Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Iau, 4 Hydref 2012

Rhedeg i ffwrdd o gartref a phobl ar goll

Mae miloedd o bobl ifanc yn eu harddegau yn rhedeg i ffwrdd o gartref bob blwyddyn. Mae sawl rheswm pam y byddech yn teimlo fel rhedeg i ffwrdd, fel camdriniaeth neu drais corfforol. Os ydych yn anhapus ac yn teimlo fel gadael eich cartref, mae cyngor cyfrinachol ar gael i chi yn rhad ac am ddim i’ch helpu i fod yn ddiogel neu i geisio datrys eich problemau.

Faint o bobl sy’n mynd ar goll neu’n rhedeg i ffwrdd?

Mae’n anodd gwybod yn iawn faint o bobl sy’n mynd ar goll neu’n rhedeg i ffwrdd o gartref yn y DU. Y rheswm am hyn yw nad yw llawer o achosion o bobl sydd ar goll yn cael ei riportio na’u cofnodi.

Mae achosion o bobl ifanc sydd ar goll yn fwy tebygol o gael eu riportio i'r heddlu oherwydd bod eu rhieni, eu gofalwyr neu’u ffrindiau'n dechrau poeni ble y maent ac yn poeni am eu diogelwch.

Yn seiliedig ar ffigurau’r heddlu, mae Cymdeithas y Plant yn amcangyfrif bod oddeutu 100,000 o bobl ifanc dan 18 oed yn mynd ar goll bob blwyddyn. Mae hynny’n gyfystyr ag un person ifanc yn mynd ar goll bob pum munud.

Rhesymau dros redeg i ffwrdd o gartref

Mae nifer o resymau pam mae plant yn eu harddegau yn gadael cartref heb ddweud wrth neb.

Dyma rai ohonynt:

  • dadlau gyda rhiant neu berthynas arall
  • straen
  • camdriniaeth neu drais yn y cartref
  • gofidiau ynghylch arian a dyled
  • cael eu gorfodi allan o’u cartref gan riant neu ofalwr
  • problemau gydag alcohol neu gyffuriau

I lawer o bobl ifanc yn eu harddegau, mae penderfynu rhedeg i ffwrdd o gartref yn digwydd ar hap.

Mae hyn yn golygu nad ydyw’r sawl sy’n rhedeg i ffwrdd wedi ystyried:

  • i ble y byddant yn mynd
  • lle y byddant yn cysgu
  • sut y byddant yn cael gafael ar arian
  • yr effaith y caiff eu penderfyniad ar aelodau’r teulu

Hyd yn oed os yw bywyd gartref yn mynd yn annioddefol, mae’n bosib nad rhedeg i ffwrdd yw'r dewis gorau, hyd yn oed os yw’n ymddangos fel yr unig ddewis.

Sefydliadau sy’n cynnig cefnogaeth i’r rheini sydd wedi rhedeg i ffwrdd

Os ydych chi wedi cael eich gorfodi i adael cartref neu’n ystyried rhedeg i ffwrdd, mae nifer o linellau cymorth y gallwch gysylltu â nhw am ragor o wybodaeth a hynny’n rhad ac am ddim.

Llinell Gymorth Runaway

Mae Llinell Gymorth Runaway ar gael i unrhyw un dan 18 oed sydd wedi rhedeg i ffwrdd o gartref ac angen help a chyngor. Gallwch hefyd ddefnyddio’r llinell gymorth os ydych yn ystyried rhedeg i ffwrdd.

Gall Llinell Gymorth Runaway eich helpu i anfon neges yn ôl at eich rhieni i roi gwybod iddynt eich bod yn ddiogel.

Mae pob cyfathrebiad gyda Llinell Gymorth Runaway yn gyfrinachol ac ni all y cynghorwyr ddod o hyd i chi heblaw eich bod chi’n dewis dweud wrthyn nhw.

Gallwch gysylltu â’r llinell gymorth dros y ffôn, drwy neges destun, neges e-bost neu ar y wefan.

ChildLine

Mae cynghorwyr ChildLine wedi’u hyfforddi i helpu gydag unrhyw broblem yr ydych yn ei chael gartref sy’n gwneud i chi ystyried rhedeg i ffwrdd.

Mae galwadau i ChildLine yn gwbl gyfrinachol ac yn rhad ac am ddim hyd yn oed os byddwch yn ffonio oddi ar ffôn symudol.

Rhedeg i ffwrdd o leoliadau gofal

Mae llawer o’r bobl ifanc sy’n eu harddegau sy’n mynd ar goll yn blant ifanc sydd wedi rhedeg i ffwrdd o ofal awdurdod lleol.

Mae’n bosib fod pobl ifanc sydd wedi rhedeg i ffwrdd o ofal awdurdod lleol:

  • yn anhapus gyda’u trefniadau gofal ar y pryd
  • yn cael eu bwlio gan bobl ifanc eraill yn eu harddegau yn yr un cartref gofal
  • eisiau byw gyda’u ffrindiau neu aelodau o’r teulu

Os ydych chi mewn gofal, mae gennych hawl i gwyno os nad ydych yn hapus gyda’ch lleoliad gofal. Os nad ydych yn hapus, siaradwch â’ch gweithiwr cymdeithasol neu’ch cynghorydd personol.

Gallwch drafod unrhyw broblemau yr ydych yn eu cael gyda nhw a cheisio dod o hyd i ateb. Mewn rhai achosion, mae’n bosib y byddant yn gallu trefnu lleoliad gofal gwahanol i chi.

Ffrindiau sydd ar goll

Os ydych yn poeni am berthynas neu ffrind sydd wedi mynd ar goll, cysylltwch â’r heddlu. Gallwch wneud hyn drwy:

  • ymweld â’ch gorsaf heddlu agosaf
  • cysylltu â’ch gorsaf heddlu agosaf dros y ffôn

Bydd plismon yn cymryd adroddiad gennych ynghylch y sawl sydd ar goll ac yn bwydo’r holl fanylion ar gyfrifiadur cenedlaethol. Gall heddluoedd ar draws y byd ddefnyddio’r wybodaeth hon i ddod o hyd i bobl sydd ar goll.

Mae pob un o dan 18 oed sydd ar goll yn cael blaenoriaeth a bydd yr heddlu yn dechrau chwilio amdanynt cyn gynted â phosib.

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU