Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Budd-daliadau gofal plant, credydau treth a chymorth arall ar gyfer rhieni sy'n gweithio

Os ydych chi'n gweithio neu’n mynd yn ôl i'r gwaith a bod gennych blant, fe allwch gael help ariannol ac ymarferol gyda gofal plant. Mae sawl gwahanol fath o help ar gael i wneud bywyd yn haws - o gredydau treth i drefniadau gweithio hyblyg.

Addysg blynyddoedd cynnar

Mae gan bob plentyn tair a phedair oed yr hawl i 15 awr o addysg meithrin am ddim bob wythnos am 38 wythnos o'r flwyddyn. Mae hyn yn gymwys nes ei fod yn cyrraedd oedran ysgol gorfodol (y tymor yn dilyn ei ben-blwydd yn bump). Gall addysg meithrin am ddim cael eu cynnal mewn meithrinfeydd, cylch chwarae, sefydliadau cyn ysgol neu gyda’u gwarchodwr plant.

Credydau Treth

Taliadau gan y llywodraeth yw credydau treth. Os ydych chi'n gyfrifol am o leiaf un plentyn neu berson ifanc sydd fel arfer yn byw gyda chi, mae'n bosib eich bod yn gymwys i gael Credyd Treth Plant. Os ydych chi’n gweithio, ond ar gyflog isel, mae'n bosib y byddwch yn gymwys i gael Credyd Treth Gwaith. Os ydych yn gweithio ac yn talu am ofal plant efallai y gallwch gael credydau treth i'ch helpu gyda'r costau.

Amser o'r gwaith a gweithio hyblyg

Amser o'r gwaith ('absenoldeb rhiant')

Os ydych chi'n rhiant sy'n gweithio, bydd gennych yr hawl i fod yn absennol o'r gwaith am hyd at 13 wythnos ar gyfer pob plentyn nes eu bod yn bump oed (fe gewch fwy na hyn os oes gennych blentyn anabl). Does dim rhaid i'ch cyflogwr dalu ichi am yr amser hwn, ond mae'n bosib y byddan nhw'n dewis gwneud hynny fel rhan o'ch pecyn cyflogi.

Gweithio hyblyg

Mae gweithio hyblyg yn golygu y cewch chi ofyn i'ch cyflogwr am batrwm gweithio newydd i'ch helpu i ofalu am eich plentyn. Os oes gennych blentyn dan chwech oed neu blentyn anabl dan 18 oed, mae gennych chi'r hawl i ofyn am batrwm gwaith hyblyg. Mae'n rhaid i'ch cyflogwr ystyried eich cais yn ddifrifol.

Er mwyn gallu gofyn am gael patrwm gweithio hyblyg, rhaid i chi:

  • fod wedi gweithio i'ch cyflogwyr am o leiaf 26 wythnos
  • fod yn fam, yn dad, yn fabwysiadwr, yn warcheidwad cyfreithiol neu'n rhiant maeth i'r plentyn - neu'n bartner i un o'r rhain
  • fod yn gyfrifol am fagu'r plentyn
  • fod yn gwneud y cais er mwyn i chi allu gofalu am y plentyn

Bydd rhaid i chi lenwi ffurflen gais wrth wneud cais am batrwm gweithio hyblyg. Dim ond un cais y flwyddyn gewch chi ei wneud.

Grant Swydd

Taliad unswm di-dreth yw Grant Swydd ac mae'n bosib y cewch chi hwn wrth ddechrau gweithio'n llawn amser (o leiaf 16 awr yr wythnos). Fe gewch chi hwn os ydych chi (a'ch partner os oes gennych un) yn 25 oed neu'n hŷn a'ch bod wedi bod yn cael un neu fwy o'r budd-daliadau hyn am 26 wythnos o leiaf cyn i chi ddechrau gweithio:

  • Cymhorthdal Incwm
  • Lwfans Ceisio Gwaith (y ddau fath)
  • Budd-dal Analluogrwydd
  • Lwfans Anabledd Difrifol

I rieni unigol a chyplau sydd â phlant, swm y grant yw £250. (Os ydych chi neu'ch partner dan 25 oed, mae'n bosib y bydd rheolau gwahanol yn berthnasol.)

Cynhaliaeth plant a budd-daliadau

Ers mis Hydref 2008, mae pob rhiant wedi gallu dewis sut i drefnu cynhaliaeth plant, hyd yn oed os ydyn nhw’n hawlio budd-daliadau.

Hefyd, ers mis Ebrill 2010 gall rhieni gyda gofal gadw’r gynhaliaeth plant a delir iddynt ac ni ddylai hyn effeithio ar eu budd-daliadau ar sail incwm bellach.

Cael help gan eich cyflogwr

Mae llawer o gyflogwyr bellach yn cynnig help i weithwyr dalu am eu gofal plant, gall hyn gynnwys:

  • rhoi arian parod i chi dalu am ofal plant
  • talu am y ffioedd gofal plant yn uniongyrchol
  • talu am ffioedd ysgol y plentyn

Os bydd eich cyflogwr yn cynnig unrhyw un o'r uchod i chi, bydd yn rhaid i chi dalu treth a chyfraniadau yswiriant gwladol ar ba bynnag gymorth a roddir. Mae mathau eraill o gymorth gofal plant y gall eich cyflogwr ei ddarparu fodd bynnag, heb i chi orfod talu treth neu gyfraniadau yswiriant gwladol. Sef:

  • talebau gofal plant
  • gofal plant wedi'i gontractio'n uniongyrchol
  • meithrinfeydd yn y gweithle

I gael rhagor o wybodaeth am y mathau gwahanol o gymorth y gallech ei gael gan eich cyflogwr, llwythwch y daflen isod.

Cysylltiadau defnyddiol

Additional links

Cymorth gyda materion ariannol i’ch plant

Gyda theulu sy’n tyfu, mae’n bosib y bydd angen ychydig o gymorth ariannol arnoch. Dilynwch y dolenni isod i ddod o hyd i beth gallwch fod yn gymwys iddo.

Allweddumynediad llywodraeth y DU