Cyfweliadau i ddewis nani
Dewis rhywun i warchod eich plentyn yw un o'r penderfyniadau pwysicaf a wnewch chi erioed. Bydd cyfweliad wedi'i gynnal yn ofalus yn eich helpu i ddewis y person cywir ar gyfer y swydd. Dyma rai canllawiau syml i'ch helpu.
Dechrau arni
Y pethau cyntaf y bydd angen i chi eu gwneud fydd:
- llunio rhestr fer yn cynnwys y nanis posib o'r ceisiadau a dderbyniwch
- siarad dros y ffôn â phob ymgeisydd a ddewiswyd
- trefnu apwyntiadau ar gyfer cyfweliadau, gan ganiatáu o leiaf awr i bob ymgeisydd
- paratoi rhestr o gwestiynau a gofyn yr un cwestiynau i bob ymgeisydd
- gwneud nodiadau ymhob cyfweliad i'ch atgoffa o'u hatebion
Cwestiynau y gellir eu gofyn yn y cyfweliadau
Dyma rai enghreifftiau o gwestiynau effallai yr hoffech eu gofyn. Efallai yr hoffech ofyn cwestiynau ynglyn â'r materion sy'n bwysig i chi (efallai ynglyn ag agwedd y nani at losin neu wylio'r teledu ayb).
- ers pryd ydych chi'n nani?
- pam benderfynoch chi fod yn nani?
- enwch chwe gweithgaredd y gallai fy mhlant fod yn eu gwneud ar unrhyw ddiwrnod pe baech yn nani iddynt?
- sut fyddech chi'n mynd ati i siarad â rhiant pe baech yn poeni ynghylch unrhyw beth?
- beth yw eich profiad chi gyda phlant o'r un oed a'm rhai i?
- beth yw oedran y plant yr ydych wedi gweithio gyda nhw o'r blaen?
- pam ydych chi'n mwynhau gweithio â phlant?
- beth, yn eich tyb chi, yw eich cryfderau arbennig chi wrth weithio â phlant?
- a ydych chi wedi cael unrhyw hyfforddiant ym maes gofal plant a datblygu, ac os ydych chi, beth oedd hyd y cyrsiau?
- pa gymwysterau sydd gennych?
- beth yw eich barn chi ynglyn â strategaethau disgyblu cadarnhaol? (ni fyddai gweithiwr gofal plant byth yn defnyddio cosbi corfforol fel dull o ddisgyblu)
- a oes unrhyw agweddau ar eich gwaith yr ydych yn bwriadu eu gwella?
- sut fyddech chi'n treulio diwrnod gyda'm plentyn?
- pam wnaethoch chi adael eich swydd ddiwethaf, ac os yw'n berthnasol, pam fyddwch chi'n gadael eich swydd bresennol?
- pa anawsterau rydych chi wedi dod ar eu traws fel nani, gyda rhieni neu gyda phlant, a sut cawsant eu datrys?
- beth yw eich barn chi ynglyn â theuluoedd yn rhannu nani? (Os hoffech chi drefnu i rannu nani)
- faint o ddyddiau ydych chi wedi bod i ffwrdd o'r gwaith oherwydd salwch yn ystod y 12 mis diwethaf?
Gall asiantaethau nanis roi rhagor o enghreifftiau i chi o gwestiynau y gellir eu gofyn.
Oes gan y nani unrhyw gwestiynau i'w gofyn i chi?
Mae cyfweld yn broses ddwy ffordd. Cofiwch gynnig cyfle i'r nani ofyn cwestiynau i chi. Os oes gennych chi nani'n barod, a'ch bod yn cyfweld er mwyn dod o hyd i olynydd, rhowch gyfnod trosglwyddo iddynt gyda'r nani sy'n gadael.
Mae'n bosib y bydd eich nani newydd am siarad â rhywun amdanoch chi. Os mai hwn fydd y tro cyntaf i chi gyflogi nani, ac nad oes nani blaenorol ar gael i siarad â nhw, gallwch gynnig rhif ffôn ffrind iddynt er mwyn ffonio i gael geirda.
Manylion cyflogaeth
Ar ôl i chi ddewis eich nani, bydd yn rhaid i chi drafod y materion canlynol gyda nhw:
- eu cyflog (ynghyd â manylion trefniadau ar gyfer treth ac Yswiriant Cenedlaethol)
- sut y bydd yr arian yn cael ei dalu, bob mis ynteu bob wythnos, gyda siec ynteu'n uniongyrchol i'w cyfrif banc, ayb.
- oriau a dyletswyddau'r swydd
- pryd yr hoffech chi iddyn nhw ddechrau
- eu hawliau gwyliau ac a fydden nhw'n fodlon cymryd gwyliau ar adegau penodol, e.e. er mwyn cyd-fynd â thymhorau'r ysgol neu gyda'ch gwyliau blynyddol chi
- hyd y cyfnod prawf
Beth yw barn eich plant?
Mae'n bwysig eich bod yn gadael i'ch plant gyfarfod y nani posib - does dim angen dweud wrthyn nhw pan fyddwch yn eu cyflwyno y bydd y person hwn efallai'n nani iddynt. Gwyliwch sut y maent yn rhyngweithio â'ch plentyn. Fe all fod yn arwydd da os bydd y plant yn cael mwy o sylw ganddynt na chi. Hefyd, gwyliwch yn ofalus sut mae'ch plentyn yn ymateb iddynt.