Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Gadael plant gartref ar eu pennau eu hunain.

Nid oes terfyn oedran cyfreithiol ar gyfer gadael plentyn ar ei ben ei hun, ond mae'n drosedd gadael plentyn ar ei ben ei hun os yw hynny'n peryglu'r plentyn. Gellir erlyn rhieni os byddant yn gadael plentyn heb oruchwyliaeth 'mewn modd sy'n debygol o achosi dioddef diangen neu anaf i'w iechyd' (Deddf Plant a Phobl Ifanc).

Pa mor aeddfed yw’r plentyn?

Y ffactor bwysicaf i'w hystyried yw pa mor aeddfed yw'r plentyn. Er enghraifft, gallai fod yn iawn gadael plentyn 12 oed sy'n aeddfed iawn ei ymddygiad ar ei ben ei hun, ond nid plentyn 13 oed sydd ddim yn aeddfed.

Dyma gyngor y Gymdeithas Genedlaethol er Atal Creulondeb i Blant (NSPCC):

  • anaml y bydd plant dan tua 12 mlwydd oed yn ddigon aeddfed i gael eu gadael ar eu pennau eu hunain am gyfnod hir
  • ni ddylid gadael plant dan 16 mlwydd oed ar eu pennau eu hunain dros nos
  • ni ddylid gadael babanod a phlant bach iawn ar eu pennau eu hunain byth

Pethau i’w cofio

Os dewiswch adael eich plentyn gartref ar ei ben ei hun, cofiwch wneud y canlynol:

  • gadael rhif ffôn cyswllt a sicrhau y gallwch ei ateb ar unwaith
  • gadael rhestr gyswllt ar wahân o bobl yr ydych yn ymddiried ynddynt, rhag ofn iddynt fethu â chysylltu â chi
  • siarad â'ch plant cyn ichi adael am sut i aros yn ddiogel, a dweud wrthynt am beidio ag ateb y drws i ddieithriaid
  • sicrhau nad oes modd cyrraedd gwrthrychau peryglus fel matsis a chyllyll, yn ogystal â moddion a chemegau peryglus
  • gadael cyfarwyddiadau clir am yr hyn i'w wneud mewn argyfwng (fel tân)
  • dweud wrthynt faint o'r gloch y byddwch yn ôl, a pheidio â bod yn hwyr
  • gosod rhai rheolau sylfaenol am yr hyn y cânt ei wneud a'r hyn na chânt ei wneud pan fyddwch chi allan
  • dysgu cymorth cyntaf sylfaenol iddynt

Yn olaf, mae'n bwysig eich bod yn sicrhau bod eich plentyn yn hapus i gael ei adael ar ei ben ei hun. Os nad ydynt yn hyderus am gael eu gadael ar eu pennau eu hunain, dylech gael rhywun i ofalu amdanynt.

Dod o hyd i ofal plant

Gallai dod o hyd i rywun i ofalu am eich plentyn tra'r ydych yn y gwaith neu pan na allwch fod gartref fod yn haws, ac yn rhatach, nag yr ydych yn ei feddwl. Am ragor o wybodaeth am eich holl ddewisiadau o ran gofal plant, cliciwch ar y dolenni isod.

Cysylltiadau defnyddiol

Allweddumynediad llywodraeth y DU