Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Perfformiad ysgolion: canlyniadau profion ac adroddiadau Ofsted

Pan fyddwch yn dewis ysgol gynradd neu uwchradd ar gyfer eich plentyn, dylech holi'r awdurdod lleol, edrych ar brosbectysau ysgol ac ymweld ag ysgolion er mwyn cael cymaint o wybodaeth â phosib. Mae tablau perfformiad (neu gyflawniad a chyrhaeddiad) ysgolion, ac adroddiadau Ofsted (Y Swyddfa Safonau mewn Addysg, Gwasanaethau Plant a Sgiliau) yn ffynonellau gwybodaeth da eraill.

Sut mae cael gwybodaeth am ysgolion

Mae'r rhan fwyaf o ysgolion yn argraffu eu prosbectws eu hunain ar gyfer rhieni, sy'n cynnwys manylion yr hyn sydd ar gael. Efallai y bydd modd i chi gael yr wybodaeth hon ar-lein hefyd ar wefan yr ysgol.

Mae'r gwasanaeth 'Dod o hyd i ysgolion a Chanolfannau Plant Cychwyn Cadarn' yn ddefnyddiol i gael gwybodaeth am ysgolion. Drwy deipio eich cod post, gallwch gael manylion cyswllt ysgolion ger eich cartref, a dolenni at eu gwefan os oes ganddynt un.

Cewch hefyd ddefnyddio’r gwasanaeth i ddarllen:

  • tablau perfformiad ysgolion
  • Adroddiadau Ofsted
  • Proffiliau Ysgol (mae rhywfaint ar gael ar-lein – bydd rhagor yn cael eu hychwanegu yn y dyfodol)

Tablau perfformiad ysgolion

Bob blwyddyn, mae’r Adran Addysg yn cyhoeddi gwybodaeth ynghylch perfformiad disgyblion pob ysgol.

Mae'r tablau hyn yn ganllaw i ba mor dda y mae ysgol yn llwyddo. Maent yn rhestru canlyniadau profion y Cwricwlwm Cenedlaethol ar gyfer ysgolion cynradd a chanlyniadau arholiadau ar gyfer pob ysgol uwchradd yn Lloegr.

Gallwch ddefnyddio'r wybodaeth hon i weld sut mae pob ysgol yn eich ardal yn cymharu â chyfartaledd:

  • ardal eich awdurdod lleol
  • y wlad i gyd

Cyhoeddir y tablau canlynol bob blwyddyn:

  • Tablau Cyfnod Allweddol 2 (gyda chanlyniadau profion Cyfnod Allweddol 2 ar gyfer holl ysgolion cynradd y wladwriaeth)
  • Tablau Cyfnod Allweddol 4 (gyda chanlyniadau TGAU a chymwysterau cyfatebol ar gyfer holl ysgolion uwchradd y wladwriaeth a'r rhai annibynnol)
  • tablau addysg ôl-16 (gyda chanlyniadau arholiadau Uwch Gyfrannol a Safon Uwch, a chymwysterau lefel 3 cyfatebol ar gyfer pob ysgol a choleg)

Nid yw disgyblion yn gorfod sefyll profion Cyfnod Allweddol 3 rhagor. Felly, dim ond ar gyfer y blynyddoedd hyd at 2007 y mae tablau Cyfnod Allweddol 3 ar gael.

Yn ogystal â defnyddio'r gwasanaeth 'Dod o hyd i ysgolion, gwasanaethau gofal plant a Chanolfannau Plant Cychwyn Cadarn', gallwch archebu copïau o'r tablau drwy'r post.

Sgoriau gwerth ychwanegol cyd-destunol (CVA)

Mae'r sgoriau hyn yn dangos i ba raddau y mae ysgol wedi helpu ei myfyrwyr i ddatblygu rhwng diwedd un cyfnod allweddol ac un arall.

Mae sgoriau CVA yn ategu canlyniadau'r profion a'r arholiadau a gyhoeddir er mwyn rhoi arweiniad teg i berfformiad ysgol.

Ni fydd canlyniadau profion ac arholiadau a sgoriau CVA yn rhoi darlun cyflawn o ysgol i chi. Fodd bynnag, mae'n bosib y byddant yn rhoi gwell darlun i chi o'r ysgol rydych chi'n ei hystyried.

Mae'r Adran Plant, Ysgolion a Theuluoedd yn cyhoeddi sgoriau CVA ar gyfer ysgolion ochr yn ochr â'r tablau perfformiad.

Darllen adroddiad Ofsted yr ysgol

Mae Ofsted yn arolygu pob un o ysgolion y wladwriaeth yn Lloegr bob tair blynedd o leiaf. Ar ôl cynnal yr arolygiad, mae Ofsted yn cyhoeddi adroddiad y gall y cyhoedd ei weld.

Pan fyddant yn asesu ysgol, bydd arolygwyr Ofsted yn ystyried y canlynol:

  • hunanwerthusiad yr ysgol (sut mae'r ysgol yn asesu ei pherfformiad ei hun)
  • data ar berfformiad
  • gwaith disgyblion
  • arsylwadau ar wersi
  • sylwadau'r rhieni
  • trafodaethau gyda disgyblion a staff

Bydd adroddiad yr arolygiad yn cynnwys asesiad cyffredinol o berfformiad yr ysgol, ynghyd â barn benodol am y canlynol:

  • llwyddiannau a safonau
  • datblygiad a lles personol y disgyblion
  • safon yr addysgu a'r dysgu
  • sut mae'r cwricwlwm yn cael ei ddysgu
  • y gofal, yr arweiniad a'r gefnogaeth a ddarperir gan yr ysgol
  • y modd yr arweinir ac y rheolir yr ysgol

Seilir y farn ar raddfa o un i bedwar:

  • un – eithriadol
  • dau – da
  • tri – boddhaol
  • pedwar – annigonol

Mae'r adroddiad hefyd yn awgrymu beth y dylai'r ysgol ei wneud er mwyn gwella. Disgwylir i'r ysgol ddefnyddio awgrymiadau Ofsted yn sail i wneud gwelliannau mor fuan ag y bo modd.

Proffil Ysgol

Bydd nifer o ysgolion yn rhoi adroddiad ar eu cynnydd yn y meysydd a nodwyd gan Ofsted mewn Proffil Ysgol blynyddol. Gan fod arolygon Ofsted yn cael eu cynnal unwaith bob tair blynedd, gallwch holi a oes gan y Proffil Ysgol blynyddol wybodaeth ddiweddarach.

Allweddumynediad llywodraeth y DU