Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Dod o hyd i ysgol addas ar gyfer eich plentyn

Bydd cael gwybod cymaint ag y gallwch yn eich helpu i wneud penderfyniad gwybodus am ba ysgolion i wneud cais iddynt. Gofynnwch i chi eich hun beth rydych chi - a'ch plentyn - ei angen gan ysgol, a dechreuwch gasglu gwybodaeth yn gynnar.

Cael gwybodaeth am ysgolion

Mae'n syniad da dechrau casglu gwybodaeth cyn gynted â phosibl, er mwyn i chi allu cynllunio ymweliadau ag ysgolion a gwneud ceisiadau mewn pryd. Efallai y byddai o fudd i chi wneud y canlynol:

  • holi eich awdurdod lleol i gael gwybodaeth am yr ysgolion yn eich ardal
  • gofyn i chi'ch hun pa un o'r ysgolion fyddai'n gweddu orau i anghenion eich plentyn
  • ymweld ag ysgolion
  • darllen prosbectysau'r ysgolion unigol, data am gyflawniad a chyrhaeddiad yr ysgolion ac adroddiadau Ofsted

Cysylltu â'ch awdurdod lleol

Mae eich awdurdod lleol yn ffynhonnell wybodaeth ddefnyddiol. Bob blwyddyn, mae awdurdodau lleol yn llunio llawlyfr prosbectws (sef y llyfryn 'Gwybodaeth i Rieni' yn y rhan fwyaf o ardaloedd). Mae'r llyfryn, a gyhoeddir fel arfer yn yr haf, ar gael am ddim i rieni. Bydd yn cynnwys manylion am nifer o feysydd pwysig, gan gynnwys:

  • y broses ymgeisio a dyddiadau cau
  • nifer y disgyblion ym mhob ysgol
  • sut y bydd llefydd yn cael eu dyrannu os yw'r ysgol wedi'i gordanysgrifio (y meini prawf derbyn)

Gallwch gael gafael ar gopi drwy gysylltu â'ch awdurdod lleol neu drwy godi un yn eich llyfrgell leol.

Cael gwybodaeth ar-lein

Gallwch gael gwybodaeth am ysgolion ar wefan eich awdurdod lleol. Bydd y dolenni isod yn gofyn i chi deipio ble'r ydych chi'n byw ac yna'n mynd â chi i'r tudalennau perthnasol ar wefan eich awdurdod lleol.

Pa fath o ysgol sy'n gweddu orau i anghenion eich plentyn?

Ar ôl i chi ddod o hyd i rai ysgolion lleol a allai fod yn addas i'ch plentyn, gwnewch restr fer.

Cyn i chi wneud cais am ysgol, meddyliwch am bersonoliaeth eich plentyn a beth yw eu hanghenion. Hefyd ystyriwch anghenion eich teulu: fyddai'n well gennych ysgol sy'n gallu cynnig mynediad i ofal plant ar ôl yr ysgol? Mae pob plentyn yn wahanol, ac efallai y gwelwch chi nad yr ysgol sydd â'r enw gorau o reidrwydd yw'r dewis gorau i'ch plentyn.

Pa un yw hoff ysgol eich plentyn?

Ceisiwch ganfod beth sy'n bwysig iddyn nhw. Efallai na fyddwch chi'n cytuno ond mae'n bwysig siarad â nhw ynghylch ble hoffen nhw fynd. Fe all hyn fod yn fwy perthnasol pan fydd eich plentyn yn hŷn a chithau'n dewis ysgol uwchradd. I ba ysgol mae eu ffrindiau yn mynd? Mae dechrau ysgol newydd yn gallu bod yn brofiad anodd ac mae cael un neu fwy o ffrindiau agos yno yn helpu.

Oes angen sylw arbennig ar eich plentyn?

Os yw eich plentyn yn alluog dros ben, neu â phatrwm ymddygiad penodol neu ag anghenion arbennig, mae'n bwysig dod o hyd i ysgol a all roi'r gefnogaeth angenrheidiol iddyn nhw.

Oes gan eich plentyn ddiddordebau penodol?

Os ydyn nhw'n hoff iawn o chwaraeon neu bwnc penodol (megis mathemateg, ieithoedd, celf neu gerddoriaeth) efallai y byddwch am ystyried sut gall yr ysgol helpu i ddatblygu eu diddordebau. Er bod holl ysgolion y wladwriaeth yn dilyn y Cwricwlwm Cenedlaethol, mae rhai yn arbenigo ar bwnc arbennig. Ceir rhagor am Ysgolion arbenigol yn 'Mathau o ysgolion'.

Pa wasanaethau estynedig sy'n cael eu darparu gan yr ysgol?

Mae mwy a mwy o ysgolion yn cynnig gwasanaethau y tu allan i oriau arferol ysgol, megis clybiau brecwast neu glybiau ar ôl ysgol.

Yr ysgolion eu hun sy’n penderfynu pa wasanaethau estynedig i gynnig. I gael gwybodaeth ynghylch pa wasanaethau sy’n cael eu cynnig gan ysgol eich plentyn, dylech gysylltu â’r ysgol yn uniongyrchol.

Ymweld â'r ysgol

Os ydych chi'n meddwl bod ysgol yn gweddu i'ch plentyn, ewch i weld yr ysgol honno. Mae'r rhan fwyaf o ysgolion yn cael diwrnodau neu nosweithiau agored, sy'n rhoi cyfle da i weld ysgolion ar eu gorau, cael taith o amgylch yr ysgol, cwrdd â staff a chael golwg ar waith y plant Tra'ch bod chi yno, gofynnwch y canlynol i chi'ch hun:

  • oes yna deimlad groesawgar yn yr ysgol, ac a ydy gwaith y plant sy'n cael ei arddangos yn creu argraff arnoch chi
  • oes yna ddigon o offer yn yr ysgol - holwch ble mae'r disgyblion yn gwneud chwaraeon, a pha gyfleusterau cyfrifiaduron sydd ar gael
  • sut bydd eich plentyn yn mynd i'r ysgol - meddyliwch am lwybrau diogel, cludiant a hyd y siwrnai (mae'n werth cofio bod siwrneiau hir yn gallu bod yn flinedig i blant a bod boreau a nosweithiau gaeafol yn dywyll ac oer)
  • a oes gan yr ysgol Gymdeithas Rhieni ac Athrawon - mae'n bosib y bydd y Gymdeithas yn gallu rhoi mwy o wybodaeth i chi am yr ysgol a chyngor am y broses derbyn

Ceir mwy o wybodaeth am Gymdeithasau Rhieni ac Athrawon yn 'Bod yn rhan o addysg eich plentyn'.

Data am berfformiad ysgolion ac adroddiadau Ofsted

Efallai hefyd yr hoffech ddarllen prosbectysau ysgolion unigol, data cyflawniad a chyrhaeddiad a'r adroddiadau diweddaraf am ysgolion gan Ofsted.

Allweddumynediad llywodraeth y DU