Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Safonau ac ansawdd gofal plant

Ofsted, y Swyddfa dros Safonau mewn Addysg, Gwasanaethau Plant a Sgiliau, sy’n rheoleiddio safonau gofal plant. Mae darparwyr sydd wedi’u cofrestru gydag Ofsted yn cael eu harchwilio er mwyn gwneud yn siŵr eu bod yn ddiogel ac yn addas ar gyfer gofalu am blant. Yma cewch wybod sut mae Ofsted yn gwirio safonau, a pha ddarparwyr sy’n gorfod cael eu cofrestru gydag Ofsted.

Gofal i blant dan bump oed

Mae’n rhaid i bob darparwr gofal plant sy’n gofalu am blant o’u genedigaeth hyd at 31 Awst ar ôl eu pen-blwydd yn bump oed, gofrestru gydag Ofsted ar y Gofrestr Blynyddoedd Cynnar. Rhaid i bob darparwr ar y gofrestr hon ddarparu’r Cyfnod Sylfaen Blynyddoedd Cynnar, sy’n nodi’r safonau ar gyfer gofal, datblygiad a dysgu cynnar.

Gofal i blant pump oed neu hŷn

Gall darparwyr gofal i blant sy’n bump oed neu’n hŷn gofrestru gydag Ofsted ar y Gofrestr Gofal Plant Gyffredinol, sydd wedi'i rhannu'n ddwy ran:

  • y rhan orfodol – ar gyfer darparwyr gofal plant sy’n gofalu am blant o ddiwedd y Cyfnod Sylfaen Blynyddoedd Cynnar nes byddant yn saith oed
  • y rhan wirfoddol – ar gyfer darparwyr gofal i blant sy'n wyth oed neu hŷn

Does dim rhaid i ambell ddarparwr sy’n gofalu am blant rhwng diwedd y Cyfnod Sylfaen Blynyddoedd Cynnar a saith oed ymuno â rhan orfodol y Gofrestr Gofal Plant Gyffredinol. Mae’r rheini nad oes angen iddynt gofrestru yn cynnwys nanis neu ddarparwyr sy’n cynnig gofal plant sy’n seiliedig ar weithgareddau, fel clybiau drama a dawns, y celfyddydau a chrefft neu chwaraeon.

Beth mae hyn yn ei olygu i fy mhlant?

Os yw darparwr gofal plant wedi ei gofrestru ar y Gofrestr Blynyddoedd Cynnar, neu ar unrhyw ran o'r Gofrestr Gofal Plant Gyffredinol, mae'n rhaid iddynt fodloni safonau. Mae’r safonau hyn yn cynnwys addasrwydd y staff ar gyfer gweithio gyda phlant, ac addasrwydd a diogelwch y lleoliad.

Fel rhan o’r broses gofrestru, bydd Ofsted yn cynnal archwiliad gan y Swyddfa Cofnodion Troseddol i wneud yn siŵr bod pob aelod o’r staff yn addas i weithio gyda phlant. Mae hyn yn wir am yr holl ddarparwyr sydd wedi'u cofrestru gydag Ofsted, ni waeth pa gofrestr y maent wedi ymuno â hi.

Gofal plant yn yr ysgol

Nid oes angen cofrestru gofal plant ar gyfer plant sy’n dair oed neu’n hŷn a ddarperir gan ysgol ar y Gofrestr Blynyddoedd Cynnar nac ar y Gofrestr Gofal Plant Gyffredinol. Yn hytrach, bydd yr ysgol yn cael ei harchwilio fel rhan o’r system arolygu ysgolion, ac Ofsted fydd yn gwneud hynny hefyd.

Mae’n rhaid i ysgolion sy’n darparu gofal plant fodloni’r un safonau â darparwyr gofal plant cofrestredig.

Gwneud cwyn

Os ydych chi’n poeni am unrhyw agwedd ar ofal eich plentyn, dylech holi eich darparwr yn gyntaf. Os ydych dal yn anfodlon, gallwch gysylltu ag Ofsted a byddant yn ymchwilio’r achos ymhellach.

Gallwch hefyd gwyno wrth Ofsted os oes gennych bryderon am ddarparwr nad yw wedi’i gofrestru. Mae gan wefan Ofsted wybodaeth ynghylch sut yr ymchwilir i gwynion yn erbyn darparwyr cofrestredig a darparwyr nad ydynt wedi’u cofrestru.

Additional links

Cymorth gyda materion ariannol i’ch plant

Gyda theulu sy’n tyfu, mae’n bosib y bydd angen ychydig o gymorth ariannol arnoch. Dilynwch y dolenni isod i ddod o hyd i beth gallwch fod yn gymwys iddo.

Allweddumynediad llywodraeth y DU