Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Cyngor am ddiogelwch tân ar gyfer rhieni a gofalwyr plant

Y ffordd orau o addysgu plant am ddiogelwch tân yw drwy esiampl. Gadewch i'ch plant eich gweld yn bod yn ddoeth ac yn ofalus wrth goginio, gyda chanhwyllau, wrth ysmygu ac mewn cysylltiad â pheryglon tân posib eraill. Yma, cewch wybod mwy ynglŷn â siarad gyda phlant am dân – a’r hyn y dylen nhw ei wneud os oes tân.

Tân a phlant

Mae tân yn un o’r achosion mwyaf cyffredin o anafiadau damweiniol a marwolaethau ymysg plant. Mae plant yn naturiol yn cael eu denu at olau a chynhesrwydd tân, ond heb yr arweiniad priodol gall hyn droi'n hudoliaeth beryglus. Bydd yr awgrymiadau canlynol yn helpu i sicrhau nad yw eich plant yn dod i gysylltiad â pherygl.

Siarad gyda'ch plant am dân

Tân gwyllt a’ch plentyn

Gwyliwch fideos ynghylch mwynhau tân gwyllt yn ddiogel ar sianel YouTube Cross & Stitch

I blant dan bum mlwydd oed, rhowch gyfarwyddiadau eglur ynghylch beth y dylen nhw ei wneud a beth na ddylen nhw ei wneud. Gyda phlant hŷn, mae’n well i chi hefyd egluro'r rhesymau pam. Mae’n debygol y bydd angen i chi siarad gyda nhw am ddiogelwch tân fwy nag unwaith, i sicrhau eu bod wedi cofio ac wedi deall yr hyn rydych chi wedi ei ddweud wrthynt. Dywedwch wrthyn nhw am wneud y canlynol:

  • dweud wrth oedolyn os ydynt yn gweld matsis neu danwyr o amgylch y lle
  • peidio byth â chwarae gyda matsis, tanwyr neu ganhwyllau sydd wedi’u cynnau
  • peidio byth â chwarae yn agos i dân neu wresogydd, na gadael teganau nesaf atynt
  • peidio â rhoi pethau ar ben gwresogyddion na goleuadau
  • peidio â thynnu ar geblau trydanol na ffidlan gydag offer trydanol na socedi
  • peidio byth â rhoi’r popty ymlaen na rhoi unrhyw beth ar ei ben
  • peidio byth â chyffwrdd ag unrhyw sosbenni sydd ar y popty

Cyfarwyddiadau tân i blant

Mae’n bwysig eich bod yn trafod gyda phlant beth i’w wneud os oes tân – peidiwch â’i osgoi am fod gennych chi ofn eu dychryn. Mae'n rhaid i blant wybod sut i ymateb, oherwydd mae'n bosib na fydd oedolyn o gwmpas i ddweud wrthyn nhw beth i'w wneud ar y pryd os bydd tân. Dyma'r cyfarwyddiadau sylfaenol i'w rhoi i'ch plant:

  • os ydynt yn gweld mwg neu fflamau, dylen nhw ddweud wrth rywun ar unwaith – oedolyn os yn bosib
  • dylen nhw geisio mynd allan o'r adeilad cyn gynted ag y bo modd
  • ni ddylen nhw fynd yn ôl i mewn i’r adeilad ar unrhyw gyfrif
  • ni ddylen nhw fyth guddio mewn cwpwrdd neu o dan y gwely – dylen nhw fynd allan o'r tŷ a galw am help yn syth
  • dylen nhw chwilio am ffôn a ffonio 999, a gofyn am y Gwasanaeth Tân ac Achub – bydd angen iddynt roi’r cyfeiriad yn araf ac yn bwyllog
  • sicrhewch fod eich plant yn gwybod eu cyfeiriad er mwyn iddynt allu galw am gymorth

Sicrhau eich bod yn gyfarwydd â'ch llwybr dianc

Cynlluniwch lwybr dianc a sicrhewch fod pawb yn y tŷ, gan gynnwys plant a gwarchodwyr, yn gyfarwydd ag ef. Cadwch bob allanfa'n glir, ac ewch dros y cynllun dianc gyda'r plant.

Gwneud eich cartref yn ddiogel i blant

Dyma rai pethau y gallwch eu gwneud yn eich cartref er mwyn cadw'ch plant yn ddiogel:

  • peidiwch â gadael plant ar eu pennau'u hunain mewn ystafell lle mae perygl o dân
  • cadwch fatsis, tanwyr a chanhwyllau mewn lle na all plant eu gweld na’u cyrraedd – a rhowch gloeon plant ar gypyrddau
  • dylid rhoi gard tân atal plant o flaen gwresogydd neu dân agored
  • peidiwch â gadael i blant chwarae â theganau na'u gadael wrth ymyl tân neu wresogydd
  • cadwch wresogyddion symudol mewn man diogel lle nad oes modd eu troi pan fyddant yn cael eu defnyddio neu’u storio
  • peidiwch byth â gadael plant ar eu pennau'u hunain yn y gegin pan fyddwch yn coginio a pheidiwch byth â gadael iddynt chwarae yn ymyl y popty
  • sicrhewch fod offer trydanol wedi’u diffodd pan na chânt eu defnyddio

Gorchuddio socedi trydan

Mae’n anodd iawn i blentyn gael sioc drydanol wrth chwarae gyda soced, felly ni ddylai bod angen i chi ddefnyddio gorchuddion socedi. Fodd bynnag, mewn rhai achosion, gall gorchudd rwystro plant ifanc rhag rhoi plygiau gwresogyddion neu offer trydanol eraill a allai ddechrau tân neu arwain at losgiadau yn y soced. Ni ddylech ddibynnu ar orchuddion socedi gan nad ydynt yn cael eu rheoleiddio ar gyfer diogelwch. Mae'n well o lawer sicrhau bod offer trydanol yn cael eu cadw'n ddiogel.

Cysylltiadau defnyddiol

Allweddumynediad llywodraeth y DU