Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Canolfannau Plant Cychwyn Cadarn

Mae canolfannau plant yn darparu amrywiaeth o gyngor a chymorth i rieni a gofalwyr. Mae eu gwasanaethau ar gael i chi o'r cyfnod beichiogrwydd nes daw'n amser i'ch plentyn fynd i'r dosbarth derbyn yn yr ysgol gynradd.

Sut y gall canolfannau plant eich helpu

Ceir mwy na 3,600 o ganolfannau plant yn Lloegr. Maent yn dwyn ynghyd yr holl asiantaethau cymorth gwahanol i gynnig ystod eang o wasanaethau a fydd yn diwallu eich anghenion chi ac anghenion eich plentyn.

Yn y canolfannau hyn, gall eich plentyn wneud ffrindiau a dysgu wrth chwarae. Gallwch chithau gael cyngor proffesiynol ar faterion yn ymwneud ag iechyd a theulu, dysgu am gyfleoedd gwaith a hyfforddiant neu gymdeithasu â phobl eraill.

Y gwasanaethau y mae'n rhaid i ganolfannau plant eu cynnig

Caiff canolfannau plant eu datblygu ochr yn ochr ag anghenion y gymuned leol felly mae pob canolfan blant yn wahanol. Fodd bynnag, ceir cyfres o wasanaethau craidd y mae'n rhaid iddynt eu darparu:

  • gwasanaethau iechyd i blant a theuluoedd, yn amrywio o wasanaethau ymwelydd iechyd i gymorth gyda bwydo ar y fron
  • mae'r rhan fwyaf o ganolfannau'n cynnig gofal plant a dysgu cynnar o safon - gall y canolfannau nad ydynt yn cynnig y gwasanaethau hyn helpu i roi cyngor ar ddewisiadau gofal plant yn lleol
  • cyngor ar fagu plant, dewisiadau gofal plant lleol a mynediad at wasanaethau arbenigol i deuluoedd megis therapi lleferydd, cyngor ar fwyta'n iach neu help i reoli arian
  • help i chi ddod o hyd i waith neu gyfleoedd hyfforddi, gan ddefnyddio cysylltiadau â swyddfeydd y Ganolfan Byd Gwaith lleol a darparwyr hyfforddiant

Gwasanaethau eraill a gynigir i chi o bosib

Bydd y gwasanaethau sydd ar gael i chi yn dibynnu ar eich ardal leol. Mewn nifer o ganolfannau plant gallwch wneud y canlynol:

  • gweld deintydd, dietegydd neu ffisiotherapydd
  • ymweld â'r clinig ‘rhoi'r gorau i ysmygu’
  • cael mynediad cynt at gyngor gan arbenigwr, cefnogaeth a gwyliau byr os oes gan eich plentyn anabledd neu anawsterau dysgu
  • siarad â Chyngor Ar Bopeth
  • mynd i ddosbarthiadau magu plant
  • gwella eich Saesneg os nad Saesneg yw eich iaith gyntaf - gyda rhywun o'ch diwylliant eich hun

Dod o hyd i'ch canolfan blant leol

Gallwch ddod o hyd i'ch Canolfan Blant Cychwyn Cadarn agosaf drwy ddefnyddio’r teclyn chwilio ‘Dod o hyd i ysgolion a Chanolfannau Plant Cychwyn Cadarn’. Os na allwch chi ddod o hyd i’r hyn rydych chi'n chwilio amdano, cysylltwch â'ch Gwasanaeth Gwybodaeth Teulu lleol yn uniongyrchol.

A fydd rhaid i chi dalu?

Mae canolfannau plant ar agor i bob plentyn a rhiant ac mae llawer o'r gwasanaethau am ddim, er enghraifft, mynediad at fydwragedd ac ymwelwyr iechyd. Bydd yn rhaid i chi dalu am wasanaethau gofal plant ond gellir cael cymorth drwy’r canlynol:

  • yr hawl i ddysgu cynnar am ddim i blant tair a phedair oed
  • credydau treth i'r rheini sy'n gymwys i gael help

Efallai y bydd yn rhaid i chi hefyd dalu tâl bychan am rai gweithgareddau megis grwpiau plant bach a thylino babanod.

Cysylltiadau defnyddiol

Allweddumynediad llywodraeth y DU