Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Budd-daliadau a chymorth wrth ddychwelyd i waith

Pan fyddwch yn dychwelyd i waith ar ôl bod ar fudd-daliadau, bydd rhai o'ch budd-daliadau yn parhau am gyfnod byr. Dewch o hyd i gael gwybod mwy o wybodaeth, gan gynnwys y budd-daliadau a’r cymorth y gallech ei gael unwaith y dechreuwch weithio.

Cymorth gyda chostau tai

Os oeddech yn cael help gyda'ch costau tai pan oeddech yn ddi-waith, gallech barhau i'w gael. Mae hyn os ydych wedi hawlio un o'r budd-daliadau canlynol am o leiaf 26 wythnos yn barhaus cyn i chi ddechrau gweithio:

  • Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar incwm
  • Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn seiliedig ar incwm
  • Cymhorthdal Incwm

Yna gallech barhau i gael y budd-daliadau canlynol am hyd at bedair wythnos:

  • Taliad Estynedig Budd-dal Tai
  • Taliad Estynedig Budd-dal Treth Cyngor
  • Dilyniant o Log Morgais

Gallech barhau i gael Budd-dal Tai a Budd-dal Treth Cyngor ar ôl yr amser hwnnw os:

  • ydych ar incwm isel
  • yw eich costau tai yn is na lefel penodol

Er y gallech barhau i gael cymorth, fel y nodwyd uchod, bydd hyn yn dibynnu ar y nifer o oriau a weithiwyd a'r swm a enillir. Mae’n rhaid i chi ddatgan y manylion am y swydd fel y gall hyn gael ei gyfrifo.

Os ydych yn berchennog tŷ a bod yn rhaid i chi wneud cais am fudd-dal eto, mae’n bosibl na fydd angen i chi aros nes y cewch help eto, gyda’ch costau morgais. Cysylltwch â’r Ganolfan Byd Gwaith i gael rhagor o wybodaeth.

Credydau treth

Mae credyd treth yn daliad a gewch yn rheolaidd. Er gwaethaf yr enw, nid yw'n credyd yn erbyn eich bil treth.

Os oes gennych blant mae'n bosibl y gallwch gael credydau treth, ond nid oes angen i chi gael plant i'w hawlio. Gallech hefyd fod yn gymwys os ydych yn gweithio ac ar incwm isel.

Os ydych yn gweithio ac yn talu gofal plant, mae’n bosibl y gallwch gael credydau treth i helpu gyda’r costau.

Grant Swyddi

Mae Grant Swyddi yn daliad untro di-dreth y gallech ei gael pan fyddwch yn dechrau gweithio am o leiaf 16 awr yr wythnos ac yn rhoi’r gorau i gael budd-daliadau.

Gallech fod yn gymwys am Grant Swyddi os ydych wedi bod yn hawlio un o’r budd-daliadau canlynol:

  • Lwfans Cyflogaeth a Chymorth
  • Budd-dal Analluogrwydd
  • Cymhorthdal Incwm
  • Lwfans Ceisio Gwaith
  • Lwfans Anabledd Difrifol

Mae’n rhaid i'ch cais am fudd-dal ddechrau cyn 1 Hydref 2012.

Bydd angen i chi fod wedi hawlio budd-dal am fwy na 6 mis yn barhaus a dechrau gwaith am fwy nag 16 awr yr wythnos.

Cewch Grant Swyddi yn awtomatig os byddwch yn gymwys. Mae angen i chi sicrhau eich bod yn hysbysu eich swyddfa Canolfan Byd Gwaith eich bod yn dechrau gwaith. Cewch eich talu'r un ffordd a dalwyd eich budd-dal.

Credyd Dychwelyd i Waith

Mae Credyd Dychwelyd i Waith yn daliad di-dreth o £40 yr wythnos ar gyfer pobl sydd â chyflwr iechyd neu anabledd, neu os oedd ganddynt gyflwr iechyd neu anabledd yn y gorffennol.

Gall fod yn daladwy am hyd at 52 wythnos cyn belled â’r amodau canlynol:

  • disgwylir i’ch swydd barhau am o leiaf bum wythnos
  • rydych yn gweithio mwy nag 16 awr yr wythnos ar gyfartaledd
  • nid yw eich enillion gros yn fwy na £288.46 yr wythnos, neu £1,250 y mis
  • rydych yn ennill y Cyflog Isafswm Cenedlaethol o leiaf
  • rydych wedi bod yn cael budd-dal analluogrwydd am 13 wythnos neu fwy yn barhaus
  • rydych wedi dechrau gweithio neu ar fin dechrau gweithio o fewn y cyfnod pum wythnos yn union ar ôl bod â hawl i gael budd-dal cymwys
  • rydych yn diwallu unrhyw anghenion priodol eraill

Efallai na fyddwch yn gymwys os byddwch yn hawlio naill ai un o’r budd-daliadau canlynol yn y pum wythnos cyn dechrau gwaith:

  • Lwfans Ceisio Gwaith
  • Cymhorthdal Incwm fel rhiant unigol

Bydd newidiadau i Gredyd Dychwelyd i Waith yn dechrau ar gyfer ceisiadau newydd am fudd-dal o fis Gorffennaf 2013 ymlaen.

