Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Cadw plant yn ddiogel rhag sylweddau gwenwynig

Mae tua 26,000 o blant o dan bump oed yn cael eu derbyn i ysbyty gydag amheuaeth eu bod wedi'u gwenwyno bob blwyddyn. Dewch i wybod sut y gall rhoi rywfaint o fesurau syml ar waith atal hyn rhag digwydd i'ch plentyn chi.

Storio meddyginiaethau

Cadwch foddion lle na all plant ifanc eu cyrraedd na'u gweld. Rhowch nhw mewn cwpwrdd uchel, cwpwrdd a chanddo glicied na all plentyn ei agor, cabinet wedi'i gloi, neu gês â chlo arno. Peidiwch â'u cadw:

  • ar y bwrdd wrth ymyl eich gwely – mae’n ddigon hawdd i’ch plentyn sleifio i’ch ystafell heb gael ei weld
  • yn eich bag llaw - mae’n lle gwych i blant bach ddod o hyd i dabledi
  • yn yr oergell - mae 'cadwch yn oer' fel arfer yn golygu cadw o lefydd cynnes fel gwresogyddion neu o oleuni'r haul

Os bydd angen cadw meddyginiaeth mewn oergell bydd yn dweud hynny ar y bocs. Os bydd yn dweud hynny, cuddiwch hwy a'u cadw mor uchel â phosibl.

Meddyginiaethau – cyngor cyffredinol

  • caewch y caeadau ar boteli meddyginiaethau a chadwch bob meddyginiaeth yn syth
  • cofiwch tra gall caeadau ei gwneud yn anodd i blentyn agor poteli, ni allant eu rhwystro'n llwyr rhag eu hagor
  • cadwch yr holl feddyginiaethau yn eu cynhwysyddion gwreiddiol fel ei bod yn amlwg beth sydd ynddynt ac yn fwy anodd i blant eu hagor
  • byddwch yn hyd yn oed mwy gofalus gyda thabledi mewn pecynnau clir neu dabledi lliwgar - mae'r rheini yn apelio'n arbennig at blant
  • peidiwch â chyfrif eich tabledi am y diwrnod a'u gadael o gwmpas y lle
  • cymrwch eich meddyginiaeth pan nad yw’ch plentyn o gwmpas fel nad yw'n ceisio gwneud yr un fath â chi
  • gwnewch yn siŵr bod eich plentyn yn gwybod bod angen defnyddio moddion yn ddiogel a pheidio byth â chymryd arnoch mai fferins neu losin ydynt
  • ewch â meddyginiaethau dros ben i'ch fferyllfa leol er mwyn iddynt eu taflu'n ddiogel
  • cadwch lygad ar eich plant yn nhai pobl eraill gan na fyddant efallai'n dilyn yr un rheolau diogelwch â chi

Storio cemegau a chynhyrchion yn y cartref

  • cadwch holl gemegau a chynnyrch glanhau'r cartref – gan gynnwys tabledi golchi ar gyfer y peiriant golchi llestri neu’r peiriant golchi - o'r golwg ac mewn cypyrddau a chanddynt gliciedau anodd i blant eu hagor
  • cadwch gynhyrchion a allai fod yn niweidiol yn uchel fel na all plant eu cyrraedd - peidiwch byth â'u cadw o dan y sinc neu ar y llawr wrth y toiled
  • symudwch gynhyrchion o'r golwg os cewch eich galw tra'r ydych yn eu defnyddio - er enghraifft os bydd y ffôn yn canu tra'r ydych yn glanhau'r toiled
  • dylech gael gwared â chynhwysyddion gwag yn ddiogel ac allan o gyrraedd eich plentyn

Cemegau a chynhyrchion yn y cartref – awgrymiadau cyffredinol

  • chwiliwch am gynhyrchion a chanddynt gaeadau sy'n ei gwneud yn anodd i blant eu hagor ond cofiwch nid yw hyn yn golygu na allant wneud hynny o gwbl - mae rhai plant mor ifanc â thair oed yn gallu eu hagor mewn eiliadau
  • cofiwch fod capsiwlau hylif golchi crynodedig ar gael mewn bocsys felly nid oes ganddynt gaeadau sy'n ei gwneud yn anodd i blant eu hagor
  • chwiliwch am gynhyrchion a chanddynt gannydd chwerw ynddynt - mae hyn yn achosi iddynt flasu'n afiach ac yn helpu i rwystro plant ifanc rhag eu llyncu
  • cofiwch fod sigaréts, alcohol, persawr, olewau aromatherapi a hylif golchi ceg yn gallu bod yn wenwynig i blant
  • peidiwch byth â stripio hen ddodrefn neu waith paent pan mae plant ifanc (neu ferched beichiog) o gwmpas - gall y llwch gynnwys plwm sy'n niweidiol

Storio cemegau y tu allan

  • cadwch holl gemegau fel paent, gwirod gwyn, olew, gwrthrewydd, lladdwyr chwyn a phlaladdwyr yn uchel, fel na all plant eu cyrraedd na'u gweld
  • rhowch glo ar y cwpwrdd, y sied neu’r garej y cedwir hwy ynddynt
  • cadwch yr holl gemegau yn eu cynhwysyddion gwreiddiol, wedi'u labelu - peidiwch â'u rhoi mewn potel neu gynhwysydd arall

Gwenwyn carbon monocsid

Mae carbon monocsid yn nwy gwenwynig a all gronni pan fydd nam ar beiriannau'r cartref sy'n defnyddio fflamau - fel boeleri, gwresogyddion dŵr, ffyrnau neu danau agored ac nad ydynt yn cael digon o ocsigen i losgi'n effeithlon. Mae carbon monocsid yn arbennig o beryglus gan nad oes ganddo arogl, blas na lliw, felly mae'n anodd iawn gwybod pryd y mae'n cael ei gynhyrchu.

Gallwch amddiffyn eich cartref rhag gwenwyn carbon monocsid drwy wneud y canlynol:

  • gosod larymau carbon monocsid lle bynnag ceir teclyn sy'n llosgi fflamau
  • sicrhewch nad ydych yn gorchuddio allfeydd awyru yn eich cartref
  • sicrhewch y caiff eich teclynnau llosgi fflamau eu profi gan beiriannydd cymwysedig yn rheolaidd

Cymorth cyntaf

Os ydych yn meddwl bod eich plentyn wedi llosgi meddyginiaeth neu gemegyn niweidiol:

  • gofynnwch i'ch fferyllydd, eich meddyg neu i adran achosion brys a damweiniau am gyngor ar unwaith - neu ffoniwch NHS Direct ar 0845 4647
  • dewch o hyd i'r botel neu'r paced ac ewch ag ef/hi gyda chi i'r ysbyty
  • peidiwch â rhoi dŵr halen nag unrhyw beth arall i'ch plentyn er mwyn ei wneud yn sâl
  • peidiwch â rhoi dim byd i'w yfed i'ch plentyn - rhowch ddŵr oer ar ei wefusau os yw'n llosgi
  • os yw’r plentyn yn anymwybodol neu os oes llosgiadau yn y geg, ffoniwch 999 ar unwaith i alw am ambiwlans

Ymddiriedolaeth Atal Damweiniau Plant

Darparwyd y wybodaeth ar y dudalen hon gan Ymddiriedolaeth Atal Damweiniau Plant. I gael mwy o wybodaeth ynghylch damweiniau plant ymwelwch â gwefan Wythnos Diogelwch Plant.

Cysylltiadau defnyddiol

Allweddumynediad llywodraeth y DU