Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Dewisiadau gofal plant ar gyfer plant rhwng 0 a 5 oed

Pan fyddwch yn dewis gofal plant, bydd angen i chi ystyried oriau gwaith, cyllidebau, a lle rydych am i’r gofal gael ei ddarparu – yn eich cartref eich hun ynteu mewn lleoliad gyda phlant eraill. Yma, cewch wybod am y gwahanol fathau o ofal plant sydd ar gael i blant rhwng 0 a 5 oed.

Addysg dysgu blynyddoedd cynnar am ddim i blant tair a phedair oed

Mae gan bob plentyn tair a phedair oed yr hawl i 15 awr o addysg feithrin am ddim bob wythnos am 38 wythnos o'r flwyddyn. Mae hyn yn gymwys nes ei fod yn cyrraedd oedran ysgol gorfodol (y tymor yn dilyn ei ben-blwydd yn bump). Mae llefydd addysg gynnar ar gael mewn amrywiaeth o leoliadau gan gynnwys dosbarthiadau ac ysgolion meithrin, canolfannau plant, meithrinfeydd dydd, cylchoedd chwarae a chyn ysgol neu mewn cartref ei warchodwr.

I gael rhagor o wybodaeth am addysg meithrin am ddim yn eich ardal chi, cysylltwch â’ch Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd. Mae’r Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd yn darparu gwybodaeth, cyngor a chymorth i rieni a gofalwyr ynghylch yr ystod o wasanaethau plant, teuluoedd a phobl ifanc sydd ar gael yn eu hardal.

Canolfannau Plant Cychwyn Cadarn

Gan weithio gyda rhieni yn syth ar ôl genedigaeth eu plentyn, bydd Canolfannau Cychwyn Cadarn yn darparu llawer o wasanaethau i deuluoedd, gan gynnwys:

  • dysgu blynyddoedd cynnar i blant
  • gofal am ddiwrnodau llawn
  • gofal tymor byr
  • cymorth gydag iechyd a chymorth teuluol
  • cyngor ar fagu plant
  • cyngor ar hyfforddiant a gwaith

Oriau agor

Mae’r rhan fwyaf o Ganolfannau Plant Cychwyn Cadarn ar agor rhwng 8.00 am a 6.00 pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener, drwy gydol y flwyddyn. Mae rhai ar agor ar benwythnosau hefyd.

Costau

Heblaw’r hawl dysgu blynyddoedd cynnar am ddim i blant tair a phedair oed, codir tâl am ofal plant. Bydd y costau’n amrywio, felly’r peth gorau i’w wneud yw cysylltu â'ch Canolfan Blant Cychwyn Cadarn yn uniongyrchol.

Dod o hyd i’ch Canolfan Blant Cychwyn Cadarn leol

Gallwch ddod o hyd i’ch Canolfan Blant Cychwyn Cadarn agosaf drwy ddefnyddio’r teclyn chwilio ‘Dod o hyd i ysgolion a Chanolfannau Plant Cychwyn Cadarn’. Os na allwch chi ddod o hyd i’r hyn rydych chi'n chwilio amdano, cysylltwch â'ch Gwasanaeth Gwybodaeth Teulu lleol yn uniongyrchol.

Dosbarthiadau ac ysgolion meithrin

Mae ysgolion meithrin yn darparu dysgu cynnar a gofal plant i blant rhwng tair a phum mlwydd oed (bydd ambell un yn derbyn plant pan maent yn ddyflwydd a hanner). Maent yn aml yn cael eu cynnal mewn Canolfannau Plant Cychwyn Cadarn, neu’n gysylltiedig ag ysgol gynradd neu fabanod.

Oriau agor

Mae’r meithrinfeydd ar agor rhwng 9.00 am a 3.30 pm fel arfer yn ystod tymor yr ysgol ar gyfer sesiynau hanner diwrnod neu ddiwrnod llawn. Mae rhai yn cynnig gofal y tu allan i oriau ysgol hefyd ac yn y gwyliau.

