Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Mathau o ysgolion

Mae sawl gwahanol fath o ysgol y wladwriaeth yn ogystal ag ysgolion annibynnol. I'ch helpu chi i ddewis ar ran eich plentyn, ceir rhywfaint o wybodaeth am bob math o ysgol a'u trefniadau derbyn ar y dudalen hon.

Ysgolion prif ffrwd y wladwriaeth

Mae gan bob plentyn yn Lloegr rhwng pump ac 16 oed hawl i gael lle am ddim yn un o ysgolion y wladwriaeth. I ysgolion y wladwriaeth y bydd y rhan fwyaf yn mynd.

Fel arfer mae plant yn dechrau yn yr ysgol gynradd yn bedair neu bump oed, ond erbyn hyn mae gan nifer o ysgolion ddosbarth derbyn ar gyfer plant pedair oed. Fel arfer, bydd plant yn gadael pan fyddant yn 11 oed, ac yn symud ymlaen i'r ysgol uwchradd. Mae'r rhan fwyaf o ysgolion y wladwriaeth yn derbyn bechgyn a merched, er y ceir rhai ysgolion ar gyfer bechgyn neu ferched yn unig.

Caiff y pedwar prif fath o ysgolion y wladwriaeth eu hariannu gan awdurdodau lleol. Mae pob un ohonynt yn dilyn y Cwricwlwm Cenedlaethol ac yn cael eu harolygu gan Ofsted yn rheolaidd.

Ysgolion cymuned

Rhedir ysgolion cymuned gan yr awdurdod lleol, a'r awdurdod lleol

  • sy'n cyflogi'r staff
  • sy'n berchen ar y tir a'r adeiladau
  • sy'n penderfynu pa ‘feini prawf derbyn’ i'w defnyddio (fe'i defnyddir i ddyrannu llefydd os oes gan yr ysgol fwy o ymgeiswyr na llefydd)

Bydd ysgolion cymuned yn ceisio creu cysylltiadau cryf gyda'r gymuned leol. Gallant wneud hyn mewn nifer o ffyrdd, gan gynnwys darparu’r defnydd o’u cyfleusterau, neu ddarparu gwasanaethau megis gofal plant a dosbarthiadau i oedolion sy’n dysgu.

Ysgolion Sefydledig ac Ysgolion Ymddiriedolaeth

Bydd ysgolion sefydledig yn cael eu cynnal gan eu corff llywodraethu eu hunain, sy'n cyflogi'r staff ac yn pennu'r meini prawf derbyn. Fel arfer, corff llywodraethu neu sefydliad elusennol sy'n berchen ar y tir a'r adeiladau.

Math o ysgol sefydledig yw ysgol ymddiriedolaeth, sy'n ffurfio ymddiriedolaeth elusennol gyda phartner allanol. Er enghraifft, busnes neu elusen addysgol - gan anelu at godi safonau ac archwilio ffyrdd newydd o weithio.

Y corff llywodraethu sy'n gwneud y penderfyniad i ddod yn Ysgol Ymddiriedolaeth, gyda'r rhieni'n cael mynegi eu barn.

Ysgolion gwirfoddol a gynorthwyir

Ysgolion crefyddol neu ysgolion 'ffydd' yw ysgolion gwirfoddol a gynorthwyir gan fwyaf, er y gall unrhyw un wneud cais am le. Fel gydag ysgolion sefydledig, y corff llywodraethu:

  • sy'n cyflogi'r staff
  • sy'n gosod y meini prawf derbyn

Fel arfer, sefydliad elusennol sy'n berchen ar y tir a'r adeiladau - mudiad crefyddol yn aml. Mae'r corff llywodraethu'n cyfrannu at gostau adeiladau a chostau cynnal a chadw.

Ysgolion gwirfoddol a reolir

Mae'r ysgolion gwirfoddol a reolir yn debyg i ysgolion gwirfoddol a gynorthwyir, ond maent yn cael eu rhedeg gan yr awdurdod lleol. Fel gydag ysgolion cymuned, yr awdurdod lleol:

  • sy'n cyflogi staff yr ysgol
  • sy'n gosod y meini prawf derbyn

Elusen, sy'n sefydliad crefyddol yn aml, sy'n berchen ar adeiladau a thir yr ysgol fel arfer, ac sydd hefyd yn penodi rhai o aelodau'r corff llywodraethu.

Ysgolion y wladwriaeth sydd â nodweddion penodol

O fewn system ysgolion y wladwriaeth a ddisgrifir uchod, ceir nifer o ysgolion sydd â nodweddion penodol. Yn yr un modd ag ysgolion eraill y wladwriaeth, yr awdurdod lleol sy'n cydlynu'r broses dderbyn. Fodd bynnag, efallai fod meini prawf derbyn neu drefniadau ariannu ambell un yn wahanol.

Academïau

Ysgolion pob gallu a reolir yn annibynnol yw academïau. Fe'u sefydlir gan noddwyr o fyd busnes, grwpiau ffydd neu grwpiau gwirfoddol mewn partneriaeth â'r Adran Addysg a'r awdurdod lleol. Gyda'i gilydd, maent yn ariannu'r tir a'r adeiladau, a'r llywodraeth sy'n gofalu am yr holl gostau cynnal.

Colegau Technoleg Dinas

Ysgolion heb ffi a reolir yn annibynnol yw'r rhain. Maen nhw mewn ardaloedd trefol ar gyfer disgyblion rhwng 11 ac 18 oed o bob gallu. Maen nhw'n rhoi pwyslais ar wyddoniaeth, technoleg a byd gwaith ac yn cynnig amrywiol gymwysterau galwedigaethol yn ogystal â chymwysterau TGAU a Safon Uwch.

Ysgolion arbennig cymunedol a sefydledig

Bydd ysgolion arbennig yn darparu ar gyfer plant ag anghenion addysgol arbennig penodol. Gall y rhain gynnwys anableddau corfforol neu anableddau dysgu.

Ysgolion ffydd

Mae'r ysgolion ffydd yn cael eu rhedeg yn yr un ffordd ag ysgolion eraill y wladwriaeth gan amlaf. Fodd bynnag, efallai y bydd eu statws o ran ffydd yn cael ei adlewyrchu yn eu cwricwlwm addysg grefyddol, eu meini prawf derbyn a'u polisïau staffio.

Ysgolion gramadeg

Mae ysgolion gramadeg yn dewis pob disgybl neu'r rhan fwyaf ohonynt ar sail gallu academaidd.

Ysgolion preswyl a gynhelir

Mae ysgolion preswyl a gynhelir yn cynnig hyfforddiant am ddim ond yn codi ffioedd am fwyd a llety.

Ysgolion annibynnol

Ceir oddeutu 2,300 o ysgolion annibynnol yn Lloegr. Bydd yr ysgolion hyn yn pennu eu polisïau derbyn a'u cwricwlwm eu hunain. Caiff yr ysgolion hyn eu hariannu gan ffioedd a delir gan rieni ac incwm o fuddsoddiadau. Mae gan ychydig dros eu hanner statws elusennol.

Rhaid i bob ysgol annibynnol gofrestru gyda'r Adran Addysg. Er mwyn sicrhau bod yr ysgol yn cynnal y safonau a bennir yn ei dogfen gofrestru, caiff safonau eu monitro'n rheolaidd gan naill ai Ofsted neu arolygydd a argymhellwyd gan yr Ysgrifennydd Gwladol.

Allweddumynediad llywodraeth y DU