Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Gweld a yw ardal neu eiddo mewn perygl o lifogydd

Yma gallwch ganfod a yw ardal benodol neu eiddo penodol mewn perygl o lifogydd gan ddefnyddio'r gwasanaethau a ddarperir gan Asiantaeth yr Amgylchedd a'r Gofrestrfa Tir.

Gweld a yw ardal mewn perygl o lifogydd – Map Llifogydd Asiantaeth yr Amgylchedd

Os ydych am gael gwybod a yw ardal mewn perygl o lifogydd, gallwch ddefnyddio Map Llifogydd Asiantaeth yr Amgylchedd.

Sut mae defnyddio'r gwasanaeth

Bydd y ddolen isod yn eich arwain at wefan Asiantaeth yr Amgylchedd, lle bydd angen i chi wneud y canlynol:

  • rhoi cod post yr ardal dan sylw yn y blwch chwilio ar y dde
  • clicio ar 'Ewch' a bydd map manwl o'ch ardal yn ymddangos

Gallwch glicio ar y map i gael rhagor o wybodaeth am y perygl llifogydd yn yr ardal honno. Darperir yr wybodaeth hon yn rhad ac am ddim.

Gweld a yw eiddo mewn perygl o lifogydd – Dangosydd Perygl Llifogydd y Gofrestrfa Tir

Os hoffech weld a yw eiddo unigol mewn perygl o lifogydd, gan gynnwys y tir a’r gerddi, gallwch ddefnyddio Dangosydd Perygl Llifogydd y Gofrestrfa Tir. Mae’r Dangosydd Perygl Llifogydd yn cyfuno data Asiantaeth yr Amgylchedd a’r Gofrestrfa Tir ynghylch llifogydd i ddarparu gwybodaeth am eiddo, a gellir llwytho'r wybodaeth hon oddi ar y wefan.

Sut mae defnyddio'r gwasanaeth

Bydd y ddolen isod yn eich arwain at wefan y Gofrestrfa Tir, lle bydd angen i chi wneud y canlynol:

  • rhoi rhif y tŷ (neu’r fflat) a chod post yr eiddo rydych am gael gweld a yw mewn perygl o lifogydd
  • cofrestru â’r wefan
  • sicrhau bod gennych gerdyn credyd neu ddebyd dilys er mwyn gwneud y taliad (£9 heb gynnwys TAW)

Additional links

Cyngor budd-daliadau ar-lein

Os oes angen cyngor ar fudd-daliadau, pensiynau a chredydau arnoch, defnyddiwch y gyfrifiannell ar-lein i weld beth y gallech ei gael

Cymorth gyda ffeiliau PDF

I weld ffeiliau PDF bydd angen Adobe Reader arnoch. Mae’r rhaglen ar gael yn rhwydd os nad yw gennych eisoes

Allweddumynediad llywodraeth y DU