Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Gweithgareddau’r ysgol – costau

Er nad oes angen talu i anfon eich plentyn i ysgol a gynhelir fel arfer, efallai y bydd yn rhaid i chi dalu am un neu ddau o weithgareddau. Yma, cewch wybod pryd y mae ysgolion yn debygol o godi tâl arnoch am weithgareddau sy’n gysylltiedig ag addysg eich plentyn.

Gweithgareddau yn ystod oriau ysgol

Rhaid i weithgaredd fod am ddim:

  • os caiff ei ddarparu’n gyfan gwbl neu’n bennaf yn ystod oriau ysgol
  • os caiff ei ddarparu y tu allan i oriau ysgol ond mae’n rhan o’r Cwricwlwm Cenedlaethol

Mae hyn yn cynnwys gweithgareddau y bydd yn rhaid i’r ysgol dalu amdanynt efallai, megis gwersi nofio mewn pwll nofio lleol neu ymweliad ag amgueddfa.

Cyfraniadau gwirfoddol

Mae’n bosib y bydd penaethiaid neu gyrff llywodraethu’n gofyn i rieni am gyfraniad gwirfoddol:

  • tuag at gostau unrhyw weithgaredd sy’n cael ei gynnal yn ystod oriau ysgol
  • tuag at gostau offer ar gyfer yr ysgol
  • tuag at gronfa’r ysgol yn gyffredinol

Rhaid i’r cyfraniad fod yn wirioneddol wirfoddol, ac ni ddylai ysgolion roi pwysau ar rieni i gyfrannu. Ni ellir eithrio disgyblion rhag cymryd rhan yn y gweithgaredd am nad yw eu rhieni’n gallu, neu’n dymuno, cyfrannu.

Os nad oes digon o gyfraniadau gwirfoddol i allu cynnal y gweithgaredd, ac os nad oes ffordd arall o gael yr arian, rhaid canslo’r gweithgaredd.

Ymweliadau dros nos gyda’r ysgol

Gall ysgol godi tâl am gost bwyd a llety ar gyfer trip ysgol pan fydd angen aros dros nos, ond ni all y tâl fod mwy na chost wirioneddol y llety.

Pan fydd yr ymweliad yn digwydd i raddau helaeth neu’n gyfan gwbl yn ystod oriau ysgol, ni fydd gofyn i rieni dalu dim am lety a bwyd os ydynt yn cael y budd-daliadau canlynol:

  • Cymhorthdal Incwm
  • Lwfans Ceisio Gwaith yn Seiliedig ar Incwm
  • Cymorth yn unol â rhan VI Deddf Mewnfudo a Lloches 1999
  • Credyd Treth Plant ar yr amod nad oes gan y rhiant hawl i Gredyd Treth Gwaith ac nad yw ei incwm yn fwy na £16,190
  • Credyd Gwarantedig Pensiwn y Wladwriaeth

Hyfforddiant cerdd offerynnol

Mae’n bosib y codir tâl am hyfforddiant offerynnol a lleisiol sy’n digwydd yn ystod y diwrnod ysgol os bydd y rhiant yn gofyn am yr hyfforddiant. Ni all yr ysgol godi tâl pan fydd y disgybl mewn gofal yr Awdurdod Lleol.

Mae’n bosib y codir tâl pan nad yw’r hyfforddiant yn rhan hanfodol o’r canlynol:

  • y Cwricwlwm Cenedlaethol
  • maes llafur arholiad cyhoeddus
  • mynediad cyntaf i hyfforddiant offerynnol a lleisiol Cyfnod Allweddol 2, y rhaglen ‘Wider Opportunities’

Arholiadau cyhoeddus

Ni cheir codi tâl am gofrestru disgyblion ar gyfer arholiadau cyhoeddus sy'n rhan o'r Cwricwlwm Cenedlaethol. Fodd bynnag, mae’n bosib y bydd yn rhaid i’r rhieni dalu i gofrestru disgybl ar gyfer arholiad:

  • os nad yw’r plentyn wedi cael ei baratoi ar gyfer yr arholiad yn yr ysgol
  • os nad yw’r arholiad yn rhan o’r Cwricwlwm Cenedlaethol, ond fod yr ysgol yn trefnu i’r disgybl ei sefyll
  • os yw'r disgybl, heb reswm da, yn methu bodloni gofynion unrhyw arholiad cyhoeddus lle mae'r corff llywodraethu neu'r awdurdod lleol wedi talu’r ffi ar gyfer sefyll yr arholiad neu wedi cytuno i wneud hynny’n wreiddiol

Mae’n bosib na chodir tâl am unrhyw gost sy’n gysylltiedig â pharatoi’r disgybl ar gyfer arholiad. Fodd bynnag, caniateir codi tâl ar gyfer hyfforddiant a chostau eraill:

  • os bydd disgybl yn cael ei baratoi y tu allan i oriau ysgol ar gyfer arholiad
  • os nad yw’r arholiad yn rhan o’r Cwricwlwm Cenedlaethol

Cael gwybodaeth am daliadau ysgol

Nid oes gan yr Awdurdod Lleol na’r corff llywodraethu hawl i godi tâl am ddim oni bai fod ganddynt ddatganiad polisi ar godi tâl.

Mae gan rieni hawl i wybodaeth am bolisi codi tâl a dileu ffioedd ysgol, ac mae'n rhaid i gyrff llywodraethu sicrhau bod hwn ar gael ar gais.

Gellir cael mwy o wybodaeth ynghylch sut y dylai ysgolion lunio eu polisïau codi tâl ar wefan yr Adran Addysg.

Allweddumynediad llywodraeth y DU