Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Dod yn llywodraethwr ysgol

Mae ysgolion yn cael eu rhedeg gan gorff llywodraethu sy'n cydweithio â'r pennaeth a'r uwch dîm rheoli i sicrhau bod y disgyblion yn cael addysg dda. Trwy ddod yn llywodraethwr gallwch gyfrannu at eich ysgol leol a dysgu sgiliau newydd.

Pwy all fod yn llywodraethwr ysgol?

Does dim rhaid i chi gael plentyn yn yr ysgol i ddod yn llywodraethwr

Gall pob math o bobl fod yn llywodraethwyr ysgol. Does dim rhaid cael cymwysterau arbennig, ond rhaid i chi fod yn 18 oed neu fwy ar y dyddiad pan gewch eich penodi neu eich ethol.

Y nodweddion pwysicaf yw brwdfrydedd, ymroddiad a diddordeb mewn addysg. Does dim rhaid i chi gael plentyn yn yr ysgol.

Byddai llawer o ysgolion yn croesawu llywodraethwyr newydd gyda sgiliau trosglwyddadwy y maent wedi'u datblygu yn y gwaith neu gyda gwybodaeth arbennig o dda am y gymuned a wasanaethir gan yr ysgol.

Beth mae llywodraethwyr ysgol yn ei wneud?

Corff llywodraethu'r ysgol sy'n gyfrifol am sicrhau ei bod yn cael ei rhedeg i hybu cyflawniad y disgyblion. Mae dyletswyddau’r corff yn cynnwys:

  • gosod amcanion, polisïau a chyfeiriad strategol
  • cymeradwyo cyllid yr ysgol
  • adolygu'r cynnydd yn erbyn cyllideb ac amcanion yr ysgol
  • penodi, herio a chefnogi'r pennaeth

Mae'r corff llywodraethu'n cynnwys:

  • rhiant-lywodraethwyr (a etholir gan y rhieni)
  • cynrychiolwyr y staff (a etholir gan staff yr ysgol)
  • llywodraethwyr yr awdurdod lleol (a benodir gan yr awdurdod lleol)
  • llywodraethwyr cymunedol (aelodau o’r gymuned leol a benodir gan y corff llywodraethu)
  • ar gyfer rhai ysgolion, pobl a benodir gan y sefydliad neu'r corff crefyddol perthnasol
  • hyd at ddau noddwr-lywodraethwr, neu bedwar os mae’r ysgol yn ysgol uwchradd (a benodir gan y corff llywodraethu)

Beth mae'r rôl yn ei olygu

Mae cyrff llywodraethu'n gwneud eu penderfyniadau ar sail cyngor a dderbynnir gan bwyllgorau sy'n delio gyda materion penodol megis cwricwlwm, adeiladau neu gyllid yr ysgol. Os dowch yn llywodraethwr, mae'n debyg y gofynnir i chi fod ar bwyllgor lle gallwch wneud cyfraniad neu lle mae gennych ddiddordeb yn y maes.

Mae'r amser y bydd angen i lywodraethwyr ysgol ei neilltuo yn amrywio rhwng ysgolion. Ond, mewn mis nodweddiadol mewn ysgol nodweddiadol gallwch ddisgwyl treulio o leiaf chwech i wyth awr ar eich dyletswyddau.

Mae bod yn llywodraethwr yn gofyn am ymroddiad mawr ond gall roi boddhad. Cewch wybod mwy am y manteision o ddod yn llywodraethwr ysgol ar wefan SGOSS (School Governors' One Stop Shop).

Costau

Efallai y telir lwfans am unrhyw gostau y byddwch yn eu hwynebu wrth ymgymryd â'ch dyletswyddau, naill ai gan y corff llywodraethu neu gan yr awdurdod lleol. Allwch chi ddim hawlio lwfansau mynychu na thaliadau am golli cyflog.

Hyfforddiant a chefnogaeth

Mae ysgolion yn cael eu hannog i gyfrannu at y Rhaglen Hyfforddiant Genedlaethol ar gyfer Llywodraethwyr Newydd - cewch weld y deunyddiau hyfforddi ar wefan GovernorNet. Mae GovernorNet hefyd yn darparu gwybodaeth ac arweiniad i lywodraethwyr.

Gall gwasanaeth cymorth GovernorLine roi cyngor am faterion cyfreithiol ac eraill dros y ffôn neu'r e-bost.

  • Governorline: 0800 0722 181

Sut y gall cyflogwyr helpu

Os ydych yn gweithio, efallai y bydd gennych hawl i amser "rhesymol" o'r gwaith i gyflawni eich dyletswyddau fel llywodraethwr. Yn dechnegol, dim ond os ydych yn "gyflogai" y byddwch yn gymwys a ddim yn gweithio mewn swydd sydd wedi'i heithrio.

Does dim rhaid i'ch cyflogwr dalu i chi yn ystod eich amser o'r gwaith, ond mae llawer yn gwneud hynny.

Gallai eich cyflogwr gael budd o'r ffaith eich bod yn llywodraethwr ysgol. Mae manylion y buddion posibl ar gyfer cyflogwyr ar gael ar wefan SGOSS. Gall SGOSS hefyd ddarparu cefnogaeth i gwmnïau sydd am annog eu gweithwyr i ddod yn gysylltiedig.

Gwneud cais i ddod yn llywodraethwr ysgol

Gallwch wneud cais i ddod yn rhiant-lywodraethwr:

  • yn syth i'ch ysgol
  • drwy eich awdurdod lleol
  • drwy SGOSS

Additional links

Muck In4Life

O glirio pyllau i blannu coed – gallwch ddod o hyd i brosiectau gwirfoddoli cadwraeth i’r teulu i gyd

Allweddumynediad llywodraeth y DU