Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Dyddiadau'r tymhorau a gwyliau ysgol

Yr awdurdod lleol neu gorff llywodraethu ysgol fydd yn penderfynu ar ddyddiadau tymhorau a gwyliau'r ysgol, neu os yw'r ysgol yn un annibynnol, yr ysgol ei hun fydd yn penderfynu. Nid yw fel arfer yn dderbyniol i chi dynnu'ch plentyn o'r ysgol i fynd ar wyliau teulu yn ystod y tymor.

Cael gwybod beth yw dyddiadau tymhorau'r ysgol yn eich ardal chi

Cewch wybod beth yw dyddiadau tymhorau a gwyliau'r ysgol ar-lein. Bydd pwy sy'n pennu'r dyddiadau hyn yn dibynnu ar y math o ysgol y bydd eich plentyn yn ei mynychu.

Ysgolion cymuned ac ysgolion gwirfoddol a reolir

Yr awdurdod lleol fydd yn pennu dyddiadau tymhorau a gwyliau ar gyfer ysgolion cymuned ac ysgolion gwirfoddol a reolir. Yn y mwyafrif o ysgolion, rhennir blwyddyn ysgol gyfredol yn dri thymor. Fodd bynnag, mae ambell awdurdod lleol wedi cyflwyno blwyddyn gyda chwe thymor, bob un oddeutu'r un faint (gelwir hyn yn 'Flwyddyn Ysgol Safonol').

Mae'r ddolen isod yn gadael i chi deipio'ch cod post yn y blwch, ac yna'n mynd â chi at wybodaeth am ddyddiadau tymhorau'r ysgol ar wefan eich awdurdod lleol.

Mathau eraill o ysgolion y wladwriaeth

O ran mathau eraill o ysgolion a gyllidir gan arian cyhoeddus, gan gynnwys:

  • ysgolion sefydledig
  • ysgolion gwirfoddol a gynorthwyir
  • academïau
  • colegau technoleg y dinasoedd
  • colegau dinas ar gyfer technoleg y celfyddydau

y corff llywodraethu fydd yn pennu'r dyddiadau. Gallwch ddod o hyd i wefannau neu fanylion cyswllt yr ysgolion hyn drwy ddilyn y ddolen isod.

Ysgolion annibynnol

Bydd ysgolion annibynnol yn pennu dyddiadau tymhorau a gwyliau eu hunain. Ceir rhestr o ysgolion annibynnol a'u manylion cyswllt ar wefan Cyngor yr Ysgolion Annibynnol.

Gwyliau yn ystod y tymor

Ni ddylech fynd â'ch plentyn ar wyliau yn ystod y tymor oherwydd fe allai hyn darfu ar addysg eich plentyn ac ar yr ysgol.

Dim ond y pennaeth neu rywun â'r awdurdod priodol gaiff gytuno ar wyliau yn ystod y tymor a hynny yn ôl eu doethineb. Gall ysgolion defnyddio eu doethineb i ganiatáu i fyny at 10 diwrnod o absenoldeb awdurdodedig mewn blwyddyn ysgol os:

  • bod y rhiant mae’r plentyn yn byw gyda’n arferol yn gwneud cais i’r ysgol o flaen llawn o’r gwyliau

a

  • bod rhesymau arbennig am y gwyliau

Dan amgylchiadau eithriadol yn unig, gallant gytuno i'r plentyn fod yn absennol am 10 diwrnod ar y mwyaf mewn unrhyw flwyddyn ysgol.

Bydd pob cais am wyliau'n cael ei drin ar ei haeddiant ei hun ac ystyrir y canlynol:

  • ar ba adeg o'r flwyddyn y bwriedir mynd
  • a yw'r adeg honno'n agos at amser arholiadau
  • patrwm presenoldeb eich plentyn yn gyffredinol
  • unrhyw wyliau a gymerwyd eisoes yn ystod y flwyddyn ysgol
  • oedran eich plentyn ac ar ba gyfnod y mae yn yr ysgol
  • eich dymuniadau chi
  • gallu'ch plentyn i gwblhau'r gwaith y mae wedi'i golli
  • y rheswm pam eich bod yn cymryd amser i ffwrdd yn ystod tymor yr ysgol

Ni fydd ysgolion yn ystyried eich cais am wyliau os mai un o'r rhesymau canlynol sydd wrth wraidd eich penderfyniad:

  • eich bod eisiau mynd ar wyliau gan ei fod yn rhad ar adeg benodol
  • eich bod yn dewis mynd ar wyliau ar sail y math o lety yr ydych yn chwilio amdano, a phryd y mae ar gael
  • y tywydd wedi bod yn wael yn ystod cyfnodau gwyliau'r ysgol

bod y gwyliau'n gorgyffwrdd â dechrau neu ddiwedd tymor yr ysgol

Allweddumynediad llywodraeth y DU