Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Mae gwasanaethau estynedig yn golygu gweithgareddau a gwasanaethau ychwanegol a gynigir gan ysgolion i ddisgyblion, eu teuluoedd a'r gymuned. Yn aml, cynhelir y gwasanaethau hyn y tu allan i oriau arferol yr ysgol, a gallant gynnwys mynediad at ofal plant, gweithgareddau chwaraeon a chymorth i ddysgu. Yma cewch wybod beth sydd ar gael, a gwybodaeth am gostau posib a chymorth ariannol.
Yr ysgolion eu hunain sy’n penderfynu pa wasanaethau estynedig maent am eu cynnig. I gael gwybodaeth ynghylch pa wasanaethau y mae ysgol eich plentyn yn eu cynnig, dylech gysylltu â’r ysgol yn uniongyrchol.
Dyma enghreifftiau o’r mathau o wasanaethau estynedig y gallai ysgolion eu cynnig:
Gall ysgolion godi ffi am weithgareddau gwasanaethau estynedig fel clybiau brecwast, clybiau y tu allan i’r ysgol (gan gynnwys clybiau gwaith cartref) a gofal plant. Gall y ffioedd hyn dalu am bethau fel costau staff dysgu neu staff eraill sy’n arwain gweithgareddau, neu athro cyflenwi a fydd yn dod i gynnal clwb. Ni ddylai cyfanswm y ffioedd fod yn uwch na chost darparu'r gweithgaredd, ac ni ddylid gofyn i unrhyw riant dalu am gostau plant eraill.
Hyd yn oed os cânt eu cynnal y tu allan i oriau’r ysgol, ni all ysgolion godi ffi am weithgareddau os ydynt yn rhan o’r canlynol:
Os ydych yn gweithio ac yn talu i’ch plentyn fynychu clybiau y tu allan i’r ysgol, efallai y gallwch gael credydau treth i'ch helpu gyda'r costau. Bydd swm y credydau treth a gewch chi yn dibynnu ar incwm y rhieni. Er hynny, er mwyn bod yn gymwys, mae'n rhaid bod y clwb, neu'r clybiau, wedi cofrestru ag Ofsted ar un o’r canlynol:
Nid oes rhaid i glybiau sy’n cael eu rhedeg yn uniongyrchol gan yr ysgol gofrestru.
Gallwch gael help â chostau’r gofal plant a ddarperir drwy’r gwasanaethau estynedig drwy elfen gofal plant y Credyd Treth Gwaith. I weld a ydych chi’n gymwys, dilynwch y ddolen isod.