Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Os ydych chi’n ei chael yn anodd coginio prydau bwyd eich hun, gall eich cyngor ddanfon prydau wedi’u gwneud yn barod i’ch cartref. Weithiau, gelwir y gwasanaeth hwn yn wasanaeth 'pryd ar glud'. Yma, cewch wybod a ydych yn gymwys ar gyfer hyn a sut y bydd y prydau’n cael eu danfon i’ch cartref.
Os hoffech chi gael prydau i’ch cartref, bydd angen i chi gysylltu ag adran gwasanaethau cymdeithasol eich cyngor. Byddant yn cynnal asesiad i ganfod beth yw eich anghenion ac yn dweud wrthych a ydych yn gymwys i gael prydau i'ch cartref ai peidio. Ewch i ‘Asesiadau iechyd a gofal cymdeithasol’ i gael gwybod beth fydd yr asesiad yn ei olygu a sut mae cysylltu ag adran gwasanaethau cymdeithasol eich cyngor lleol.
Codir tâl am y gwasanaeth hwn fel arfer. Bydd amrywiaeth o brydau ar gael, a’r rheini’n ystyried gofynion diwylliannol a chrefyddol pobl, eu dewis fwydydd a'u hanghenion deietegol.
Pan fydd y tîm gwasanaethau cymdeithasol wedi cytuno y cewch brydau i'ch cartref, dylech gael 'cytundeb gwasanaeth' syml. Bydd y cytundeb yn nodi:
Mae’n bosib y cynigir prydau wedi’u rhewi i chi, y gallwch eu rhoi yn y rhewgell a’u bwyta yn nes ymlaen, yn hytrach na phrydau poeth. Fel arfer, dim ond os na allwch ymdopi â’r gwasanaeth prydau wedi’u rhewi y danfonir prydau poeth i chi.
Efallai y gallwch hefyd fenthyca offer i ailgynhesu'r pryd eich hun a rhewgell fechan os oes angen un arnoch.
Bydd y ddolen isod yn gofyn i chi roi manylion ble'r ydych yn byw ac yna'n mynd â chi at wefan eich awdurdod lleol ble gallwch gael mwy o wybodaeth am brydau i'ch cartref.