Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
O gael blas ar gerddoriaeth i ganolbwyntio ar gelf, o feistroli karate i astudio'n ddistaw - gall plant elwa o ofal plant a chlybiau y tu allan i oriau'r ysgol mewn sawl ffordd.
Mae'n ffordd wych i blant o bob oed feithrin sgiliau a thalentau newydd drwy ddysgu a thrwy chwarae gyda phlant eraill mewn amgylchedd diogel, a hwnnw wedi'i drefnu a'i strwythuro'n dda. A thrwy gael mwy o amser rhydd, mae'n rhoi llawer o opsiynau i chithau hefyd – p'un ai a ydych yn gweithio, yn ceisio mynd yn ôl i weithio, yn astudio neu'n ceisio gwneud eich bywyd ychydig yn llai prysur.
I helpu i wneud eich bywyd yn haws, mae llawer o ddewisiadau gofal plant fforddiadwy ar gael. Ceir ystod eang o grwpiau cyn-ysgol, meithrinfeydd, clybiau amser brecwast, clybiau ar ôl ysgol, gwarchodwyr plant a chynlluniau chwarae yn ystod y gwyliau i chi ddewis o'u plith. Beth am siarad â'ch ysgol leol am y clybiau a gynigir ganddynt neu holi eich Canolfan Blant Cychwyn Cadarn leol?
A chofiwch, pan ddefnyddiwch ofal plant sydd wedi'i gofrestru gydag Ofsted, byddwch yn gwybod ei fod wedi bodloni safonau clir sydd wedi'u cynllunio i ddarparu amgylchedd diogel i'ch plant.
Gallech ganfod nad yw gofal plant ffurfiol mor ddrud ag yr ydych yn ei feddwl. Gall nifer o deuluoedd gael cymorth gyda'r gost drwy elfen gofal plant Credyd Treth Gwaith. Os ydych chi'n defnyddio gofal plant wedi'i gofrestru neu ei gymeradwyo, gallech gael hyd at 70 y cant o'ch costau gofal plant yn ôl, yn dibynnu ar eich incwm.
Mae hefyd yn werth gwybod bod gan blant tair a phedair oed hawl i 15 awr o addysg feithrin am ddim bob wythnos. Mae hyn am 38 wythnos y flwyddyn, ac mae ar gael gan feithrinfeydd, canolfannau plant, grwpiau chwarae, grwpiau cyn-ysgol neu warchodwyr plant. Ac os ydych yn chwilio am ofal plant hyblyg am fwy na 15 awr a hanner yr wythnos, ceir llawer o ddewisiadau fforddiadwy.
I gael cyngor ar sut mae dewis gofal plant, ac i gael gwybod beth sydd ar gael yn eich ardal chi, dilynwch y ddolen isod.
Ymunwch â Change4Life – helpu pob teulu i fwyta’n iach, symud mwy a byw’n hirach