Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Dewis ysgol: dechrau arni

Dewis ysgol yw un o’r penderfyniadau pwysicaf y byddwch chi'n ei wneud ar ran eich plentyn. Er mwyn cael y cyfle gorau i gael lle i'ch plentyn yn yr ysgol gynradd neu'r ysgol uwchradd o'ch dewis chi, rhaid i chi wneud cais mewn da bryd.

Cynllunio a pharatoi

Fe all y broses o ddewis ysgol i'ch plentyn fod yn ddigon i'ch dychryn, ond gall cynllunio a pharatoi yn gynnar eich helpu i wneud dewis gwybodus.

Cofiwch fod yn rhaid i bob rhiant wneud cais - hyd yn oed os yw ysgol gynradd neu feithrinfa eich plentyn yn gysylltiedig â'r ysgol yr hoffech chi i'ch plentyn fynd iddi nesaf, chewch chi ddim eich ystyried am le oni bai eich bod yn gwneud cais.

Wrth ddechrau ar y broses yn gynnar, byddwch yn llai tebygol o fethu'r dyddiadau cau allweddol.

Dod o hyd i ysgol ar gyfer eich plentyn

Dod o hyd i ysgol yn eich ardal chi

Dechreuwch drwy chwilio ar-lein am ysgol yn eich ardal chi. Dilynwch y ddolen 'Dod o hyd i ysgolion a Chanolfannau Plant Cychwyn Cadarn’, a rhowch eich cod post yn y blwch priodol er mwyn dod o hyd i'r holl ysgolion yn eich ardal. Gallwch hefyd gysylltu â'ch awdurdod lleol a gofyn am restr o ysgolion yn eich ardal.

Cael gwybod mwy

Unwaith y byddwch yn gwybod pa ysgolion sydd yn eich ardal, ceisiwch gael gafael ar gymaint â phosibl o wybodaeth amdanynt. Bydd hyn yn rhoi gwell syniad i chi o ba ysgolion fydd orau ar gyfer eich plentyn. Er enghraifft, efallai yr hoffech:

  • ymweld â'r ysgolion
  • darllen adroddiadau diweddaraf Ofsted am yr ysgolion
  • darllen llawlyfrau'r ysgolion a'r awdurdod lleol

Gwneud cais am le mewn ysgol

Ar ôl i chi lunio rhestr fer o'r ysgolion sydd orau gennych, bydd hi'n bryd i chi wneud cais am le.

Meini prawf derbyn

Cyn cyflwyno'ch cais, mae'n bwysig iawn darllen meini prawf derbyn yr ysgol; mae gan wahanol ysgolion wahanol feini prawf. Os yw'r ysgol o'ch dewis yn boblogaidd, bydd y meini prawf derbyn yn rhoi syniad realistig i chi o siawns eich plentyn o gael lle yno.

Peidiwch â methu'r dyddiad cau

gwnewch gais yn ystod tymor yr hydref flwyddyn cyn i'ch plentyn ddechrau

Mae'n rhaid i chi gyflwyno'ch cais erbyn dyddiadau penodol pwysig.

Mae'r dyddiadau'n amrywio o'r naill awdurdod lleol i'r llall felly mae'n werth holi eich awdurdod lleol ac anfon eich ffurflen neu wneud cais ar-lein mewn da bryd. Mae'n bwysig cofio y gallwch beryglu'ch cais os byddwch yn methu'r dyddiad cau.

Pryd fyddwch chi'n cael gwybod canlyniad eich cais

Ar gyfer ysgolion uwchradd, mae awdurdodau derbyn yn anfon llythyrau cynnig ar 1 Mawrth. Mae dyddiadau llythyrau cynnig ysgolion cynradd yn amrywio, felly mae'n werth holi eich awdurdod lleol.

Apelio yn erbyn penderfyniad yn gwrthod lle mewn ysgol

Weithiau, bydd mwy o blant yn gwneud cais am le mewn ysgol nag sydd o lefydd. Os na fydd eich plentyn yn llwyddo i gael lle yn eich dewis ysgol, bydd gennych hawl gyfreithiol i apelio. Mynnwch gael gwybod sut mae'r broses apelio'n gweithio a beth fydd yn digwydd unwaith y gwneir y penderfyniad.

Addysg i blant dan bump

Mae addysg i blant dan bump ar gael mewn meithrinfeydd, cylchoedd chwarae a dosbarthiadau derbyn. Mynnwch gael gwybod mwy am sut i annog eich plentyn i ddechrau dysgu a sut i'w paratoi ar gyfer eu diwrnod cyntaf yn yr ysgol.

Cymru, Gogledd Iwerddon a'r Alban

Os nad yw'r ysgol y mae gennych ddiddordeb ynddi yn Lloegr, rhowch gynnig ar y dolenni hyn:

Allweddumynediad llywodraeth y DU