Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Mae'n bwysig fod eich plentyn yn mynychu'r ysgol yn rheolaidd er mwyn iddo gael y cychwyn gorau posib i'w fywyd. Gallai siarad â'ch plentyn a'i athrawon helpu i ddatrys unrhyw broblemau yr ydych yn eu cael wrth geisio cael eich plentyn i fynd i'r ysgol - ac mae mathau eraill o gymorth ar gael os ydych yn dal i gael problemau.
Mae mynychu'r ysgol yn rheolaidd yn bwysig i ddyfodol eich plentyn. Er enghraifft, gall plant sy'n colli'r ysgol yn rheolaidd fynd ar ei hôl hi gyda'u gwaith a pheidio â gwneud cystal yn eu harholiadau.
Mae presenoldeb da yn dangos i ddarpar gyflogwyr bod eich plentyn yn ddibynadwy. Yn ôl gwaith ymchwil, mae plant sy'n mynychu ysgol yn rheolaidd yn llai tebygol o fod yn gysylltiedig ag ymddygiad gwrth-gymdeithasol neu droseddu.
Mynychu'r ysgol a thriwantiaeth: y gyfraith
Yn ôl y gyfraith, rhaid i blant o oed ysgol gorfodol (pump i 16) dderbyn addysg amser llawn briodol. I'r rhan fwyaf o rieni, golyga hyn eu bod yn cofrestru eu plentyn mewn ysgol - er bod rhai'n dewis gwneud trefniadau eraill i roi addysg amser llawn briodol iddynt.
Unwaith mae'ch plentyn wedi'i gofrestru mewn ysgol, mae gennych gyfrifoldeb cyfreithiol i wneud yn siŵr eu bod yn mynychu'r ysgol yn rheolaidd. Os na fydd eich plentyn yn gwneud hynny, gallech gael rhybudd o gosb neu gael eich erlyn.
Gallwch helpu'ch plentyn i beidio â chwarae triwant drwy wneud y canlynol:
Bydd trefnu apwyntiadau a thripiau ar ôl oriau ysgol, ar benwythnosau neu yn ystod gwyliau'r ysgol yn helpu i osgoi tarfu ar addysg eich plentyn ac ar yr ysgol. Dan amgylchiadau arferol, ddylech chi ddim disgwyl i'r ysgol gytuno i chi fynd â'ch plentyn ar wyliau yn ystod y tymor.
Mae nifer o wahanol faterion a all effeithio ar lefelau presenoldeb yn yr ysgol. Ymhlith yr enghreifftiau y mae problemau gyda'r canlynol:
Os bydd eich plentyn yn dechrau colli'r ysgol, gall fod problem nad ydych yn ymwybodol ohoni. Holwch eich plentyn yn gyntaf, yna siaradwch â'u hathro/athrawes neu diwtor dosbarth.
Cefnogaeth gan yr ysgol
Ysgol eich plentyn yw'r lle cyntaf i fynd i drafod unrhyw broblemau â phresenoldeb. Dylai'r ysgol geisio cytuno ar gynllun gyda chi er mwyn gwella lefelau presenoldeb eich plentyn (ee y rhaglen trac cyflym i bresenoldeb).
Os na fyddwch chi'n dilyn y cynllun a'r sefyllfa ddim yn gwella, bydd yr ysgol yn cymryd camau pellach. Mae 1,200 ysgol ar hyn o bryd yn defnyddio Ymgynghorwyr Cefnogi Rhieni (PSAs) i weithio gyda rhieni i wella ymddygiad a phresenoldeb plant. Mae’r llywodraeth yn ymestyn argaeledd o Ymgynghorwyr Cefnogi Rhieni i’w gadael nhw i gyrraedd 10 i 15 ysgol ym mhob awdurdod lleol.
Cefnogaeth gan eich awdurdod lleol
Gall eich awdurdod lleol helpu hefyd os ydych chi'n cael trafferth sicrhau bod eich plentyn yn mynd i'r ysgol. Dyma'r math o gefnogaeth bosib:
Bydd y ddolen isod yn gofyn i chi deipio ble'r ydych chi'n byw ac yna'n mynd â chi at wefan eich awdurdod lleol. Yno, cewch wybod mwy am y cymorth sydd ar gael gan eich awdurdod lleol. Dylech hefyd ddod o hyd i fanylion cyswllt eu Gwasanaeth Lles Addysg.
Os yw eich plentyn yn colli'r ysgol heb reswm da, gallai'r ysgol neu'r awdurdod lleol awgrymu llunio contract magu plant.
Cytundeb ysgrifenedig rhyngoch chi a naill ai'r awdurdod lleol neu gorff llywodraethu ysgol yw contract magu plant. Nid cosb yw'r contractau magu plant - fe'u defnyddir i'ch helpu chi a'r ysgol neu'r awdurdod lleol i weithio gyda'ch gilydd i wella lefelau presenoldeb eich plentyn a sicrhau eich bod yn cael gafael ar gymorth ymarferol. Dan y contract, rydych yn cytuno i wneud pethau penodol - er enghraifft, sicrhau bod eich plentyn yn cyrraedd yr ysgol yn brydlon bob dydd.
Mae contractau magu plant yn wirfoddol. Os yw'ch plentyn yn colli'r ysgol yn rheolaidd, fodd bynnag, a'ch bod yn gwrthod cytuno i gontract neu os nad ydych yn cadw at ei amodau, gellir defnyddio hyn fel tystiolaeth os bydd yr awdurdod lleol yn penderfynu'ch erlyn.