gael dirwy o hyd at £2,500, gorchymyn cymunedol neu, mewn achosion eithafol, dedfryd o hyd at dri mis yn y carchar. Os yw'r llys yn meddwl y bydd yn rhoi terfyn ar ddiffyg presenoldeb eich plentyn, efallai y bydd hefyd yn gosod cosb o Orchymyn Rhianta.

Gorchymyn Rhianta

Gorchymyn llys sy'n gofyn i chi fynd i ddosbarthiadau cefnogi neu ddosbarthiadau addysg i rieni yw'r Gorchymyn Rhianta. Bydd yn rhaid i chi hefyd wneud beth bynnag a ddywed y llys y mae angen i chi ei wneud er mwyn gwella ymddygiad eich plentyn a'i bresenoldeb yn yr ysgol.

Swyddogaeth eich awdurdod lleol

Dilynwch y ddolen isod i roi manylion ble'r ydych yn byw - bydd yn mynd â chi at y rhan o wefan eich awdurdod lleol sy'n ymdrin â phresenoldeb mewn ysgolion.

Yno, cewch fwy o wybodaeth am y camau y bydd eich awdurdod lleol yn eu cymryd wrth ddelio â phresenoldeb gwael. Dylech hefyd ddod o hyd i fanylion cyswllt eu Gwasanaeth Lles Addysg.

Allweddumynediad llywodraeth y DU