Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Cyfnod Sylfaen ar gyfer Blynyddoedd Cynnar (geni i bum mlwydd oed)

Mae'n rhaid i bob ysgol a darparwr ym maes blynyddoedd cynnar ddilyn strwythur dysgu, datblygu a gofal ar gyfer plant. Enw'r strwythur hwn yw'r Cyfnod Sylfaen ar gyfer Blynyddoedd Cynnar (EYFS) ac mae'n galluogi eich plentyn i ddysgu drwy amrywiaeth o weithgareddau.

Pryd mae strwythur EYFS yn berthnasol

Mae'n ofynnol bod pob ysgol a darparwr ym maes blynyddoedd cynnar yn y sector a gynhelir, y sector preifat, y sector gwirfoddol a'r sector annibynnol sy'n cael eu mynychu gan blant nes byddant yn bump oed yn defnyddio EYFS. Mae hyn yn cynnwys:

  • dosbarthiadau derbyn a meithrin mewn ysgolion a gynhelir ac ysgolion annibynnol
  • meithrinfeydd dydd
  • gwarchodwyr plant
  • cylch chwarae
  • clybiau brecwast a chlybiau ar ôl ysgol
  • cynlluniau chwarae yn y gwyliau
  • Canolfannau Plant

I gael mwy o wybodaeth ynghylch pa fath o wasanaethau blynyddoedd cynnar sydd ar gael yn eich ardal chi, holwch eich awdurdod lleol.

Pan nad yw'n berthnasol

Nid yw’r strwythur yn berthnasol i'r grwpiau canlynol:

  • grwpiau mam a’i phlentyn
  • nanis
  • gofal achlysurol, tymor byr (ee crèche)

Beth mae strwythur y Cyfnod Sylfaen ar gyfer Blynyddoedd Cynnar yn ei wneud?

Mae'r EYFS yn sicrhau:

  • bod plant yn dysgu drwy chwarae
  • bod darparwyr yn gweithio'n agos gyda rhieni
  • bod yr hyn y mae eich plentyn yn ei ddysgu gartref yn cael ei ystyried
  • y cewch yr wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd eich plentyn
  • lles, dysg a datblygiad cyffredinol plant o wahanol gefndiroedd a chanddynt wahanol lefelau gallu, gan gynnwys y rheini a chanddynt anabledd ac anghenion iechyd arbennig

Cysylltiadau defnyddiol

Allweddumynediad llywodraeth y DU