Helpu eich plentyn sydd rhwng 14 ac 19 oed i ddysgu
Wrth i'ch plentyn ddechrau astudio ar gyfer TGAU a chymwysterau eraill, mae'n bosib y gwelwch chi fod rhaid iddyn nhw wneud llawer mwy o waith. Wrth gefnogi dysgu'ch plentyn bryd hynny fe allwch helpu'r plentyn i gael y cymwysterau sydd eu hangen arnyn nhw, a bod yn help iddyn nhw boeni llai.
Sut i helpu'ch plentyn i astudio a dysgu
Gallwch wneud llawer o bethau i helpu'ch plentyn i wneud yn fawr o'u gwaith cartref, eu gwaith cwrs a'u gwaith adolygu ar gyfer arholiadau.
Helpu gyda gwaith cartref
Does dim rhaid i chi fod yn arbenigwr i helpu'ch plant gyda'u gwaith cartref. Dyma ambell ffordd i helpu:
- awgrymu y dylai'ch plentyn wneud gwaith cartref yn syth ar ôl ei dderbyn fel bod y wybodaeth yn ffres ym meddwl eich plentyn ers y dosbarth
- annog eich plentyn i ddweud os yw'n cael anhawster - efallai y gallwch chi ei helpu i ddod o hyd i'r atebion
- sicrhau bod eich plentyn yn taro cydbwysedd da rhwng bywyd a gwaith, ac nad yw'n treulio gormod o amser yn mynd allan â'i ffrindiau, nac ychwaith yn eistedd yn gwneud gwaith cartref
- cael gwybod am raglenni addysgiadol ar y radio neu ar y teledu
- cael gwybod a oes unrhyw glybiau cymorth i astudio neu waith cartref a all fod o help
Mynd i'r afael â gwaith cwrs
Gall marciau da mewn gwaith cwrs fod o help i roi hwb i raddau terfynol eich plentyn. Gallwch helpu'ch plentyn i fynd i'r afael â gwaith cwrs drwy wneud y canlynol:
- cael gwybod am y cwricwlwm cyfredol a faint o waith y mae angen ei wneud
- cael gwybod pryd mae'r gwaith cwrs fod i mewn a helpu'ch plentyn i baratoi amserlen i'w gwblhau
- gwneud yn siur bod eich plentyn yn deall yn iawn yr hyn y mae gofyn iddyn nhw'i wneud a sut y dyfernir marciau ym mhob darn o waith cwrs
- dod o hyd i wefannau a stafelloedd sgwrsio diogel a all fod o help iddynt astudio
- annog eich plentyn i argraffu a chadw'u gwaith yn rheolaidd os ydyn nhw'n gweithio ar gyfrifiadur
- annog eich plentyn i sgwrsio â'r athro/athrawes am unrhyw broblemau cyn gynted ag y bo modd
- sicrhau bod y llyfrau a'r adnoddau iawn gan eich plentyn
Helpu gydag adolygu
Gall paratoi ar gyfer arholiadau fod yn straen arnoch chi a'ch plentyn. Gallwch helpu i liniaru'r pwysau drwy:
- helpu'ch plentyn i baratoi amserlen, a'i helpu i gadw ati
- gwrando ar eich plentyn a dod o hyd i ffyrdd o fod yn gefn iddyn nhw drwy gyfnodau o straen
- annog eich plentyn drwy ganmol a gwobrwyo
- creu amgylchedd addas ar gyfer astudio ac adolygu
‘Coaching your teenager’ – llyfryn i helpu rhieni pobl ifanc rhwng 14 a 19 oed
Weithiau, gall fod yn anoddach cyfrannu at addysg pobl ifanc, ond bwriedir i'r llyfryn hwn eich helpu i wneud hynny.
Mae’n darparu’r canlynol:
- cyngor ac awgrymiadau hyfforddi i’w helpu i wneud yn fawr o’r cyfnod yn yr ysgol neu’r coleg
- awgrymiadau ar gyfer dechrau sgwrs
- cyngor ar sut mae magu digon o hyder i gyfrannu, a ble y gallwch gael mwy o wybodaeth
Mae'r un mor bwysig eich bod yn dangos diddordeb yng ngwaith eich plentyn pan fydd yn ei arddegau â phan oedd yn ifanc. Gall rhieni a gofalwyr sy’n gweithio fel tîm gyda’u plentyn ei helpu i fod yn bositif ac i gadw ar y trywydd iawn i gael y dyfodol gorau posib.