Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Iau, 4 Hydref 2012

Dewis gofal plant

Mae rhoi eich plentyn yng ngofal dieithryn yn gam mawr, felly cyn i chi ddewis gofal plant efallai y byddwch yn dymuno gwneud rhywfaint o waith ymchwil. Mae’r Swyddfa Safonau Addysg, Gwasanaethau Plant a Sgiliau (Ofsted) yn ganllaw defnyddiol.

Cofrestriad Ofsted

Mae'n rhaid i warchodwyr plant a darparwyr gofal dydd sy'n gofalu am blant dan wyth oed - gan gynnwys grwpiau chwarae, cylchoedd cyn-ysgol, meithrinfeydd preifat, crèches, a chlybiau ar ôl ysgol - gael eu cofrestru gan Ofsted ar y Gofrestr Early Years (neu, yng Nghymru, gan yr Arolygiaeth Safonau Gofal). Mae cofrestru'n cynnwys archwilio cofnodion troseddol unrhyw un sy'n ymwneud â darparu gofal plant ac archwilio'r lleoliad i edrych ar faterion iechyd a diogelwch a lles addysgol. Mae'n rhaid i ddarparwyr gofal plant sy'n gofalu am blant hŷn (rhwng pump a saith oed) ymuno â rhan orfodol Cofrestr Gofal Plant Ofsted.

Gallwch weld a yw'r darparwr gofal plant wedi'i gofrestru drwy ofyn am gael gweld tystysgrif cofrestru'r darparwr, neu drwy gysylltu ag Ofsted. Os oes gennych unrhyw amheuon ynghylch darparwr, holwch eich Gwasanaeth Gwybodaeth Teuluoedd lleol. Gallwch gael rhif eich Gwasanaeth Gwybodaeth Teuluol agosaf drwy ffonio 0800 234 6346.

Yn Lloegr, nid oes rhaid i’r mathau canlynol o ofal plant cael eu cofrestru gan Ofsted:

  • gofal plant i blant wyth oed a throsodd
  • gofal i blant o unrhyw oed sy'n seiliedig ar un neu ddau o weithgareddau
  • gofal sy'n cael ei ddarparu yng nghartref y plentyn (ee nanis)

Fodd bynnag, os yw'r darparwr yn ateb y gofynion ac yn dymuno cofrestru ar ran wirfoddol Cofrestr Gofal Plant Ofsted, caiff wneud hynny, oni bai bod y gofal plant yn cael ei ddarparu'n uniongyrchol gan ysgol.

Adroddiadau arolygu Ofsted

Mae Ofsted yn llunio adroddiadau pan fyddant yn arolygu gofal i blant dan chwech oed. Mae'r adroddiadau hyn yn rhoi gwybodaeth fanwl, yn seiliedig ar yr arolygiadau blynyddol.

Pan fydd Ofsted yn archwilio gofal sydd wedi ei gofrestru ar Gofrestr Gofal Plant Ofsted, byddant yn ysgrifennu llythyr sy'n cadarnhau a yw'r gofynion cofrestru wedi eu hateb ai peidio.

Y Cyfnod Sylfaen Blynyddoedd Cynnar (EYFS)

Mae'n rhaid i bob ysgol a darparwr ym maes blynyddoedd cynnar ddilyn strwythur dysgu, datblygu a gofal ar gyfer plant. Enw'r strwythur hwn yw'r Cyfnod Sylfaen ar gyfer Blynyddoedd Cynnar (EYFS) ac mae'n galluogi eich plentyn i ddysgu drwy amrywiaeth o weithgareddau.

Rhwydwaith Cenedlaethol Gwella Ansawdd

Mae darparwyr gofal plant sy’n perthyn i’r Rhwydwaith Cenedlaethol Gwella Ansawdd wedi dangos ymrwymiad i ofal plant o safon uchel, felly lle bo hynny'n bosib efallai y byddai'n well gennych ddewis un o'r darparwyr hyn.

Gwneud eich gwaith ymchwil eich hun

Mae bob amser yn syniad da ymweld â darparwyr gofal plant eich hun - bydd barn rhiant yn golygu mwy nag archwiliadau ac achrediadau.

Os byddwch yn ystyried cyflogi nani, cofiwch nad yw cynlluniau cofrestru ac achredu dan nawdd y llywodraeth yn berthnasol iddyn nhw - er y gallant ymuno â Chofrestr Gofal Plant Ofsted yn wirfoddol. Eich cyfrifoldeb chi, fel rhiant a chyflogwr, yw sicrhau eich bod yn cyflogi nani a fydd yn gwarchod eich plant yn dda.

Lleisio pryderon a chwynion

Os oes gennych bryder neu gŵyn na allwch ei datrys gyda'ch darparwr gofal plant cofrestredig, ffoniwch llinell gymorth Ofsted ar 0845 601 4772. Nid yw Ofsted fel arfer yn cael eu cynnwys mewn cwynion yn ymwneud â ffioedd a threfniadau contract.

Additional links

Cymorth gyda materion ariannol i’ch plant

Gyda theulu sy’n tyfu, mae’n bosib y bydd angen ychydig o gymorth ariannol arnoch. Dilynwch y dolenni isod i ddod o hyd i beth gallwch fod yn gymwys iddo.

Allweddumynediad llywodraeth y DU