Costau

Nid oes cost os yw meithrinfa’n rhan o system addysg y wlad. Mae ffioedd meithrinfeydd ysgolion preifat yn dechrau ar oddeutu £800 y tymor, ond gallant fod yn dipyn mwy na hynny.

Cylchoedd cyn-ysgol a chylchoedd chwarae

Cânt eu rhedeg fel arfer gan grwpiau gwirfoddol. Mae cylchoedd cyn-ysgol a chylchoedd chwarae yn darparu dysgu cynnar a chwarae rhan-amser i blant dan bump oed. Gall plant tair a phedair oed gael eu 15 awr wythnosol o ddysgu blynyddoedd cynnar am ddim gan y darparwyr hyn.

Oriau agor

Fel arfer, bydd y sesiynau’n para rhwng dwy awr a hanner a phedair awr, yn ystod y tymor, bob dydd neu sawl diwrnod yr wythnos.

Costau

Fel arfer, bydd grwpiau cyn-ysgol a grwpiau chwarae yn costio rhwng £4.00 a £7.00 yr awr.

Meithrinfeydd dydd

Mae meithrinfeydd dydd, sy’n aml wedi’u lleoli mewn gweithleoedd ac yn cael eu rhedeg gan fusnesau neu grwpiau gwirfoddol, yn darparu gofal a gweithgareddau dysgu i blant o’u genedigaeth nes byddant yn bump oed.

Oriau agor

Fel arfer, mae meithrinfeydd dydd ar agor rhwng 7.00 am a 7.00 pm, ond gall yr oriau amrywio. Gallwch anfon eich plant yno yn llawn amser neu’n rhan-amser, ac mae ambell un yn caniatáu i chi fynd â'ch plentyn yno'n gynnar neu ddod i'w nôl yn hwyr.

Costau

Mae’r cyfraddau’n amrywio, ond mae’r rhan fwyaf o feithrinfeydd dydd yn costio rhwng £25 a £50 y dydd.

Gwarchodwyr plant

Fel arfer, bydd gwarchodwyr plant yn gofalu am blant dan 12 oed yng nghartref y gwarchodwr. Byddant yn gallu gofalu am hyd at chwech o blant dan wyth oed, ond ni chaiff mwy na thri o’r plant hynny fod dan bump oed.

Oriau

Yn gyffredinol, bydd gwarchodwyr plant yn gweithio rhwng 8.00 am a 6.00 pm, ond mae’r rhan fwyaf yn hyblyg ac efallai y bydd rhai yn fodlon gweithio ar benwythnosau.

Costau

Yn dibynnu ar lle rydych yn byw a nifer y plant sy’n cael eu gwarchod, gall gwarchodwyr plant gostio rhwng £2.50 a £7.50 yr awr.

Nanis a gwarchodwyr yn y cartref

Fel arfer, bydd nanis yn gofalu am y plant yn eich cartref chi, a gallant ofalu am blant o bob oed.

Oriau

Mae llawer o nanis yn byw yng nghartref y teulu y maent yn gweithio iddynt, ond p’un ai a ydyn nhw'n byw yno ai peidio, mae eu horiau’n dal yn hyblyg.

Costau

Mae ffioedd nanis yn dechrau ar oddeutu £6.00 (£9.00 yn Llundain) yr awr, ond mae hyn yn tueddu i amrywio'n fawr. Fel cyflogwr eich nani, bydd yn rhaid i chi hefyd dalu eu treth a’u cyfraniadau Yswiriant Gwladol.

Additional links

Cymorth gyda materion ariannol i’ch plant

Gyda theulu sy’n tyfu, mae’n bosib y bydd angen ychydig o gymorth ariannol arnoch. Dilynwch y dolenni isod i ddod o hyd i beth gallwch fod yn gymwys iddo.

Allweddumynediad llywodraeth y DU