Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Nanis - cymwysterau a sgiliau

Bydd rhan fwyaf yr asiantaethau a'r teuluoedd sy'n gobeithio cyflogi nani yn disgwyl iddynt fod â chymhwyster mewn gofal plant, er nad yw hynny'n ofynnol yn ôl y gyfraith. Ar y dudalen hon gwelwch ganllaw i'r cymwysterau a'r sgiliau y gallwch ddisgwyl i nani dda feddu arnynt.

Y Cyngor Dyfarniadau mewn Gofal ac Addysg Plant (CACHE)

CACHE yw'r Corff Dyfarnu sy'n cael ei chydnabod yn swyddogol ar gyfer y Blynyddoedd Cynnar, Gofal ac Addysg a Gwaith Chwarae. Mae'r cymwysterau perthnasol a ddyfernir gan CACHE yn cynnwys:

  • Tystysgrif neu Ddiploma mewn Gofal Plant ac Addysg (mae hwn ymdrin â gweithio gyda phlant o dan wyth oed, gan gynnwys y rheini sydd ag anghenion arbennig)
  • Diploma Lefel 3 mewn Gofal Plant yn y Cartref (crëwyd y cwrs hwn gyda'r Gymdeithas Genedlaethol Gwarchod Plant, ac mae'n rhoi'r sgiliau i nanis i allu datblygu plant rhwng 0 ac 16 oed)
  • Tystysgrif Genedlaethol neu Ddiploma BTEC yn y Blynyddoedd Cynnar (mae'r cwrs hwn yn ymdrin ag arfer da mewn ystod o sefyllfaoedd gofal plant)

Cofrestr Gofal Plant Ofsted

Ceir dwy ran i'r Gofrestr Gofal Plant Ofsted, rhan orfodol a rhan wirfoddol. Nid oes angen i nanis ymuno â'r rhan orfodol, ond gallant ymuno â rhan wirfoddol y gofrestr hon, a ddechreuodd ym mis Ebrill 2007.

Bydd angen i nanis sydd wedi'u cofrestru ar ran wirfoddol y Gofrestr Gofal Plant Ofsted gwrdd â gofynion penodol, megis bod ganddynt gymhwyster cymorth cyntaf perthnasol, eu bod wedi cael hyfforddiant yn y sgiliau craidd cyffredin sy'n ymdrin â meysydd fel cyfathrebu â phlant, pobl ifanc a theuluoedd, a bod ganddynt yswiriant atebolrwydd cyhoeddus.

I gael rhestr fanylach o'r sgiliau y mae'n rhaid i nanis eu datblygu cyn cofrestru â rhan wirfoddol Cofrestr Gofal Plant Ofsted, cliciwch ar y ddolen isod.

Pethau eraill i chwilio amdanynt

Dyma nodweddion nani dda:

  • gallu cynllunio a threfnu cyfleoedd dysgu sy'n ddiogel ac yn hwyl
  • gwybod sut i gynllunio a pharatoi prydau bwyd a byrbrydau iach
  • dylai fod wedi cael hyfforddiant cymorth cyntaf
  • dylai fod â phrofiad gyrru, os yw hynny'n berthnasol
  • dylai arddangos sgiliau trefnu da
  • dylai fod â diddordeb mewn plant fel unigolion, a phersonoliaeth hyderus a phositif
  • dylai fod â phrofiad o weithio gyda phlant o bob oed, mewn amryw o sefyllfaoedd gwahanol

Additional links

Cymorth gyda materion ariannol i’ch plant

Gyda theulu sy’n tyfu, mae’n bosib y bydd angen ychydig o gymorth ariannol arnoch. Dilynwch y dolenni isod i ddod o hyd i beth gallwch fod yn gymwys iddo.

Allweddumynediad llywodraeth y DU