Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Pedair wythnos ychwanegol o arian yw'r Cymorth i Dalu Llog Morgais. Mae hwn ar gael tuag at dalu'ch costau tai os bydd budd-daliadau penodol eraill yn dod i ben oherwydd eich bod yn mynd yn ôl i'r gwaith, yn ennill neu'n gweithio mwy o oriau.
Mae'n bosib y gallwch chi hawlio'r Cymorth i Dalu Llog Morgais os ydych chi (neu eich partner neu bartner sifil) wedi stopio cael Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar incwm, Cymhorthdal Incwm neu Lwfans Cyflogaeth a Chymorth ar sail incwm oherwydd bod un ohonoch yn gwneud un o'r canlynol:
a bod y canlynol i gyd yn berthnasol:
Byddwch chi fel arfer yn cael yr un swm yn union ag y cewch chi tuag at eich costau tai.
Telir taliadau pedair wythnos ychwanegol o log morgais yn syth i chi yn hytrach na'u talu'n syth i'r sawl sydd wedi rhoi benthyg y morgais i chi.
Does dim rhaid i chi wneud cais ysgrifenedig am Gymorth i Dalu Llog Morgais.
Rhowch wybod i'ch swyddfa Canolfan Byd Gwaith cyn gynted ag y byddwch chi'n dechrau gweithio mewn swydd y disgwylir iddi bara am bum wythnos neu fwy.
Os gwrthodir help i chi gyda'ch costau tai, neu gyda'r taliadau ychwanegol am bedair wythnos, cewch ofyn am ailystyried y penderfyniad.
Os ydych chi'n dal yn anhapus gyda'r canlyniad, gallwch apelio i Dribiwnlys Apêl Unedig annibynnol.