Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Cadw plant yn ddiogel yn ystod llifogydd

Mae dŵr llifogydd yn fygythiad difrifol i iechyd a diogelwch personol, a gall plant yn arbennig fod mewn perygl. Dilynwch y rheolau syml hyn i wneud yn siŵr bod eich plant yn aros yn ddiogel.

Mannau lle ceir dŵr llifogydd

Peidiwch byth â chaniatáu i blant chwarae mewn mannau lle ceir dŵr llifogydd, a defnyddiwch ddŵr poeth i olchi teganau sydd wedi cael eu llygru gan ddŵr llifogydd, neu diheintiwch hwy cyn iddynt gael eu defnyddio. Dylech hefyd olchi dwylo eich plentyn yn gyson (cyn prydau bwyd bob amser).

Os yw llifogydd wedi cyrraedd eich cartref

Pan fyddwch yn dychwelyd i'ch cartref ar ôl llifogydd, cofiwch y gall dŵr llifogydd gynnwys carthffosiaeth. Cadwch eich hun a'ch plant yn ddiogel drwy ddilyn y camau hyn:

  • dylid cadw plant ac anifeiliaid anwes o'r ardal yr effeithiwyd arni nes bod y gwaith glanhau wedi'i gwblhau
  • os yw'n bosib, ni ddylid gadael i blant ifanc iawn chwarae'n uniongyrchol ar loriau pren nac ar unrhyw loriau teils a ddifrodwyd - dylech gofio y gall ochrau miniog teils neu hoelion sydd wedi codi o'r llawr fod yn beryglus
  • dylid golchi dillad, dillad gwelyau a phethau eraill meddal/wedi'u gwneud o ddefnydd (gan gynnwys teganau plant) mewn dŵr poeth (60°C neu'r tymheredd uchaf yn ôl cyfarwyddiadau'r gwneuthurwr)
  • peidiwch â gadael i blant ifanc chwarae mewn mannau sy'n cynnwys glaswellt neu bafin yr effeithiwyd arnynt nes bod yr ardal wedi cael ei glanhau a'i hadfer i'w chyflwr arferol
  • sicrhewch fod mannau cyfyng fel garejis neu selerydd yn cael eu hawyru'n dda ac na all plant nac anifeiliaid fynd i mewn iddynt

Dŵr i fabanod yn ystod llifogydd

Os bydd rhywbeth yn tarfu ar y cyflenwad dŵr yfed neu os yw wedi'i lygru, mae'n bwysig cymryd camau er mwyn sicrhau diogelwch babanod sy'n cael bwyd fformiwla. Fel arfer, darperir tanceri dŵr pur i gymunedau yr effeithiwyd arnynt gan ddŵr llifogydd. Yn yr amgylchiadau hyn ceir tri dewis o ran defnyddio dŵr i wneud fformiwla llaeth ar gyfer babanod:

  • berwi dŵr pur o dancer, neu ddŵr potel, a gadael iddo oeri am ddim mwy na 30 munud mewn cynhwysydd glân gyda chaead arno - yna, dylid dilyn cyfarwyddiadau'r gwneuthurwr i baratoi'r bwyd
  • gellir defnyddio llaeth fformiwla masnachol sydd wedi'i baratoi'n barod, yn hytrach na defnyddio powdwr sydd angen dŵr pur o dancer i'w baratoi

Os na ellir gwneud dim o'r pethau hyn oherwydd nad oes ynni ar gyfer berwi, yna:

  • gellir defnyddio dŵr potel (dŵr mwynol neu ddŵr ffynnon) heb ei ferwi i baratoi bwyd babi - fodd bynnag, dylid defnyddio'r bwyd yn syth ar ôl iddo gael ei baratoi
  • ni ddylid defnyddio dŵr o dancer heb ei ferwi

Bydd y dŵr potel a roddir i'r cyhoedd gan y cwmni dŵr yn ystod llifogydd yn addas i baratoi fformiwla babanod. Os gwelir bod babanod yn sâl a'u bod yn taflu i fyny ac yn dioddef o ddolur rhydd, dylai'r rhieni geisio cyngor meddygol.

Os yw'r cwmni dŵr wedi dweud nad yw'r dŵr a gyflenwir i gartrefi'n ddiogel i'w yfed, peidiwch â'i ddefnyddio i roi bath i fabanod. Yn y sefyllfa hon, byddai'n ddiogel defnyddio dŵr o'r tancer, neu ddŵr potel. Yn hytrach na rhoi bath i fabanod, gellir defnyddio cadachau ymolchi babanod i'w hymolchi ac i olchi eu dwylo.

Prynu eich dŵr potel eich hun

Os ydych yn prynu eich dŵr potel eich hun, dylech gofio y gall ambell fath o ddŵr mwynol gael cynnwys uchel o sodiwm. Edrychwch ar y label am sodiwm neu 'Na' a gwnewch yn siŵr nad yw ei lefel yn uwch na 200 miligram y litr. Os ydyw, yna ceisiwch ddefnyddio dŵr gwahanol. Os nad oes math arall o ddŵr ar gael, yna defnyddiwch y dŵr hwn am y cyfnod byrraf posib. Mae’n bwysig rhoi digon o ddŵr i fabanod.

Cysylltiadau defnyddiol

Allweddumynediad llywodraeth y DU