Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Perthynas rhiant-ysgol

Fel rhiant, gallwch wneud gwahaniaeth sylweddol i siawns eich plentyn o lwyddo yn yr ysgol, yn y cartref, ac yn nes ymlaen yn ei fywyd. Bydd gweithio mewn partneriaeth ag ysgol eich plentyn yn ei helpu i lwyddo.

Adroddiadau disgyblion a nosweithiau ymgynghori â rhieni

Mae gan nosweithiau ymgynghori â rhieni (fe'u gelwir hefyd yn nosweithiau rhieni) ac adroddiadau disgyblion rôl bwysig yn y gwaith o sicrhau eich bod yn ymwybodol o gynnydd eich plentyn.

Mae nosweithiau ymgynghori â rhieni yn gyfle i chi drafod sut mae'ch plentyn yn dod ymlaen yn y dosbarth ac yn yr ysgol yn gyffredinol gyda'u hathrawon, ac i benderfynu ar y ffordd orau o gydweithio er mwyn cefnogi cyrhaeddiad eich plentyn yn yr ysgol.

Dylai adroddiad ysgol diweddaraf eich plentyn eich helpu i dynnu sylw at faterion sydd angen eu trafod. Bydd yn cynnwys gwybodaeth am gynnydd a lefel cyrhaeddiad eich plentyn yn y pynciau sy'n cael eu hastudio, ynghyd â manylion ei bresenoldeb ei ymddygiad a - lle bo hynny'n briodol - ei anghenion arbennig. O fis Medi 2008 ymlaen, dylai pob ysgol anelu at drefnu bod y wybodaeth hon ar gael ar-lein, yn ogystal â mewn ffyrdd presennol megis adroddiadau traddodiadol a chyswllt wyneb-yn-wyneb.

Fodd bynnag, nid dyma'r unig ffyrdd o gadw cysylltiad. Cofiwch y gall siarad â'ch plant am yr ysgol fod o fudd iddynt. Os oes unrhyw beth yr hoffech ei drafod ag athro neu athrawes eich plentyn, bydd y rhan fwyaf ohonynt yn hapus i drefnu amser ar eich cyfer.

Cytundebau cartref-ysgol

Gall cytundebau cartref-ysgol fod yn sail i'r bartneriaeth rhyngoch chi ac ysgol eich plentyn. Maent yn helpu i esbonio beth allwch chi ac ysgol eich plentyn ei ddisgwyl gan eich gilydd, gan nodi:

  • cyfrifoldebau, amcanion a gwerthoedd yr ysgol
  • cyfrifoldeb rhieni a gofalwyr o ran cefnogi'r ysgol
  • beth mae'r ysgol yn ei ddisgwyl gan ei disgyblion

Helpu yn yr ysgol

Mae rhai ysgolion yn rhoi cyfle i rieni helpu yn y dosbarth, gyda gweithgareddau ar ôl ysgol a chyda theithiau neu ddigwyddiadau ysgol.

Gall disgyblion elwa ar y gefnogaeth a gynigir gan oedolyn ychwanegol a gall helpu fod yn ffordd dda o gael gwybod mwy am yr hyn y mae eich plentyn yn ei wneud yn yr ysgol.

Mae'n bosib y bydd yr ysgol yn gofyn am eich caniatâd i drefnu archwiliad o'ch cofnod troseddol, yn dibynnu ar beth yn union y byddwch chi'n ei wneud a pha mor aml rydych yn bwriadu rhoi help llaw.

Cymdeithasau rhieni-athrawon

Grwpiau sy'n cynnwys rhieni ac athrawon, yn ogystal â phobl eraill sydd â chysylltiad â'r ysgol, yw cymdeithasau rhieni-athrawon (PTAs). Maent yn darparu amrywiaeth o gyfleoedd i ddod yn gysylltiedig â bywyd yr ysgol, a'r rheini'n weithgareddau na fyddant yn cymryd gormod o'ch amser.

Bydd gwahanol gymdeithasau yn canolbwyntio ar wahanol fathau o weithgarwch, ond mae llawer yn trefnu:

  • digwyddiadau codi arian i brynu eitemau neu wasanaethau ychwanegol a fydd yn rhoi rhagor o gyfleoedd i ddisgyblion
  • digwyddiadau cymdeithasol er mwyn i rieni ddod i adnabod ei gilydd
  • cyfarfodydd i roi gwybod i rieni am faterion sy'n ymwneud ag addysg

Gofynnwch i athro/athrawes eich plentyn sut y gallwch chi gymryd rhan yn eich cymdeithas rhieni-athrawon leol. Os nad oes gan eich ysgol gymdeithas rhieni-athrawon, gellir cael cyngor ar sut i sefydlu un ar wefan Conffederasiwn Cenedlaethol Cymdeithasau Rhieni-Athrawon.

Cynghorau Rhieni

Mae Cynghorau Rhieni yn eich galluogi i gyfarfod rhieni eraill, trafod materion a chyflwyno syniadau i ysgol eich plentyn. Drwy gymryd rhan, gallwch ddweud eich dweud am benderfyniadau a gymerir gan yr ysgol ac sy'n cael dylanwad ar addysg eich plentyn.

Gall Cynghorau Rhieni fod yn llai ffurfiol a gofyn am lai o ymrwymiad na phe baech yn aelod o'r corff llywodraethol, ac anogir pob ysgol i ystyried sefydlu un.

Llywodraethwyr a chynrychiolwyr rhieni

Mae gan bob ysgol gorff llywodraethu sy'n cydweithio â'r pennaeth a'r uwch dîm rheoli i sicrhau bod y disgyblion yn cael addysg dda. Gyda dros 350,000 o leoedd i lywodraethwyr yn Lloegr, llywodraethwyr yw llu gwirfoddoli mwya'r wlad.

Bydd cynrychiolwyr sy'n rhiant-lywodraethwyr (PGRs) yn cael eu hethol gan riant-lywodraethwyr i gyfleu barn rhieni i'w hawdurdod lleol.

Mae swyddogaethau'r llywodraethwyr a'r cynrychiolwyr rhieni yn bwysig iawn a gallant fod yn ffordd ragorol o gael gwybod mwy am, a dylanwadu ar, addysg yn ysgol eich plentyn neu'r ardal leol.

Rhoi eich barn

Gallwch gysylltu ag ysgol eich plentyn i gael trafodaeth anffurfiol am unrhyw agwedd o'u haddysg.

Disgwylir i ysgolion geisio safbwyntiau rhieni fel rhan o'u proses hunanwerthuso.

Bydd ysgolion yn cael eu harolygu gan Ofsted bob tair blynedd o leiaf. Bydd yr ysgol yn rhoi gwybod i chi pan fydd archwiliad ar y gorwel, a chewch chithau'r cyfle i fynegi eich barn am ysgol eich plentyn i'r arolygwyr.

Os ydych chi am wneud cwyn

Mae gan Ofsted y grym i ymchwilio i rai mathau o gwynion gan rieni - er y dylech godi unrhyw broblemau gyda'r ysgol yn gyntaf yn y rhan fwyaf o achosion.

Allweddumynediad llywodraeth y DU