Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Apelio yn erbyn penderfyniad yn gwrthod lle mewn ysgol

Nid yw'ch plentyn yn sicr o gael lle yn un o'r ysgolion o'ch dewis. Os na chynigir lle i'ch plentyn, gallwch apelio yn erbyn y penderfyniad wrth banel apêl annibynnol.

Os na chaiff eich plentyn le yn yr ysgol o’ch dewis

Bydd manylion ynghylch sut i apelio i'w gweld yn y llythyr derbyn a geir gan yr awdurdod lleol sy'n amlinellu ei gynnig. Yn y llythyr hefyd, nodir dyddiad cau ac mae'n rhaid i chi apelio erbyn y dyddiad hwnnw. Mewn rhai ardaloedd, efallai y cewch gyflwyno'ch apêl ar-lein.

Os nad yw'ch plentyn wedi cael lle mewn ysgol bydd angen i chi gysylltu â thîm derbyn eich awdurdod lleol. Gallant roi gwybod i chi pa ysgolion sydd â lleoedd gwag.

Proses apelio

Caiff apelau eu hystyried gan banel apêl annibynnol sy'n cynnwys rhwng tri a phum aelod o'r cyhoedd. Dim ond un apêl y gallwch ei wneud ar gyfer pob ysgol nad yw'n cynnig lle i'ch plentyn. Os oes mwy nag un ysgol yn gwrthod derbyn eich plentyn, gallwch wneud apelau ar wahân.

Dosbarthiadau babanod

Yn ôl y gyfraith, 30 o ddisgyblion ar y mwyaf a ganiateir fel arfer mewn dosbarthiadau babanod ac ynddynt blant pump, chwech a saith mlwydd oed.

Gellir gwrthod ceisiadau os yw holl ddosbarthiadau babanod yr ysgol wedi cyrraedd eu llawn faint yn ôl y gyfraith. Yn y math hwn o apêl, dim ond y canlynol y caiff y panel ei ystyried:

  • a fyddai’r plentyn wedi cael cynnig lle petai’r trefniadau derbyn wedi’u rhoi ar waith yn briodol
  • a fyddai'r plentyn wedi cael cynnig lle pe na bai'r trefniadau yn mynd yn groes i'r meini prawf a nodwyd yn y Cod Derbyn i Ysgolion
  • a fyddai awdurdod derbyn rhesymol wedi penderfynu gwrthod lle i'r plentyn dan amgylchiadau'r achos

Pryd bydd eich apêl yn cael ei gynnal?

Rhaid i'r awdurdod derbyn ysgrifennu atoch o leiaf 10 diwrnod ysgol cyn y gwrandawiad i gadarnhau'r dyddiad. Gall mudiadau megis y Ganolfan Cyngor am Addysg (ACE) gynnig cyngor wrth i chi baratoi eich achos.

Cylch derbyn ysgolion uwchradd

Rhaid cynnal apelau ar gyfer ceisiadau prydlon (penderfyniadau a anfonwyd ar y diwrnod cynnig cenedlaethol) cyn 6 Gorffennaf. Os bydd 6 Gorffennaf ar benwythnos, rhaid eu cynnal ar y diwrnod gwaith nesaf.

Apelau ysgolion cynradd

Rhaid cynnal apelau cyn pen 40 diwrnod ysgol o gyflwyno'r apêl, neu cyn diwedd tymor yr haf - pa un bynnag yw'r cynharaf.

Apelau ar gyfer ceisiadau hwyr

Dylid cynnwys apelau o'r fath gyda'r apelau hynny a gynhelir ar gyfer yr un cylch derbyn. Fodd bynnag, os nad yw hyn yn ymarferol, rhaid cynnal apelau ar gyfer ceisiadau hwyr cyn pen 30 diwrnod ysgol o gyflwyno'r apêl.

Derbyn myfyrwyr chweched dosbarth mewn ysgolion

Rhaid cynnal apelau cyn pen 40 diwrnod ysgol o gyflwyno'r apêl.

Derbyn yn ystod y flwyddyn

Yn achos ceisiadau a wneir y tu allan i'r broses dderbyn wedi'i hamserlennu, rhaid cynnal gwrandawiadau cyn pen 30 diwrnod ysgol o gyflwyno'r apêl.

Y gwrandawiad

Cam un

Bydd cynrychiolydd yr awdurdod derbyn yn esbonio i'r panel apêl y rhesymau dros wrthod eich cais.

Yn gyntaf, rhaid i'r panel ystyried a yw trefniadau derbyn cyhoeddedig yr ysgol yn cydymffurfio â gofynion gorfodol y Cod Derbyn i Ysgolion. Rhaid i'r panel hefyd benderfynu a ddefnyddiwyd y trefniadau derbyn yn briodol yn achos yr unigolyn.

Cam dau

Os bydd y panel yn penderfynu bod rheswm da dros wrthod eich cais, byddwch yn dal i gael cyfle i ddatgan pam eich bod yn apelio yn erbyn y penderfyniad. Byddwch yn gallu:

  • esbonio pam eich bod yn credu mai'r ysgol honno fyddai'r lle gorau i'ch plentyn
  • dweud wrth y panel am unrhyw amgylchiadau arbennig a allai gyfiawnhau rhoi lle i'ch plentyn
  • cyflwyno tystiolaeth neu ddogfennau ychwanegol a allai fod yn berthnasol i'ch apêl, megis nodyn meddygol gan feddyg i gefnogi cais ar sail anghenion meddygol neu gymdeithasol

Cam tri

Os bydd y panel yn penderfynu bod eich achos chi'n gryfach, bydd yn derbyn eich apêl ac fe gaiff eich plentyn le yn yr ysgol. Os bydd yn penderfynu bod achos yr awdurdod derbyn yn gryfach, bydd yn cadw at y penderfyniad i beidio â chynnig lle i'ch plentyn.

Y penderfyniad

Rhaid i chi ac awdurdod derbyn yr ysgol blygu i benderfyniad y panel apêl - a dim ond y llysoedd all ei wyrdroi.

Bydd y panel yn anfon llythyr atoch chi a'r awdurdod derbyn o fewn saith niwrnod. Os bydd eich apêl yn llwyddo, cynigir lle yn yr ysgol i'ch plentyn. Os na fyddwch yn llwyddiannus, gallwch roi enw'ch plentyn ar restr aros.

Cwyno am y broses apelio

Os ydych yn anhapus ynghylch y modd y gweithredwyd y broses apelio, gallwch gwyno wrth yr Ombwdsmon Llywodraeth Leol. Er y gall argymell apêl o'r newydd, nid oes gan yr Ombwdsmon hawl i adolygu na gwyrdroi penderfyniad y panel apêl.

Os bydd newid yn eich amgylchiadau, efallai y gallwch wneud cais am gael apelio eto, os yw'r awdurdod derbyn yn credu bod y newid yn berthnasol i'ch cais.

Yr Ysgrifennydd Gwladol dros Addysg

Cyrff annibynnol yw'r paneli apêl, felly ni all yr Ysgrifennydd Gwladol dros Addysg adolygu na gwyrdroi penderfyniadau paneli unigol. Y cyfan y gall ei wneud yw ystyried cwynion ynghylch a sefydlwyd y panel apêl yn gywir ai peidio gan yr awdurdod derbyn.

Allweddumynediad llywodraeth y DU