Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Iau, 4 Hydref 2012

Cael help gyda chynnal a chadw'r ardd

Gall cynghorau gynnig cynnal a chadw gerddi i denantiaid oedrannus na allan nhw wneud y gwaith eu hunain.

Ydw i'n gymwys i gael help?

All cynghorau ddim cynnig y gwasanaeth hwn i bob person oedrannus felly i fod yn gymwys rhaid i chi fodloni'r canlynol:

  • bod dros 60 oed a/neu'n anabl
  • ddim yn gallu gwneud y gwaith eich hun, ac
  • nad oes person arall yn byw gyda chi neu'n byw o fewn pellter rhesymol a all eich helpu

Mae rhai cynghorau yn darparu gwasanaeth cynnal a chadw gerddi am ffi.

Gwneud cais am help gyda chynnal a chadw'r ardd

Fel arfer, mae gan gynghorau gyllideb er mwyn gwneud y gwaith hwn ac efallai na fydd yn bosib cynnwys pawb sy'n gwneud cais i fod ar y rhestr bresennol. Felly, cedwir rhestr aros yn nhrefn dyddiad cofrestru.

Os ydych chi'n meddwl eich bod yn bodloni'r meini prawf ar gyfer y gwasanaeth cynnal a chadw gerddi, yna cysylltwch â'ch cyngor lleol.

Bydd y dolenni isod yn gofyn i chi roi manylion eich cyfeiriad ac yna'n mynd â chi at wefan eich awdurdod lleol lle gallwch gael mwy o wybodaeth.

Pwy sy'n gwneud y gwaith, a beth mae'n ei olygu?

Contractwr a benodir gan y cyngor sy'n gwneud y gwaith cynnal a chadw gerddi a bydd yn cario manylion adnabod priodol. Mae'n bwysig eich bod yn gofyn i weld y manylion hyn cyn gadael i unrhyw weithwyr ddod i'ch eiddo.

Mae'r gwasanaeth cynnal a chadw yn cynnwys torri gwair a gwrychoedd ond nid yw'n cynnwys cynnal a chadw perthi, llwyni a choed. Ar ben hynny, bydd angen gwneud gwaith ychwanegol yn aml ar ardd cyn ei ychwanegu at y rhestr. Os bydd angen, gwneir y gwaith hwn unwaith yn unig cyn y gwaith cynnal a chadw a amlinellir uchod.

Additional links

Cyngor iechyd

Ewch i NHS Choices i gael gwybodaeth am iechyd a gwasanaethau iechyd lleol yn Lloegr

Cysylltiadau defnyddiol

Allweddumynediad llywodraeth y DU