Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Mae’r Grant Swyddi yn daliad dewisol sy’n gysylltiedig â gwaith y gallech ei gael pan fyddwch chi neu'ch partner yn symud yn uniongyrchol o fudd-dal i mewn i waith. Dewch i gael gwybod a ydych yn gymwys i gael Grant Swyddi, faint ydyw a sut i wneud cais amdano.
Gallech gael Grant Swyddi os yw eich hawl am fudd-dal yn dechrau cyn 1 Hydref 2012 a’ch bod yn symud o fudd-dal yn syth i mewn i waith am o leiaf 16 awr yr wythnos. Gall hyn fod yn dechrau swydd newydd, cynyddu’r oriau rydych yn eu gweithio mewn swydd bresennol neu gyfuniad o swyddi.
Efallai y byddwch hefyd yn cael Grant Swyddi os yw eich partner yn dechrau gweithio o leiaf 24 awr yr wythnos ac o ganlyniad bod eich budd-dal yn dod i ben.
Mae’n rhaid disgwyl i'r gwaith bara am o leiaf bum wythnos, ac mae'n rhaid i chi hysbysu'r Ganolfan Byd Gwaith o fewn 21 diwrnod o ddechrau'r gwaith.
Mae’n rhaid i chi hefyd fod wedi bod yn hawlio un neu gyfuniad o'r budd-daliadau canlynol am o leiaf 26 wythnos yn union cyn symud i mewn i waith:
Nid yw unrhyw gyfnod lle nad oes hawl gennych i gael un o’r budd-daliadau uchod yn cyfrif tuag at y cyfnod cymhwyso 26 wythnos.
Ni chewch Grant Swyddi os:
Bydd newidiadau i Grant Swyddi yn dechrau ar gyfer ceisiadau newydd am fudd-dal o fis Hydref 2012 ymlaen.
Golyga hyn ni chaiff taliadau newydd o Grant Swyddi eu gwneud o 1 Ebrill 2013.
Mae swm y Grant Swyddi a gewch yn dibynnu ar eich amgylchiadau.
Gallwch gael un o'r symiau canlynol:
Os ydych yn gymwys i gael Grant Swyddi, caiff ei dalu i chi yn awtomatig pan fydd eich cais am fudd-dal wedi’i gau.
Bydd angen i chi sicrhau eich bod yn dweud wrth y Ganolfan Byd Gwaith eich bod yn dechrau gweithio ac mae'n rhaid i chi wneud hyn o fewn 21 diwrnod o ddechrau gweithio.
Cewch eich talu yn yr un ffordd ag y caswoch eich taliadau budd-daliadau.
Mae'r Grant Swyddi yn daliad di-dreth ac nid yw'n gostwng budd-daliadau eraill neu gredydau treth y gallech ei gael pan fyddwch yn dechrau gweithio.
Os ydych yn gymwys ar gyfer y Grant Swyddi efallai y byddwch hefyd yn medru cael Budd-dal Treth Cyngor a Budd-dal Tai am gyfnod Estynedig.
Os gwrthodwyd Grant Swydd i chi , neu credwch eich bod wedi cael y swm anghywir, gallwch ofyn i'r Ganolfan Byd Gwaith ailystyried y penderfyniad.