Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Mae gofal plant ar gyfer pobl ifanc yn wahanol iawn i ofal plant ar gyfer plant iau. Mae ar bobl ifanc angen lle diogel sy’n gadael iddynt gymdeithasu gyda'u ffrindiau ac sy’n eu cadw'n brysur. Dyma’ch dewisiadau.
Mae’n bosib y bydd ysgolion yn cynnig eu cyfleusterau i ddisgyblion, eu teuluoedd a'r gymuned leol y tu allan i oriau ysgol. Gall hyn gynnwys:
Am wybodaeth ynghylch y gofal plant a gweithgareddau cyn ac ar ôl ysgol y mae ysgol eich plentyn o bosib yn eu cynnig, dylech gysylltu â’r ysgol yn uniongyrchol.
Mae rhai gwasanaethau a gweithgareddau am ddim, ond bydd angen i chi dalu am y canlynol fel arfer:
Bydd ysgolion bob amser yn ceisio lleihau costau, ac efallai eich bod chithau’n gymwys i gael cymorth ariannol, yn enwedig os ydych chi ar incwm isel.
Fel arfer, bydd gofal y tu allan i’r ysgol a chlybiau gwyliau'n cael eu cynnig fel rhan o wasanaethau estynedig ysgolion. Fodd bynnag, efallai y bydd mudiadau gwirfoddol neu sefydliadau preifat yn eu rhedeg hefyd. Gall y rhain fod wedi'u lleoli ar dir yr ysgol, mewn clybiau ieuenctid, mewn canolfannau cymunedol ac mewn neuaddau pentref.
I gael mwy o wybodaeth, cysylltwch â'ch Gwasanaeth Gwybodaeth Teulu lleol yn uniongyrchol.
Fel arfer, bydd nanis yn gofalu am y plant yn eich cartref, ac yn gofalu am blant o bob oed. Bydd llawer o nanis yn byw yng nghartref y teulu y maent yn gweithio iddynt. P'un ai a ydynt yn byw yn y cartref ai peidio, mae eu horiau'n hyblyg fel arfer.
Mae ffioedd nanis yn dechrau ar oddeutu £6.00 (£9.00 yn Llundain) yr awr, ond mae hyn yn tueddu i amrywio'n fawr. Fel cyflogwr eich nani, bydd yn rhaid i chi hefyd dalu eu treth a’u cyfraniadau Yswiriant Gwladol.