Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Cludiant ysgol am ddim

Mae cael plentyn i gyrraedd yr ysgol mewn pryd ac yn ddiogel yn dipyn o her. Gan ddibynnu lle rydych yn byw, eich incwm ac oedran eich plentyn, gall eich plentyn fod yn gymwys i gael cludiant ysgol am ddim. Mae’n bosibl y byddant hefyd yn gymwys os oes ganddynt anghenion addysgol arbennig (AAA) neu anabledd. Yma, cewch wybod a yw eich plentyn chi’n gymwys.

Cludiant ysgol am ddim – a yw eich plentyn chi’n gymwys?

Rhaid i awdurdodau lleol ddarparu cludiant ysgol am ddim i blant os ydynt:

  • rhwng 5 ac 16 oed
  • yn mynychu’r ysgol addas agosaf
  • yn byw’n bellach i ffwrdd o’r ysgol na’r pellteroedd cerdded statudol (2 filltir i blant dan 8 oed, a 3 milltir i blant 8 oed a hŷn)

Rhaid i blant fod yn gymwys i gael cludiant am ddim hefyd - waeth beth yw pellter eu cartref o’r ysgol - os nad ydynt yn gallu cerdded oherwydd unrhyw un o’r rhesymau canlynol:

  • mae ganddynt Anghenion Addysgol Arbennig (AAA)
  • mae ganddynt broblemau anabledd neu broblemau symud
  • does dim llwybr cerdded diogel

Rhaid i awdurdodau lleol wneud trefniadau teithio ble na ellir disgwyl yn rhesymol i blentyn gerdded, gyda rhywun fel sy’n briodol, mewn diogelwch rhesymol.

Gwneud cais am gymorth i deithio o'r cartref i'r ysgol

Gallwch gael mwy o wybodaeth a gwneud cais am gymorth i deithio i'r ysgol ar-lein. Bydd y ddolen isod yn gadael i chi roi manylion ble'r ydych chi'n byw, ac yna'n mynd â chi i'r dudalen berthnasol ar wefan eich awdurdod lleol.

Plant o deuluoedd ar incwm isel

Mae teulu ar ‘incwm isel’ yn deulu sy’n cynnwys plant sy’n cael prydau ysgol am ddim neu rieni sy’n cael swm uchaf y Credyd Treth Gwaith.

Bydd plant ysgol gynradd o deuluoedd incwm isel yn gymwys i gael cludiant ysgol am ddim os byddant:

  • rhwng 8 ac 11 oed
  • yn mynd i’w ysgol addas agosaf, ac yn byw mwy na 2 filltir i ffwrdd

Bydd gan ddisgyblion ysgol uwchradd (rhwng 11 ac 16 oed) o deuluoedd ar incwm isel yr hawl i gael cludiant ysgol am ddim os byddant:

  • yn mynd i ysgol addas rhwng 2 a 6 milltir i ffwrdd o’u cyfeiriad cartref, cyn belled nad oes o leiaf tair ysgol agosach
  • yn mynd i’r ysgol agosaf a ddewiswyd ar sail crefydd neu gred, a bod yr ysgol rhwng 2 a 15 milltir i ffwrdd o’u cyfeiriad cartref

Plant gydag AAA neu anableddau

Os oes gan eich plentyn ddatganiad AAA a bod gofynion cludiant wedi’u nodi arno, rhaid i’ch awdurdod lleol eu darparu. Bydd y ddolen isod yn mynd â chi at wefan eich awdurdod lleol ac i dudalen lle cewch ragor o wybodaeth am gludiant ysgol i blant gydag AAA neu anableddau.

Cymorth gyda chostau teithio i rai dros 16

Os yw eich plentyn dros 16 oed ac mewn addysg bellach neu yn y chweched dosbarth, mae'n bosib y gall eich awdurdod lleol helpu gyda chostau teithio. Mae gan bob awdurdod lleol ei bolisi ei hun ar gyfer helpu gyda chludiant i rai dros 16.

Allweddumynediad llywodraeth y DU