Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Iau, 4 Hydref 2012

Pobl ifanc yn gadael gofal

Os ydych yn symud o’ch lleoliad gofal terfynol byddwch yn gwybod ei fod yn gam mawr. Bydd eich cyfarfod adolygu statudol yn caniatáu i chi drafod yr hyn y carech ei wneud yn y dyfodol, lle yr hoffech fyw a’r gefnogaeth yr ydych yn credu y bydd ei hangen arnoch gan eich awdurdod lleol.

Paratoi i adael gofal awdurdod lleol

Mae’r rhan fwyaf o bobl ifanc mewn gofal yn gadael eu cartref terfynol pan fyddant yn 18. Mae hwn yn gam cyffrous a brawychus, ond mae digon o bobl ar gael i'ch helpu chi. Er hynny, mae llawer i feddwl amdano a phenderfyniadau sydd angen eu gwneud.

Mae’r rhain yn cynnwys:

  • penderfynu lle y byddwch yn byw
  • dewis a ydych am weithio, cael mwy o hyfforddiant ynteu am astudio ar gyfer mwy o gymwysterau
  • cyllidebu drosoch eich hun
  • penderfynu faint o gefnogaeth y bydd ei hangen arnoch gan eich gweithiwr cymdeithasol

Peidiwch â disgwyl symud cyn:

  • eich pen-blwydd yn 18
  • eich bod yn teimlo’n gwbl barod i fyw’n annibynnol
  • bod gennych gynllun cytunedig yn ei le i’ch cefnogi

Mae eich awdurdod lleol a’r adran gwasanaethau cymdeithasol yno i’ch cefnogi pan fyddwch yn symud i fyw’n annibynnol.

Byddant yn cynnig pob cymorth a chyngor y bydd ei angen arnoch nes eich bod yn 21 (neu’n hwy os byddwch yn aros ym myd addysg neu'n cael hyfforddiant).

Eich cyfarfod adolygu statudol

Bydd symud o’ch cartref gofal terfynol yn newid mawr yn eich bywyd, felly peidiwch â gwneud unrhyw benderfyniadau nes byddwch wedi cael eich cyfarfod adolygu statudol. Bydd y cyfarfod yn cynnwys y canlynol:

  • chi
  • eich gweithiwr cymdeithasol
  • eich gofalwyr
  • unrhyw bobl eraill sy’n gyfrifol am eich cefnogi
  • Swyddog Adolygu Annibynnol

Yn y cyfarfod, cewch ddweud beth y carech ei wneud unwaith y byddwch yn gadael gofal.

Mae’n hynod o bwysig eich bod yn egluro beth y carech ei wneud yn y dyfodol yn y cyfarfod hwn. Byddwch yn barod i siarad am y gefnogaeth yr ydych yn credu y bydd ei angen arnoch i gyrraedd lle y carech fod.

Bydd eich gweithiwr cymdeithasol yn gwneud yn siŵr eich bod yn cael y cyfle i ddweud eich dweud yn y cyfarfod.

Bydd Swyddog Adolygu Annibynnol yn cadeirio’r cyfarfod neu'n eich cynorthwyo chi i'w gadeirio. Byddant yn sicrhau bod pawb yn y cyfarfod yn cael cyfle i siarad.

Bydd oedolyn arall a elwir yn ‘eiriolwr’ yn y cyfarfod. Gallant eich helpu os ydych yn cael trafferth i egluro sut yr ydych yn teimlo neu’n ei gweld hi’n anodd rhoi’r hyn yr ydych yn ei deimlo mewn geiriau.

Gall eiriolwr fod yn ffrind, yn aelod o'r teulu neu'n rhywun o'ch awdurdod lleol, fel Swyddog Hawliau Plant. Y peth pwysicaf yw eu bod yn rhywun y gallwch ymddiried ynddynt.

Ar ôl eich cyfarfod adolygu statudol

Os bydd pawb yn y cyfarfodydd yn cytuno eich bod yn barod i symud o’ch lleoliad gofal terfynol, cewch wybod am eich opsiynau llety.

Efallai y bydd arnoch eisiau:

  • cael lle eich hun yn syth
  • symud i mewn at ffrindiau
  • symud i foyer neu hostel lle bydd cefnogaeth a chyngor personol ar gael bob amser

Cewch y cyfle hefyd i ymweld ag unrhyw le y carech symud iddo er mwyn i chi allu penderfynu a yw'n addas.

Os ydych yn anhapus gyda’r cyfarfod

Os ydych yn anhapus gyda chanlyniad eich cyfarfod adolygu statudol mae gennych hawl cyfreithiol i wneud cwyn.

Gall eich gweithiwr cymdeithasol neu eich cynghorydd personol o’r gwasanaeth gadael gofal a’r Swyddog Adolygu Annibynnol egluro proses gwyno eich awdurdod lleol. Gallwch hefyd gael cymorth annibynnol gyda’ch ffurflen gwyno gan oedolyn arall o’ch dewis.

Sut y bydd eich awdurdod lleol yn eich helpu

Fel y byddwch yn cymryd y cam i fyw’n annibynnol, bydd yn rhaid i’ch awdurdod lleol:

  • ymateb i’ch anghenion
  • cadw mewn cysylltiad â chi unwaith y byddwch wedi gadael gofal
  • rhoi cynghorydd personol i chi
  • llunio Cynllun Llwybr gyda chi, sy’n amlinellu’r gefnogaeth mae arnoch ei eisiau gan eich awdurdod lleol
  • eich helpu i ddod o hyd i lety addas
  • asesu eich anghenion ariannol gan sicrhau eu bod yn cael eu bodloni

Cefnogaeth ariannol ar ôl gadael gofal

Bydd eich cynghorydd personol yn gallu dweud wrthych faint o gymorth ariannol y byddwch yn cael.

Mae’r hyn y gallwch ei gael yn amrywio ac yn dibynnu ar eich amgylchiadau personol. Mae’n bosib y byddwch yn gymwys i hawlio:

  • Lwfans Ceisio Gwaith
  • Budd-dal Tai
  • Cymhorthdal Incwm
  • Grant Gofal Cymunedol

Cael mwy o wybodaeth ar gyfer y dyfodol

Os oes angen cyngor arnoch ynghylch cael mwy o hyfforddiant, mwy o gymwysterau neu gynllunio’ch gyrfa, gallwch hefyd siarad â chynghorydd Connexions.

Gallwch gysylltu â chynghorydd Connexions:

  • dros y ffôn ar 080 800 13 2 19
  • drwy neges destun ar 07766 4 13 2 19
  • drwy ffôn testun 08000 968 336
  • ar-lein
  • drwy e-bost

Mae llinell gymorth Connexions Direct ar agor saith niwrnod yr wythnos o 8.00 am tan 2.00 pm.

Os oes angen gwybodaeth benodol arnoch ynghylch gadael gofal, mae Ymddiriedolaeth Who Cares? a leavingcare.org yn ffynonellau gwych i gael gwybodaeth.

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU