Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Pan fydd eich plentyn yn cyrraedd oed ysgol, bydd eich anghenion gofal plant yn newid, ond efallai y bydd angen help arnoch cyn neu ar ôl y diwrnod ysgol. Os ydych chi’n gweithio neu’n astudio, efallai y bydd rhaid i chi ddechrau’n gynnar neu orffen yn hwyr, neu efallai y bydd arnoch angen gofal plant yn ystod gwyliau’r ysgol. Dyma eich dewisiadau.
Efallai y bydd ysgolion yn cynnig ystod estynedig o wasanaethau i ddisgyblion a’u teuluoedd. Gall hwn gynnwys gofal plant cyn ac ar ôl ysgol a gweithgareddau fel brecwast, gwaith cartref a chlybiau chwaraeon.
Am wybodaeth ynghylch y gofal plant a gweithgareddau cyn ac ar ôl ysgol y mae ysgol eich plentyn o bosib yn eu cynnig, dylech gysylltu â’r ysgol yn uniongyrchol.
Bydd ysgolion yn ceisio cadw’r costau mor isel â phosibl, ond fel arfer, bydd angen i chi dalu am ofal plant ac am rai clybiau. Os ydych chi ar incwm isel, mae amrywiaeth o gymorth ariannol ar gael i’ch helpu i fforddio’r costau hyn.
Yn aml, bydd clybiau ar ôl ysgol wedi’u lleoli ar dir yr ysgol, ond gallant hefyd fod wedi’u lleoli mewn clybiau ieuenctid, neuaddau pentref a chanolfannau cymunedol. Gallant gael eu cynnal gan yr ysgolion eu hunain, neu gan sefydliadau preifat neu wirfoddol.
Mae’r clybiau’n rhoi man diogel i chwarae, ymlacio a chymdeithasu. Gall rhai clybiau nad ydynt yn gysylltiedig ag ysgolion ddod i gasglu’r plant o’u hysgol ar ddiwedd y dydd.
Fel arfer, bydd clybiau ar ôl ysgol ar agor o 3.30 pm tan 6.00 pm yn ystod tymor yr ysgol – er bod rhai hefyd ar agor yn ystod gwyliau’r ysgol.
Ar gyfartaledd, bydd clybiau ar ôl ysgol yn costio tua £7.00 y sesiwn, ond gall prisiau amrywio. Gallwch gael gwybod mwy am brisiau yn eich ardal drwy gysylltu â’ch Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd lleol.
"Gan fod y clwb brecwast a’r clwb ar ôl ysgol yn gysylltiedig â’r ysgol, gallaf adael y plant yno unrhyw bryd ar ôl 8.00 am, sy’n wych." Hayley, Mam
Mae clybiau brecwast yn rhoi pryd o fwyd iach a man diogel i blant aros i’r ysgol ddechrau. Bydd gofalwyr yn mynd â’ch plentyn i’r ysgol mewn pryd i gofrestru neu, os yw’r clwb wedi’i leoli yn ysgol eich plentyn, byddant yn gofalu amdanynt nes i’r gwersi ddechrau.
Fel arfer gallwch adael eich plentyn mewn clwb brecwast unrhyw bryd ar ôl tua 7.30 am.
Mae costau clybiau brecwast yn dechrau o £2.00 y dydd, ond mae hyn yn amrywio.
Fel arfer, cynigir y clybiau hyn fel rhan o wasanaethau estynedig ysgol, ond gallant hefyd gael eu cynnal gan sefydliadau preifat neu fudiadau gwirfoddol. Gallant fod wedi’u lleoli ar dir yr ysgol, neu mewn clybiau ieuenctid, neuaddau pentref a chanolfannau cymunedol. Maent yn cynnig amrywiaeth eang o weithgareddau chwarae yn ystod gwyliau’r ysgol.
Fel arfer, bydd cynlluniau chwarae gwyliau ar agor o 8.00 am tan 6.00 pm yn ystod gwyliau’r haf. Efallai y bydd rhai hefyd ar agor dros wyliau’r Pasg a gwyliau hanner tymor.
Ar gyfartaledd, bydd cynlluniau chwarae gwyliau’n costio £20.00 y dydd, ond mae hyn yn amrywio.
Fel arfer, bydd gwarchodwyr plant yn gofalu am blant dan 12 yng nghartref y gwarchodwr plant, a byddant yn aml yn mynd i nôl plant o’r ysgol.
Bydd y rhan fwyaf o warchodwyr plant yn gweithio o 8.00 am tan 6.00 pm, ond byddant fel arfer yn hyblyg.
Mae gwarchodwyr plant yn tueddu i godi unrhyw beth rhwng £2.50 a £7.50 yr awr.
Fel arfer, bydd nanis yn gofalu am blant yn eich cartref chi, a gallant ofalu am blant o unrhyw oed.
Bydd nifer o nanis yn byw yng nghartref y teulu y maent yn gweithio iddynt. Ble bynnag y byddant yn byw, bydd eu horiau’n hyblyg fel arfer.
Bydd ffioedd nanis yn dechrau oddeutu £6.00 (neu £9.00 yn Llundain) yr awr, ond mae hyn yn tueddu i amrywio’n fawr. Bydd angen i chi hefyd dalu cyfraniadau treth ac Yswiriant Gwladol eich nani.