Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Yn y fan hon, cewch wybod beth fydd yr heddlu’n ei wneud pan fyddwch yn rhoi gwybod bod rhywun ar goll a pha gymorth sydd ar gael. Os ydych chi wedi mynd ar goll, cewch wybod sut i gysylltu â’ch teulu a’ch ffrindiau unwaith eto.
Gallwch gysylltu â’ch gorsaf heddlu leol ar unwaith os ydych chi’n poeni bod rhywun ar goll. Mae’n syniad da, fodd bynnag, i chi wneud eich ymholiadau eich hun yn gyntaf. Cysylltwch ag unrhyw un a allai wybod beth yw hanes yr unigolyn sydd ar goll cyn mynd at yr heddlu.
Pan fyddwch yn rhoi gwybod bod rhywun ar goll, bydd yr heddlu’n gofyn i chi roi adroddiad. Efallai y bydd yr heddlu'n gofyn i chi am wybodaeth, fel:
Bydd yr adroddiad yn cael ei ddefnyddio i ddynodi ar Gyfrifiadur Cenedlaethol yr Heddlu fod yr unigolyn ar goll. Mae hyn yn golygu y bydd gwybodaeth am y sawl sydd ar goll ar gael i heddluoedd ar draws y DU cyn pen 48 awr.
Missing People 0500 700 700
Llinell Gymorth Runaway 0808 800 70 70 neu neges destun 80234
Gwasanaeth Message Home 0800 700 740
Mae amryw o elusennau hefyd yn darparu cymorth i ddod o hyd i blant ac oedolion sydd ar goll.
Mae elusen Missing People yn helpu ac yn cefnogi plant ac oedolion sydd ar goll drwy ddarparu’r canlynol:
Bydd elusen Missing People hefyd yn cynhyrchu ac yn dosbarthu posteri o bobl sydd ar goll ac yn creu cyhoeddusrwydd drwy wneud apeliadau drwy’r rhyngrwyd, y teledu, papurau newydd a chylchgronau.
Mae gwefan Missing Kids yn rhoi cyngor i rieni ac yn cynnwys cronfa ddata o blant sydd ar goll y gellir chwilio drwyddi. Mae pob cofnod yn cynnwys posteri a lluniau, disgrifiad o’r plentyn a manylion ynghylch pryd y gwelwyd nhw ddiwethaf. Gellir llwytho’r posteri hyn i lawr oddi ar y wefan a’u hargraffu.
Dim ond yr heddlu sy’n gallu ychwanegu achosion newydd ar y safle. Os hoffech i’ch plentyn chi fod ar y gronfa ddata, bydd angen i chi roi gwybod i’r heddlu eu bod ar goll. Bydd yr heddlu sy’n delio â’ch achos yn gallu eich cynghori ynghylch a fyddai defnyddio gwefan Missing Kids yn addas ar gyfer eich achos chi.
Ceir elusennau eraill sy’n arbenigo mewn cefnogi teuluoedd plant sydd ar goll ac mewn rhoi cyhoeddusrwydd i’r achosion. Mae’r rhain yn cynnwys:
Os ydych yn poeni am berthynas neu ffrind sydd wedi mynd ar goll dramor, cysylltwch â’ch heddlu lleol. Bydd eich heddlu lleol yn cysylltu â’r heddlu yn y wlad dramor berthnasol drwy Interpol. Sefydliad heddlu rhyngwladol yw Interpol. Mae'n gweithredu mewn mwy na 187 o wledydd o amgylch y byd. Dylech hefyd gysylltu â’r Swyddfa Dramor a Chymanwlad ar 020 7008 1500 a gofyn am y Gyfarwyddiaeth Gonsylaidd.
Os yw’ch plentyn wedi’i gipio dramor, gall y Swyddfa Dramor a Chymanwlad roi cyngor am beth i'w wneud ac â phwy y dylech gysylltu. Mae ‘Cipio plant yn rhyngwladol’ yn amlinellu'r hyn y gall y Swyddfa Dramor a Chymanwlad ei wneud i helpu.
Mae ‘Ceisiadau am basbort ac achosion o gipio plant’ yn esbonio sut y gall y Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau helpu drwy atal ceisiadau am basbort plentyn.
Weithiau, ni fydd pobl sydd ar goll yn dymuno cysylltu â’u ffrindiau a’u teulu pan fydd rhywun yn dod o hyd iddynt. Os bydd yr heddlu’n dod o hyd i’r unigolyn sydd ar goll, ni fyddant yn rhannu unrhyw wybodaeth am eu lleoliad heb ganiatâd yr unigolyn. Fodd bynnag, bydd yr heddlu’n rhoi gwybod i chi bod yr unigolyn yn ddiogel ac yn iawn.
Os yw’r unigolyn sydd ar goll yn agored i niwed, ee oherwydd ei oed neu ei iechyd gwael, efallai y bydd yr heddlu’n penderfynu cysylltu â’i deulu a’i ffrindiau, neu â'r gwasanaethau cymdeithasol neu iechyd. Os yw’r unigolyn sydd ar goll yn iau na 18 oed, rhoddir gwybod i’r rhiant neu’r gwarcheidwad bob tro pan fyddant yn dod i’r golwg.
Os ydych chi’n meddwl bod rhywun wedi rhoi gwybod eich bod ar goll ac yr hoffech gysylltu â'ch anwyliaid eto, ewch i'ch gorsaf heddlu leol. Ewch â phasbort, trwydded yrru neu rywbeth arall i brofi pwy ydych chi gyda chi.
Os byddai’n well gennych beidio â chysylltu â'r heddlu, gall yr elusen Missing People gysylltu â'r heddlu’n ddienw ar eich rhan.
Os ydych chi’n meddwl eich bod wedi gweld unigolyn sydd ar goll, rhowch wybod i'r heddlu pryd y gwnaethoch ei weld ac yn lle. Os byddai’n well gennych roi gwybod eich bod wedi gweld unigolyn sydd ar goll heb roi eich manylion personol, gallwch gysylltu â Missing People drwy ffonio 0500 700 700 neu ddefnyddio eu gwefan.