Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Bydd clybiau brecwast, sydd fel arfer yn cael eu rhedeg gan ysgolion, yn cynnig lle i blant fynd cyn i'r ysgol ddechrau. Fe all hyn gynnwys darparu brecwast iach yn ogystal â gweithgareddau eraill. Bydd clybiau gwaith cartref yn cynnig lle i blant fynd ar ôl oriau'r ysgol.
Mewn clwb brecwast, bydd eich plentyn yn gallu cyfarfod â phlant eraill dan oruchwyliaeth cyn i'r ysgol ddechrau. Gan amlaf, rhoddir brecwast i blant a fydd yn eistedd o gwmpas bwrdd i'w fwyta. Mae rhai clybiau yn cynnig gweithgareddau sy'n gefn i'r dysgu yn yr ysgol. Mae clybiau brecwast yn help mawr os yw'ch plentyn yn cyrraedd yr ysgol yn gynnar.
Gall peidio â bwyta brecwast olygu bod y plant yn brin o egni a'u bod yn ei chael hi'n anodd canolbwyntio yn ystod hanner cyntaf diwrnod yr ysgol. Gall hyn hefyd arwain at berfformiad academaidd gwael. Yn aml iawn, bydd plant yn gwneud iawn am y diffyg brecwast drwy brynu bwyd fel creision a siocled, ac mae hyn yn arwain at arferion bwyta gwael.
Mae plant yn cyrraedd yr ysgol yn fwy prydlon ac yn bresennol yn amlach pan gynigir clybiau brecwast, ac maen nhw'n perfformio'n well yn y dosbarth hefyd. Bydd gan ysgol eich plentyn neu'ch awdurdod lleol fwy o wybodaeth am y clybiau brecwast y gall eich plentyn eu mynychu.
Mae clybiau gwaith cartref yn cynnig lle i'ch plentyn weithio mewn amgylchedd cefnogol y tu allan i oriau'r ysgol Gall ysgol eich plentyn neu'ch AALl roi mwy o wybodaeth am y rhain i chi. Rhedir llawer o glybiau gwaith cartref mewn llyfrgelloedd lleol.
Bydd clybiau gwaith cartref mewn llyfrgelloedd yn aml yn cynnig rhywfaint o gyfle i ddefnyddio cyfrifiaduron a chysylltu â'r rhyngrwyd, yn ogystal â staff cymwys wrth law i helpu gydag ymholiadau. Bydd lleoliadau a chyfleusterau clybiau gwaith cartref yn amrywio o ardal i ardal a dylech gysylltu â'ch awdurdod lleol neu ymweld â'i wefan i gael rhagor o wybodaeth am yr hyn sydd ar gael yn eich ardal chi.
Gallwch gael gwybod mwy am ofal plant cyn/ar ôl ysgol yn eich ardal chi gan eich awdurdod lleol. Defnyddiwch y ddolen isod i nodi manylion ble rydych yn byw. Fe fyddwch yn mynd i wefan eich awdurdod lleol lle gallwch gael rhagor o wybodaeth am ofal plant yn eich ardal chi.
Gallwch lenwi manylion am eich cartref yn y ddolen ganlynol, bydd hyn yn eich tywys wedyn i wefan eich awdurdod lleol ble gallwch gael gwybod mwy ynghylch cyfleusterau chwarae yn agos i chi.