Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Bydd dysgu cynnar am ddim yn rhoi'r dechrau gorau posib mewn bywyd i'ch plentyn. Drwy ddysgu a chwarae gyda phlant eraill mewn amgylchedd diogel a strwythuredig, byddant ar y blaen pan ddaw'n amser iddynt gychwyn yn yr ysgol.
Mae gan bob plentyn tair a phedair oed yr hawl i 15 awr o addysg feithrin am ddim bob wythnos am 38 wythnos o'r flwyddyn. Mae hyn yn gymwys nes ei fod yn cyrraedd oedran ysgol gorfodol (y tymor yn dilyn ei ben-blwydd yn bump). Mae llefydd addysg gynnar ar gael mewn amrywiaeth o leoliadau gan gynnwys dosbarthiadau ac ysgolion meithrin, canolfannau plant, meithrinfeydd dydd, cylchoedd chwarae a chyn ysgol neu mewn cartref ei warchodwr.
I gael rhagor o wybodaeth ynghylch addysg feithrin am ddim yn eich ardal chi, cysylltwch â’ch Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd. Mae’r Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd yn darparu gwybodaeth, cyngor a chymorth i rieni, gofalwyr a gweithwyr proffesiynol ynghylch yr ystod o wasanaethau i blant, deuluoedd a phobl ifanc sydd ar gael yn eich ardal chi.
Mae’r tabl isod yn dangos pryd y bydd eich plentyn yn gymwys i gael mynd i leoliad dysgu cynnar am ddim.
Os genir eich plentyn rhwng: | Mae'n gymwys i gael lle am ddim o: |
---|---|
1 Ebrill a 31 Awst |
1 Medi yn dilyn eu trydydd pen-blwydd neu ddechrau tymor ysgol yr hydref* |
1 Medi a 31 Rhagfyr |
1 Ionawr yn dilyn eu trydydd pen-blwydd neu ddechrau tymor ysgol y gwanwyn* |
1 Ionawr a 31 Mawrth |
1 Ebrill yn dilyn eu trydydd pen-blwydd neu ddechrau tymor ysgol yr haf* |
* Wedi’i seilio ar flwyddyn ysgol tri-tymor
Mae’n bosib na fydd yr hawliad am ddim yn ddigonol ar gyfer anghenion eich teulu chi oherwydd ymrwymiadau gwaith. Os felly, mae'n bosib y gallech gael cymorth ariannol ar gyfer costau gofal plant ychwanegol.
Mae nifer o wahanol fathau o leoliadau addysg gynnar a all gynnig yr hawliad am ddim:
Er nad oes sicrwydd o gael lle gyda darparwr arbennig, dylai'ch awdurdod lleol ystyried eich dewis pan fyddo hynny'n bosib.
Nid oes taleb na grant i'w cael – ond holwch eich Gwasanaeth Gwybodaeth Teulu lleol.
Mae'n ofynnol bod pob sefydliad sy'n cael nawdd gan y llywodraeth i ddarparu addysg gynnar am ddim i blant rhwng tair a phump oed:
Golyga hyn y bydd eich plentyn yn cael addysg blynyddoedd cynnar o ansawdd da, pa bynnag fath o leoliad y byddant yn ei fynychu.
Mae'r Cyfnod Sylfaenol yn canolbwyntio ar anghenion penodol plant o eni i bum mlwydd oed.