Gwarchod rhag cwympo a baglu
Bob blwyddyn caiff dros 390,000 o blant o dan 15 oed eu derbyn i ysbyty gydag anafiadau o ganlyniad i gwymp yn y cartref neu yn yr ardd. Er nad yw'r rhan fwyaf o gwympiadau'n ddifrifol, gall rhai arwain at anafiadau a chanddynt ganlyniadau hirdymor. Gall rhoi'r archwiliadau diogelwch canlynol ar waith helpu eich plentyn i osgoi anaf difrifol.
Babanod
Er nad yw babanod yn gallu symud llawer, maent yn dal i allu gwingo, cicio neu rowlio eu hunain i sefyllfaoedd peryglus. Dilynwch yr awgrymiadau hyn er mwyn helpu i'w cadw'n ddiogel:
- peidiwch â gadael babi ar ei ben ei hun ar unrhyw arwyneb uchel
- dylech newid babi ar y llawr bob amser er mwyn lleihau'r perygl iddo syrthio
- os yw eich babi mewn sedd car neu grud sy'n bownsio, rhowch nhw ar y llawr, ddim ar arwyneb uchel
- tynnwch deganau crud mawr o grud y babi unwaith y bydd yn gallu eistedd neu fynd ar ei bedwar, gan y gall babanod ddefnyddio teganau i ddringo o'r crud
- os byddwch yn cario babi i lawr y grisiau, cadwch un law yn rhydd bob amser i ddefnyddio'r canllaw grisiau rhag ofn i chi faglu neu golli eich cydbwysedd
- peidiwch byth â gadael i blentyn ifanc gario babi i lawr y grisiau
- pan fyddwch yn gosod babi yn ddiogel mewn cadair uchel, pram neu gadair wthio, defnyddiwch yr harnais pum pwynt (dau strap ysgwydd, dau strap clun a strap fforch)
- os ydych yn prynu harnais ar wahân, chwiliwch am un wedi'i wneud at Safon Brydeinig 6684
- defnyddiwch fframiau cerdded at Safon Brydeinig EN 1273:2005 yn unig - nid yw fframiau cerdded hŷn mor ddiogel
- peidiwch byth â gadael babi ar ei ben ei hun mewn ffrâm cerdded
Mewn argyfwng
Os yw eich plentyn yn anymwybodol ar ôl iddo syrthio:
- ffoniwch 999 ar unwaith a gofynnwch am ambiwlans
- rhowch wybod i'r gwasanaeth ambiwlans os yw eich plentyn yn anymwybodol ai peidio - byddant yn dweud wrthych beth i'w wneud tra'r ydych yn aros
Os daw eich plentyn yn ymwybodol tra'r ydych yn aros, dywedwch wrtho am aros mor llonydd â phosibl.
Cyrsiau cymorth cyntaf
Mae'n syniad da i bob rhiant a gofalwr ddysgu cymorth cyntaf. I gael rhagor o wybodaeth am gyrsiau cymorth cyntaf, cliciwch ar y dolenni isod.
Ymddiriedolaeth Atal Damweiniau Plant
Darparwyd y wybodaeth ar y dudalen hon gan Ymddiriedolaeth Atal Damweiniau Plant. I gael mwy o wybodaeth ynghylch damweiniau plant ymwelwch â gwefan Wythnos Diogelwch Plant.