Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Canfod a dewis gofal plant

Y peth cyntaf y bydd angen i chi ei wneud wrth drefnu gofal plant yw cael gwybod beth sydd ar gael yn eich ardal chi. Pan fyddwch chi wedi dod o hyd i ddarparwyr lleol, bydd angen i chi wneud rhywfaint o waith ymchwil i weld pa un fydd yn gweddu orau i’ch plentyn. Yma, cewch gyngor ar y ffordd hawddaf o ddod o hyd i ddarparwr a dewis un.

Dod o hyd i ofal plant lleol

I gael gwybodaeth ynghylch darparwyr gofal plant yn eich ardal, cysylltwch â Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd eich awdurdod lleol.

Mae eich Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd lleol yn wasanaeth gwybodaeth rad ac am ddim i rieni a gofalwyr plant rhwng 0 a 19 oed. Gallant roi gwybodaeth a chyngor i’ch helpu i ddod o hyd i ddarparwr gofal plant ac i ddewis darparwr, a gall hefyd eich helpu i ddod o hyd i weithgareddau ar gyfer eich plant yn lleol.

Dewis darparwr gofal plant

Mae rhoi eich plentyn yng ngofal rhywun dieithr yn gam mawr, felly cyn i chi ddewis darparwr efallai y byddwch am ystyried yr awgrymiadau canlynol:

  • rhowch ddigon o amser i’ch hun ddewis – rhaid archebu lle ymlaen llaw ar gynlluniau chwarae yn ystod y gwyliau, er enghraifft
  • holwch rieni eraill am eu hargymhellion nhw
  • gwnewch apwyntiadau i ymweld â dau neu dri darparwr er mwyn cymharu beth sydd ar gael ac i weld beth yw eich barn am y staff
  • meddyliwch am bersonoliaeth a diddordebau eich plentyn – pa amgylchedd fyddai orau ganddynt?
  • holwch pryd fyddant ar agor ac am ddyddiadau gwyliau a chostau

Rhinweddau darparwr

Efallai y bydd y rhestr wirio ganlynol yn ddefnyddiol i chi wrth ddewis darparwr gofal plant:

  • ydy’r lleoliad gofal plant yn teimlo’n gyfeillgar?
  • ydy’r lle’n lân, yn olau, yn cael ei awyru'n dda ac yn ddigon mawr i blant allu chwarae y tu mewn a'r tu allan?
  • a oes llefydd i'r plant orffwys?
  • ydy’r teganau yn ddigon amrywiol (ydy eu maint, gwead, lliw a siâp yn wahanol)?
  • ydy’r plant yn edrych yn hapus?
  • ydy’r gofalwyr yn siarad â’r plant mewn ffordd sy’n eu hannog ac sydd o ddiddordeb iddynt?
  • oes yna ddigon o blant yr un oed â’ch plentyn chi?
  • ydy’r darparwr a’r gofalwyr wedi’u cofrestru gydag Ofsted?
  • ydy’r dodrefn o safon ddigon uchel?
  • oes yna ddigon o staff i gadw golwg ar bob un o'r plant? (o leiaf un aelod o staff am bob wyth plentyn rhwng tair a phump oed)
  • ydy’r staff yn rheoli ymddygiad yn briodol? (dylai fod polisi ysgrifenedig ar gael i chi i weld)

Cwestiynau i’w gofyn i ddarparwyr gofal plant

  • diogelwch – beth sy’n digwydd mewn argyfwng?
  • ydy’r safle’n ddiogel (a fyddai'n bosib i bobl ddieithr gael mynediad)?
  • pa hyfforddiant a phrofiad sydd gan y gofalwyr?
  • sut mae’r darparwr yn rhoi gwybod am ddigwyddiadau diogelwch i rieni?
  • ydy’r gofalwyr yn deall cymorth cyntaf?
  • sut mae’r staff yn edrych ar ddisgyblaeth?
  • pa weithgareddau sy’n cael eu cynnig?
  • beth sy’n digwydd os ydych yn hwyr yn codi eich plentyn?
  • pa fwyd sy’n cael ei ddarparu (ydy o’n iach)?
  • gyda phwy y gallwch chi siarad am gynnydd eich plentyn?
  • beth sy'n digwydd os bydd eich plentyn yn mynd yn sâl?

Gallai hefyd fod yn syniad da i chi ofyn i weld polisi iechyd a diogelwch ysgrifenedig y darparwr (dylai pob darparwr gofal grŵp gael un).

Monitro gofal eich plentyn

Pan fyddwch wedi dewis darparwr, rhowch wybodaeth glir iddynt am hoff bethau a chas bethau eich plentyn ac am unrhyw broblemau iechyd sydd ganddynt. Ar ôl ychydig wythnosau, efallai y byddwch am fynd yn ôl i gael sgwrs â'r darparwr er mwyn cael gwybod sut mae'ch plentyn yn dod yn ei flaen.

Mae hefyd yn syniad da siarad â’ch plentyn er mwyn gwneud yn siŵr ei fod yn hapus ac yn gyfforddus gyda’r darparwr gofal.

Additional links

Cymorth gyda materion ariannol i’ch plant

Gyda theulu sy’n tyfu, mae’n bosib y bydd angen ychydig o gymorth ariannol arnoch. Dilynwch y dolenni isod i ddod o hyd i beth gallwch fod yn gymwys iddo.

Allweddumynediad llywodraeth y DU