Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Addysg gynnar am ddim: ble gall eich plentyn ddysgu

Bydd dysgu a chwarae gyda phlant eraill mewn amgylchedd diogel a strwythuredig yn helpu eich plentyn i ddatblygu, gan roi dechrau da iddynt pan ddaw'n amser iddynt fynd i'r ysgol. Mae nifer o ddewisiadau ar gael i blant hyd at bump oed.

Addysg gynnar am ddim i blant tair a phedair oed

Mae gan bob plentyn tair a phedair oed yr hawl i 15 awr o addysg gynnar am ddim bob wythnos am 38 wythnos o'r flwyddyn. Mae hyn yn gymwys nes ei fod yn cyrraedd oedran ysgol gorfodol (y tymor yn dilyn ei ben-blwydd yn bump). Mae llefydd addysg gynnar ar gael mewn amrywiaeth o leoliadau gan gynnwys dosbarthiadau ac ysgolion meithrin, canolfannau plant, meithrinfeydd dydd, cylchoedd chwarae a chyn ysgol neu mewn cartref ei warchodwr.

Am fwy o wybodaeth ynghylch addysg gynnar am ddim yn eich ardal, cysylltwch â’ch Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd. Mae’r Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd yn darparu gwybodaeth, cyngor a chymorth i rieni, gofalwyr a gweithwyr proffesiynol ar yr ystod o wasanaethau plant, teuluoedd a phobl ifanc sydd ar gael yn eu hardal.

Dod o hyd i leoliad dysgu cynnar i'ch plentyn yn eich ardal chi

Wrth gael gwybod am yr amrywiaeth o wasanaethau sydd ar gael, fe allwch benderfynu beth sydd orau ar eich cyfer chi ac ar gyfer anghenion eich plentyn. Gellir cael dysgu cynnar drwy'r canlynol:

  • dosbarthiadau meithrin, ysgolion meithrin a meithrinfeydd dydd
  • canolfannau plant Cychwyn Cadarn
  • cylchoedd chwarae
  • dosbarthiadau derbyn
  • gofalwyr plant achrededig sy'n rhan o rwydwaith cymeradwy

I gael gwybod beth sydd ar gael yn eich ardal chi, cysylltwch â'ch Gwasanaeth Gwybodaeth Plant lleol.

Gofyn cwestiynau ac edrych ar ansawdd gofal plant

Mae’n bwysig gwybod pa gwestiynau i’w gofyn i ddarparwyr gofal plant a beth i edrych amdano wrth ddewis lleoliad i’ch plentyn. Gallwch hefyd gael gwybodaeth ddefnyddiol ynghylch y rhan fwyaf o ddarparwyr gofal plant gan Ofsted, sy’n gyfrifol am reoleiddio safonau gofal plant.

Dosbarthiadau meithrin, ysgolion meithrin a meithrinfeydd dydd

Mae dau fath o ysgolion a dosbarthiadau meithrin - rhai sy'n dod dan adain y wladwriaeth a rhai preifat. Meithrinfeydd preifat yw'r rhan fwyaf o feithrinfeydd dydd.

Bydd y rhan fwyaf o feithrinfeydd:

  • yn derbyn plant rhwng tair a phump oed, er bod llawer o feithrinfeydd dydd yn fodlon derbyn plant iau
  • ar agor drwy gydol y flwyddyn ysgol, er bod rhai meithrinfeydd dydd preifat yn agor yn ystod gwyliau'r ysgol
  • ar agor am ddiwrnod craidd o 9.00 am tan 3.30 pm, er y bydd llawer o feithrinfeydd yn cynnig diwrnodau hwy
  • yn cynnig pum sesiwn hanner diwrnod, er bod rhai mathau o feithrinfeydd yn cynnig llefydd rhan amser neu amser llawn am ddim, yn dibynnu ar eich anghenion

Mae dau oedolyn o leiaf ar gyfer pob 20 i 26 plentyn mewn ysgolion a dosbarthiadau meithrin. Rhaid i un ohonynt fod yn athro/athrawes c/gymwysedig, a rhaid i'r llall fod yn gynorthwy-ydd meithrin cymwys.

Mae gan feithrinfeydd dydd gymhareb staffio fwy dwys a gwahanol reolau am gymwysterau'r staff, yn dibynnu ar oedran y plant y gofelir amdanynt.

