Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Datblygu sgiliau darllen, ysgrifennu a sillafu plant rhwng pump ac 11 oed

Gall darllen gyda'ch plant a'u helpu gydag ysgrifennu a sillafu fod yn gymorth i roi hwb i'w dysgu. Mae rhai sgiliau, megis darllen a chyfri, wir yn werth eu hymarfer gartref oherwydd eu bod yn hanfodol er mwyn i'ch plentyn wneud cynnydd yn nes ymlaen.

Darllen

Mae athrawon yn dweud mai helpu gyda darllen gartref yw'r ffordd bwysicaf y gall rhieni helpu eu plentyn. Cofiwch sicrhau bod eich plentyn yn ymarfer darllen yn rheolaidd, a sicrhau ei fod yn deall yr hyn y mae’n ei ddarllen. Dyma ragor o awgrymiadau am sut i helpu'ch plentyn i ddarllen:

  • wrth i chi ddarllen i’ch plentyn, gwnewch y profiad yn un rhyngweithiol – gofynnwch gwestiynau am y stori, y lluniau, a beth mae’n ei feddwl o'r cymeriadau
  • wrth i sgiliau darllen eich plentyn wella, rhowch gyfle iddo ddarllen darnau ac yna’n raddol bydd yn darllen i chi
  • defnyddiwch eiriaduron gyda'ch gilydd ar gyfer geiriau anodd – gall geiriadur lluniau wneud archwilio iaith yn broses mwy diddorol
  • trefnwch i'ch plentyn ymuno â'r llyfrgell leol er mwyn iddo roi cynnig ar lyfrau newydd yn rheolaidd
  • cadwch olwg ar y themâu sy'n tanio dychymyg eich plentyn yn yr ysgol – a cheisiwch ddilyn trywydd y rheini wrth ddarllen mwy amdanyn nhw
  • pan ddowch chi ar draws gair anghyffredin neu un sy'n swnio'n rhyfedd, helpwch eich plentyn i gael gwybod beth yw'r ystyr ac ysgrifennwch y gair ar ddrws eich oergell gyda llythrennau magnetig

Wrth i’ch plentyn dyfu, ceisiwch ei annog i godi llyfrau eraill o amgylch y tŷ i'w wneud yn fwy cyfarwydd ag iaith 'oedolion'. Awgrymwch restr ddarllen, a'i annog i ysgrifennu syniadau am y llyfrau y mae wedi'u darllen.

Ysgrifennu a sillafu

O ran llawysgrifen, mae dechrau ar y llwybr iawn yn haws na chywiro llawysgrifen wael yn nes ymlaen, pan fydd pwysau gwaith ysgol yn fwy. Yr un yw’r sefyllfa ar gyfer sillafu. Helpwch eich plentyn i weld sgiliau ysgrifennu a sillafu'n bethau sydd nid yn unig yn hwyl, ond yn rhywbeth pwysig a rhywbeth y dylai fod yn falch ohonyn nhw.

  • helpwch blant iau drwy ysgrifennu geiriau a brawddegau iddyn nhw'u copïo
  • pwysleisiwch y cysylltiadau rhwng tynnu llun ac ysgrifennu, a chofiwch sicrhau bod eich plentyn bob tro'n rhoi llofnod ar unrhyw waith celf
  • rhowch anogaeth i'ch plentyn gael ei ysbrydoli gan enghreifftiau o lawysgrifen gain mewn amgueddfeydd, orielau a llyfrau
  • gall plant hŷn ddatblygu eu sgiliau ysgrifennu a chymdeithasol gyda'i gilydd drwy drefnu ffrindiau llythyru drwy'r ysgol neu glybiau, neu drwy gadw mewn cysylltiad â ffrindiau y daethant i'w hadnabod ar wyliau

Helpu plant i ddysgu gartref: cymhorthion dysgu

Bwriad y pecynnau cymorth canlynol yw ei gwneud yn haws i chi fod yn rhan o addysg eich plentyn gartref:

‘Working together’ – pecyn dysgu ar gyfer rhieni plant 5–10 oed

Mae’r pecyn hwn yn cynnwys amrywiaeth o gemau a gweithgareddau i'ch helpu i ymwneud ag addysg eich plentyn yn ystod y blynyddoedd cynnar yn yr ysgol. Mae'n cynnwys:

  • cyfarwyddiadau ar sut i wneud gêm ‘melin bupur’ i blant drwy blygu papur – gêm sydd wedi’i chynllunio i annog plant i ofyn cwestiynau ac i’ch annog i wneud gweithgareddau â’ch plentyn
  • gêm gardiau sy’n cynnwys cwestiynau i chi eu gofyn i’ch plentyn am yr ysgol ac am beth mae'n ei ddysgu
  • nod tudalen y gall eich plentyn ei liwio a’i gadw
  • sticeri a siart wal defnyddiol i’ch helpu i gofnodi a gwobrwyo datblygiad addysg eich plentyn o fis i fis
  • awgrymiadau da i rieni

‘Getting into homework’ – pecyn ffolder ar gyfer rhieni plant 8–13 oed

Mae’r ffolder hon yn cynnig amrywiaeth o gynghorion ac awgrymiadau da am sut i helpu plant gyda'u gwaith cartref. Mae hefyd yn cynnwys gwybodaeth am y Cwricwlwm Cenedlaethol ac am gyfnodau allweddol er mwyn sicrhau eich bod yn cael yr wybodaeth ddiweddaraf am addysg eich plentyn.

Bwriedir i’r pecyn ffolder fod yn arweiniad llawn i helpu gydag addysg eich plentyn gartref.

Allweddumynediad llywodraeth y DU