Mae hyn yn golygu na fydd unrhyw daliadau newydd o Gredyd Dychwelyd i Waith o 1 Hydref 2013.

Bydd taliadau sydd eisoes ar waith ar 1 Hydref, 2013 yn parhau am hyd at 52 wythnos, cyn belled â'ch bod yn bodloni'r rheolau ar gyfer cael y taliad.

Cysylltwch â’ch ymgynghorydd neu’r Ganolfan Byd Gwaith am ragor o fanylion.

Help gyda chostau teithio wrth fynd i gyfweliadau am swydd

Mae'n bosibl y gallwch gael cymorth gyda chostau teithio a gafwyd wrth fynd i gyfweliadau am swyddi drwy gronfa gyfyngedig y gall ymgynghorwyr y Ganolfan Byd Gwaith gael mynediad ati. Mae'r gronfa yn ddewisol ac nid oes gan neb hawl awtomatig i gymorth.

Yn ogystal â’r cymorth hwn, mae nifer o gytundebau ar waith yn genedlaethol ac yn lleol sy’n cynnig trafnidiaeth ar bris gostyngol i bobl.

Mae hyn yn cynnwys cynllun teithio disgownt y mae’r Ganolfan Byd Gwaith yn gweithredu gyda Chwmnïau Gweithredu Trenau. Mae hyn yn cynnig gostyngiad o 50% ar gyfer teithio ar y rheilffordd i bobl ddi-waith cymwys tymor hwy.

Siaradwch â’ch ymgynghorydd Canolfan Byd Gwaith i gael rhagor o wybodaeth am y cymorth sydd ar gael yn eich ardal.

Hawlio budd-daliadau wrth ddychwelyd i waith

Mae gwasanaeth ar gael sef 'I Mewn ac Allan o Waith ' – sy'n ei gwneud yn haws i chi pan fyddwch yn symud i mewn ac allan o waith. Os ydych chi, neu eich partner, wedi bod yn cael un o'r budd-daliadau canlynol ac rydych yn cael swydd, bydd dim ond angen i chi ddweud wrth y Ganolfan Byd Gwaith:

  • Cymhorthdal Incwm
  • Lwfans Ceisio Gwaith

Yna bydd y Ganolfan Byd Gwaith yn hysbysu eich cyngor lleol a swyddfa credyd treth. Bydd eich cyngor lleol yn cyfrifo’r Budd-dal Tai a Budd-dal Treth Cyngor y gallech ei gael. Bydd y swyddfa credyd treth yn cyfrifo’r Credyd Treth Plant a Chredyd Treth Gwaith y gallech ei gael.

Os bydd eich amgylchiadau yn newid pan fyddwch yn gweithio, fel gweithio goramser, rhaid i chi hysbysu eich cyngor lleol a swyddfa credyd treth. Mae hyn oherwydd y gall eich budd-daliadau hefyd newid.

Defnyddiwch y Cynghorydd Budd-daliadau ar-lein i ganfod sut y gall newid yn eich amgylchiadau, fel dechrau gwaith, effeithio ar eich budd-daliadau.

Proses hawlio byrrach am Gymhorthdal Incwm neu Lwfans Ceisio Gwaith

Os daeth eich cais am Gymhorthdal Incwm neu Lwfans Ceisio Gwaith i ben llai na 26 wythnos yn ôl, efallai y bydd eich cais am fudd-dal yn symlach ac yn fyrrach.

Ni ddylai fod unrhyw newid yn eich amgylchiadau.

I wneud cais am Lwfans Ceisio Gwaith neu Gymhorthdal Incwm ffoniwch 0800 012 1888.

Mae llinell Saesneg ar gael ar 0800 055 6688, a ffôn testun ar 0800 023 4888 os oes gennych nam ar eich lleferydd neu ar eich clyw.

Mae’r llinellau ar agor o 8.00 am i 6.00 pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Ni ystyrir yr isod fel newid mewn amgylchiadau:

  • eich bod chi neu rywun rydych yn hawlio ar ei rhan yn feichiog
  • wedi hawlio neu'n cael credydau treth

Allweddumynediad llywodraeth y DU