Canolfannau Plant Cychwyn Cadarn

Gall canolfannau plant ddarparu dysgu cynnar a gofal dydd llawn i blant o dan bump oed. Maent hefyd yn darparu nifer o wasanaethau defnyddiol i chi a'ch plentyn o dan un to, gan gynnwys:

  • gwasanaethau iechyd plant a theuluoedd, yn amrywio o wasanaethau ymwelydd iechyd i gymorth gyda bwydo o'r fron
  • mae'r rhan fwyaf yn cynnig gofal plant a dysgu cynnar o safon uchel - os nad yw eich canolfan yn cynnig gofal plant, yna gall roi cyngor i chi ar ddewisiadau gofal plant lleol
  • dosbarthiadau i rieni, sesiynau galw heibio a mynediad i wasanaethau arbenigol ar gyfer teuluoedd megis therapi lleferydd, cyngor ar fwyta'n iach a chyngor cyfreithiol
  • help i chi ddod o hyd i waith neu gyfleoedd hyfforddi, gan ddefnyddio dolenni i swyddfeydd y Ganolfan Byd Gwaith lleol a darparwyr hyfforddiant

Mae canolfannau plant ar agor i bob rhiant a phlant ac mae llawer o'r gwasanaethau am ddim. Bydd yn rhaid i chi dalu am ofal plant ond gellir cael cymorth drwy gredydau treth. Bydd y gwasanaethau sydd ar gael i chi yn dibynnu ar eich ardal leol.

Cylchoedd chwarae cyn-ysgol

Yn aml iawn, cyrff heb fryd ar wneud elw yw cylchoedd chwarae. Efallai mai gwirfoddolwyr sy'n eu rhedeg, gan gynnwys rhieni yn aml, ac maent yn darparu amser chwarae ac addysg gynnar yn aml i blant dan bump oed.

Bydd y rhan fwyaf o gylchoedd chwarae:

  • yn derbyn plant rhwng tair a phump oed, er y bydd rhai yn fodlon derbyn plant dwy oed
  • ar agor drwy gydol y flwyddyn ysgol
  • fel arfer yn cynnig sesiynau hanner diwrnod, er nad yw rhai ar agor drwy'r wythnos, ac eraill yn gallu cynnig oriau hwy
  • yn darparu llefydd ar gyfer rhwng 10 ac 20 o blant - rhaid cael un oedolyn ar gyfer pob wyth plentyn a rhaid i o leiaf hanner yr oedolion fod yn arweinyddion neu'n gynorthwywyr cymwys

Dosbarthiadau derbyn

Mae rhai ysgolion cynradd yn gallu derbyn plant dan bump oed i ddosbarth derbyn.

Bydd Dosbarthiadau Derbyn:

  • yn derbyn plant pedair a phump oed
  • ar agor drwy gydol y flwyddyn ysgol
  • o bosib yn derbyn eich plentyn am sesiynau hanner diwrnod i ddechrau, ac yna'n cynyddu hynny i fynychu'r ysgol drwy'r dydd
  • wedi'u cyfyngu yn ôl y gyfraith i 30 o blant - bydd gan y rhan fwyaf gynorthwywyr

Gwarchodwyr plant

Fel arfer, bydd gwarchodwyr plant yn gofalu am blant yn eu cartref eu hunain. Dylai’r rheini sy'n cynnig lleoliadau dysgu cynnar am ddim ar gyfer plant tair a phedair oed fod wedi'u cofrestru gydag Ofsted ac wedi'u hachredu fel rhan o rwydwaith sicrhau ansawdd awdurdod lleol.

Bydd pob gwarchodwr plant sy'n gofalu am blant dan wyth oed yn cytuno i gadw at safonau ansawdd penodol a rhaid iddynt gael eu cofrestru, eu harolygu a'u harchwilio'n rheolaidd er mwyn sicrhau eu bod yn addas i ofalu am blant.

Bydd gwarchodwyr plant:

  • yn gofalu am eich plentyn rhwng y cyfnod pan fydd ond yn ychydig fisoedd oed nes ei fod yn bump
  • yn aml yn gallu bod yn hyblyg o ran pa ddiwrnodau ac amserau y byddant yn gweithio - mae pob gwarchodwr yn wahanol ac felly rhaid i chi drafod hyn gyda nhw
  • yn gallu gofalu am hyd at chwech o blant dan wyth oed, er na chaiff mwy na thri ohonynt fod dan bump oed

Bydd rhai gwarchodwyr plant hefyd yn gofalu am blant oedran ysgol ar ôl yr ysgol ac yn ystod y gwyliau.

Dysgu eich plentyn a sut y caiff ofal

Mae'n rhaid i bob darparwr gofal plant sy'n gofalu am blant hyd at bum mlwydd oed fodloni'r gofynion ar gyfer dysgu a gofalu a elwir yn Gyfnod Sylfaen Blynyddoedd Cynnar (EYFS).

Cysylltiadau defnyddiol

Allweddumynediad llywodraeth y DU