Cadw plant yn ddiogel rhag llosgiadau a sgaldiadau
Offer cegin, coginio a bwyd a diod sy'n gyfrifol am dros hanner yr achosion o losgiadau a sgaldiadau. Dilynwch y cyngor diogelwch hwn er mwyn cadw eich plentyn yn ddiogel.
Yn y gegin
- peidiwch â gadael i blant fynd yn y gegin tra’r ydych yn coginio, os yw’n bosibl
- peidiwch â gadael i blant fynd at flaen y popty - gall y drws fynd yn boeth iawn
- defnyddiwch degell gyda fflecs byr neu gyrliog a chadwch ef ymhell oddi wrth ymyl wyneb gweithio'r gegin
- trowch handlenni'r sosbenni tuag at gefn y popty, a defnyddiwch y cylchoedd cefn lle bo'n bosibl
- wrth goginio sglodion, defnyddiwch ffrïwr saim dwfn trydan, neu defnyddiwch sglodion popty yn hytrach
- dysgwch blant dros saith oed i ddefnyddio teclynnau cegin yn ddiogel - fel tostiwr, a microdon
- wrth i blant dyfu, gallant hefyd gael eu dysgu i arllwys dŵr yn ddiogel o'r tegell a defnyddio'r popty
Wrth i chi gynhesu poteli babanod, peidiwch â defnyddio'r microdon - gall y llaeth gynhesu'n anghyson, gan adael darnau o'r llaeth yn boeth iawn a allai losgi ceg babi. Y ffordd orau o gynhesu llaeth yw defnyddio cynhesydd poteli neu jwg o ddŵr poeth. Ar ôl ei gynhesu, dylech ysgwyd y botel yn dda a phrofi'r tymheredd drwy wasgu ychydig o ddafnau o lefrith ar du mewn eich arddwrn. Dylai fod yn gynnes, ond ddim yn rhy boeth.
Diodydd poeth
Gall diodydd poeth losgi plant ifanc 15 munud ar ôl iddynt gael eu gwneud. Er mwyn osgoi hyn:
- peidiwch byth ag yfed te neu goffi tra'r ydych yn gafael mewn babi neu blentyn ifanc
- peidiwch â gadael diodydd poeth o fewn cyrraedd babanod a phlant ifanc
- peidiwch byth â phasio diodydd poeth dros ben babi neu blentyn
Os yw eich plentyn wedi llosgi neu wedi'i sgaldio
- rhedwch ddŵr oer ar y llosg ar unwaith am 10 i 15 munud
- unwaith y bydd y llosg wedi oeri, tynnwch y dillad oddi ar y rhan sydd wedi'i hanafu
- os oes defnydd yn glynu wrth y croen, peidiwch â cheisio ei dynnu - bydd angen i weithiwr meddygol proffesiynol wneud hyn
- os bydd y llosg neu'r sgald yn dechrau brifo eto - rhowch ddŵr oer arno eto
- peidiwch â chyffwrdd yr anaf na byrstio unrhyw swigod - gall hyn achosi heintiad
- os yw'n bosibl, tynnwch fodrwyau, oriawr ac ati o'r rhan sydd wedi'i hanafu gan y gallai chwyddo
- gorchuddiwch y llosg neu'r sgald yn llac gyda deunydd di-fflwff i atal heintiad - mae haenen lynu (cling film) yn ddelfrydol ond peidiwch â'i lapio o amgylch yr anaf, gosodwch yr haen yn rhydd ar ei ben
- peidiwch â rhoi unrhyw hufenau, elïau, saim, chwistrell antiseptig na phlastrau ar yr anaf
- gallwch gael cyngor meddygol gan feddyg drwy ffonio NHS Direct (Cymru a Lloegr) ar 0845 4647, NHS 24 (yr Alban) ar 08454 242424, neu drwy fynd i adran damweiniau ac achosion brys eich ysbyty lleol
Os bydd y llosg neu'r sgald ar yr wyneb, dwylo, traed, cymalau neu'r organau rhyw, dylai'r meddyg gael ei weld. Dylai'r meddyg hefyd gael gweld unrhyw losg neu sgald sy'n fwy na stamp.
Cyrsiau cymorth cyntaf
Mae'n syniad da i bob rhiant a gofalwr ddysgu cymorth cyntaf. I gael rhagor o wybodaeth am gyrsiau cymorth cyntaf, cliciwch ar y dolenni isod.
Ymddiriedolaeth Atal Damweiniau Plant
Darparwyd y wybodaeth ar y dudalen hon gan Ymddiriedolaeth Atal Damweiniau Plant. Am fwy o wybodaeth ynghylch damweiniau plant ymwelwch â gwefan Wythnos Diogelwch Plant.