Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Gwnewch gais am le mewn ysgol y wladwriaeth yn Lloegr ar-lein neu drwy ddefnyddio ffurflen gais gyffredin eich awdurdod lleol. Sicrhewch eich bod yn gwneud cais erbyn y dyddiad cau, neu gallech golli'r cyfle i gael cynnig lle yn yr ysgol o'ch dewis.
Mae awdurdodau lleol yn cydlynu derbyniadau i bob un o ysgolion y wladwriaeth, hyd yn oed os nad yr awdurdod lleol yw awdurdod derbyn yr ysgol.
I wneud cais, dylech lenwi ffurflen gais gyffredin yr awdurdod lleol, ar-lein neu ar bapur. Bydd hon ar gyfer pob ysgol yn ardal yr awdurdod lleol hwnnw (a hefyd ar gyfer ceisiadau i ysgolion uwchradd mewn ardaloedd awdurdodau lleol eraill).
Gallwch chwilio am ysgolion yn eich ardal chi drwy ddilyn y ddolen ‘Dod o hyd i ysgolion a Chanolfannau Plant Cychwyn Cadarn’.
Bydd ffurflen gais ar-lein yr awdurdod lleol (neu'r ffurflen gais bapur) yn gofyn i chi restru'ch hoff ysgolion. Efallai y gofynnir i chi nodi un neu ragor o ysgolion cynradd, ac ar gyfer ysgolion uwchradd cewch ddewis o leiaf dair ysgol. Polisi eich awdurdod lleol fydd yn pennu a allwch chi wneud cais i fwy na thair ysgol uwchradd.
I wneud cais am le mewn ysgol ar-lein, dilynwch un o'r dolenni isod ac wedyn teipio'ch cod post yn y man priodol. Byddwch wedyn yn mynd i'r dudalen berthnasol ar wefan eich awdurdod lleol.
I gael copi o'r ffurflen gais ar bapur, cysylltwch â'ch awdurdod lleol.
Gallwch wneud cais am le mewn ysgol unrhyw adeg, ac mae'n rhaid ystyried eich cais ar unwaith. Fodd bynnag, sicrhewch eich bod yn gwneud cais am le mewn ysgol mewn da bryd: mae'r broses dderbyn yn dechrau o gwmpas dechrau tymor yr hydref ar gyfer mynediad y mis Medi dilynol.
Holwch yr awdurdod lleol i weld erbyn pryd yn union y dylech gyflwyno'ch cais ynghyd â'r cyfeiriad cywir ar gyfer ei anfon. Mae hyn yn bwysig iawn. Os byddwch yn methu'r dyddiad cau, mae'n llai tebygol y cewch gynnig lle yn yr ysgol o'ch dewis.
Mae'r rhan fwyaf o awdurdodau lleol yn pennu dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau unrhyw bryd yn yr hydref yn y flwyddyn cyn i'ch plentyn ddechrau mewn ysgol, pan fydd yn dair neu'n bedair oed.
Gan fod gan y rhan fwyaf o ardaloedd awdurdodau lleol ddosbarth derbyn ar gyfer plant pedair oed, mae'n syniad da dechrau holi am ysgolion cynradd ymhell cyn iddynt droi'n bedair oed.
Dechreuwch ddewis eich hoff ysgol uwchradd cyn gynted ag y bydd eich plentyn yn mynd i Flwyddyn 6.
Mae'r rhan fwyaf o awdurdodau lleol yn gosod dyddiad cau ym mis Tachwedd neu Ragfyr ar gyfer cyflwyno ceisiadau.
Bydd yr awdurdod lleol yn anfon llythyr atoch gyda manylion y lle yn yr ysgol ar gyfer eich plentyn ar 1 Mawrth (neu'r diwrnod gwaith nesaf), neu byddant yn anfon e-bost atoch os ydych chi wedi gwneud cais ar-lein ac wedi gofyn am e-bost ganddyn nhw.
Os byddwch chi'n gwneud cais am le i breswylio, mae'n bosib y gofynnir i chi ddod am gyfweliad neu i roi gwybodaeth ychwanegol gyda'ch cais er mwyn i'r awdurdod derbyn allu asesu pa mor addas yw'ch plentyn i breswylio.
Os bydd ysgol yn derbyn mwyn o geisiadau na nifer y llefydd sydd ar gael, bydd yr awdurdod derbyn yn rhoi ei 'feini prawf derbyn' cyhoeddedig ar waith er mwyn penderfynu pa blant a gaiff gynnig lle. Gall mathau penodol o ysgolion ofyn am fwy o wybodaeth er mwyn eu helpu i ddefnyddio'r meini prawf hyn:
Mae'n bosib y gofynnir i'ch plentyn hefyd sefyll prawf os byddwch chi'n gwneud cais i ysgol sy'n dewis disgyblion ar sail gallu, megis ysgolion gramadeg a rhai ysgolion annibynnol.
Os byddwch chi'n symud tŷ a bod yn rhaid i chi newid ysgol eich plentyn, rhaid i chi fynd drwy'r broses dderbyn eto. Cysylltwch â'ch awdurdod lleol newydd i gael rhagor o wybodaeth. Dylech wneud hyn ymhell ymlaen llaw - mae'n bosibl y bydd rhai ysgolion yn eich ardal newydd eisoes yn llawn.
Os yr ydych chi wedi symud i Loegr gyda’ch plentyn gallwch wneud cais iddynt fynychu ysgol a gynhelir neu academi yn ddifater o’i statws mewnfudo. Mae’n bosib y bydd hyn yn gymwys i:
Fodd bynnag, mae rheolau gwahanol yn gweithredu mewn perthynas i’r rheiny sy’n gwneud ceisiadau ar gyfer plant sydd ddim yn byw yn y DU ar hyn o bryd. Mae’r rheolau hyn yn cael eu hesbonio yn Y Cod Derbyn i Ysgolion.
Os ydych chi'n anhapus gyda'ch cynnig, yna mae gennych yr hawl i apelio i banel apêl annibynnol. Edrychwch yn 'Apelio yn erbyn penderfyniad yn gwrthod lle mewn ysgol' i gael gwybod mwy.