Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Budd-daliadau i bobl ifanc

Os ydych chi'n 16 oed neu'n hŷn, mae'n bosib y gallwch chi hawlio budd-daliadau neu gredydau treth penodol (taliadau gan y llywodraeth) os ydych chi ar incwm isel, yn chwilio am waith, yn anabl neu'n gofalu am blentyn neu berson hŷn.

Gwneud hawliad

Gall hawlio budd-daliadau ymddangos yn hynod o anodd i lawer o bobl. Y cam cyntaf yw i ffonio'ch swyddfa Canolfan Byd Gwaith leol. Bydd ymgynghorwyr yn gallu eich helpu i gael gwybod pwy fudd-daliadau yr ydych â hawl i dderbyn a'ch arwain wrth gwblhau y ffurflen hawlio.

Os ydych yn 16 neu'n 17, byddwch yn derbyn galwad yn ôl o fewn 4 awr i drafod eich sefyllfa, ac os ydych dros 18, bydd ymgynghorydd yn cysylltu â chi o fewn 24 awr. Y mwyaf o wybodaeth gallwch chi rhoi i'r ymgynghorydd ynghylch eich sefyllfa bersonol a'ch amgylchiadau ariannol, y mwyaf haws fyddai i fesur yr hyn yr ydych allu hawlio.

Os ydych chi ar incwm isel neu os nad ydych yn gweithio

Os ydych chi'n 16 oed neu'n hŷn ac ar incwm isel, mae'n bosib y gallech chi wneud cais am gymorth ariannol gan y llywodraeth. Bydd yr union swm a gewch yn dibynnu ar eich oedran a'ch amgylchiadau personol.

Cymhorthdal Incwm

Os ydych dros 16 mae'n bosib na fyddwch chi'n gallu gweithio oherwydd eich bod yn rhiant ar eich pen eich hun sy'n gorfod aros gartref a gofalu am eich plant, neu eich bod wedi cofrestru'n berson anabl, neu'n gyfrifol am berthynas anabl, yna mae'n bosib eich bod yn gymwys i gael Cymhorthdal Incwm.

Os ydych chi'n fyfyriwr prifysgol, ar gwrs hyfforddiant neu mewn addysg llawn amser, dim ond dan amgylchiadau arbennig y byddwch chi'n gymwys. Yn yr achos hwn, gall unrhyw waith rhan amser fyddwch yn gwneud eich achosi i golli eich hawliad.am Gymhorthdal Incwm.

Os ydych chi’n cael Lwfans Cynhaliaeth Addysg, ni fydd hwn yn effeithio ar eich hawliad Cymhorthdal Incwm.

Lwfans Ceisio Gwaith

Mae'r Lwfans Ceisio gwaith yn fudd-dal sydd ar gael i'r rhan fwyaf o bobl 18 oed a hŷn sy'n ddi-waith, sydd ddim mewn addysg ac yn chwilio am waith. Mae'n bosibl y byddwch yn gymwys hefyd os oes gennych swydd lle byddwch yn gweithio llai na 16 awr yr wythnos.

Os ydych chi dan 18 oed, neu os ydych chi'n fyfyriwr, go brin y byddwch chi'n gallu hawlio'r lwfans.

Os ydych yn 16 neu'n 17, dim ond mewn amgylchiadau arbennig y byddwch yn gallu hawlio Lwfans Ceisio Gwaith. Er enghraifft, caledwch llym oherwydd ymddieithrio wrth eich teulu. Os ydych chi'n meddwl bod gennych amgylchiadau arbennig, cysylltwch â'ch swyddfa Canolfan Byd Gwaith agosaf.

Os ydych chi’n hawlio Lwfans Ceisio Gwaith oherwydd dieithriad, y mwyaf o wybodaeth gallwch chi roi i'r Ganolfan Byd Gwaith ynghylch eich perthynas deulu yn chwalu, y cyflymaf y byddant yn gallu gwneud penderfyniad. Gallwch hefyd ofyn i oedolyn arall sydd yn gwybod am eich sefyllfa fynd i'r cyfweliad gyda chi, ac ni fydd eich rhieni yn cael eu hysbysebu am eich cyfarfod heblaw eich bod chi am iddynt.

Budd-dal Tai

Gallwch hawlio Budd-dal Tai i'ch helpu gyda'ch rhent os yw eich incwm a'ch cynilion o dan lefel benodol. os ydych chi'n sengl a dan 25 oed, dim ond ar gyfer llety mewn ystafell byw a chysgu neu ystafell mewn llety a rennir y gallwch hawlio Budd-dal Tai. Ni allwch fel arfer dderbyn Budd-dal Tai os ydych yn byw gyda'ch rhieni neu berthynas agos ac yn talu rhent iddynt, ond mae dal yn werth gwirio hyn.

Os ydych chi'n fyfyriwr amser llawn, fyddwch chi ddim yn gallu hawlio heblaw eich bod yn anabl neu fod gennych blant.

Credyd Treth Gwaith

Taliad wythnosol yw'r Credyd Treth Gwaith tuag at eich costau byw. Mae ar gael yn bennaf i bobl dros 25 mlwydd oed, ond os ydych chi'n 16 oed neu'n hŷn gyda phlant neu anabledd sy’n effeithio ar eich gallu i weithio neu chwilio am waith, mae’n bosib byddwch hefyd yn gallu hawlio.

Os ydych chi'n gofalu am blentyn neu rywun hŷn

Credyd Treth Plant

Taliad wythnosol yw'r Credyd Treth Gwaith tuag at eich costau byw os ydych chi'n 16 oed neu'n hŷn a bod gennych gyfrifoldeb llawn o ofalu am blentyn (hyd yn oed os nad chi yw’r rhiant).

Mae’r swm y byddwch yn derbyn yn dibynnu ar faint o blant mae gennych gyfrifoldeb am, p’un ai eich bod yn byw ar eich pen eich hun ac oedran eich plentyn. Mae yna daliadau ychwanegol os ydy’r plentyn yn anabl.

Lwfans Gofalwr

Cewch hawlio Lwfans Gofalwr os ydych chi'n 16 oed neu drosodd a'ch bod yn treulio o leiaf 35 awr yr wythnos yn gofalu am yr un perthynas, ffrind neu gymydog a'u bod nhw'u hunain yn hawlio budd-daliadau penodol eraill.

Rhieni ifanc

Cofiwch eich bod yn gallu cael cymorth ariannol gyda’ch gofal plant os ydych dan 20 ac eich bod yn yr ysgol, coleg neu'n cymryd rhan mewn rhaglen dysgu yn y gwaith gyda'r cynllun Care to Learn. Gallwch hefyd gwneud cais am fudd-daliadau plant, er gallai hyn efallai effeithio ar faint o fudd-daliadau eraill gallwch dderbyn.

Os ydych yn sâl neu’n anabl

Lwfans Cyflogaeth a Chymorth

Os ydych chi’n 16 oed neu’n hŷn a bod gennych afiechyd neu anabledd sy’n effeithio ar eich gallu i weithio, mae’n bosib y gallwch chi wneud cais am Lwfans Cyflogaeth a Chymorth.

Fel arfer, dim ond os ydych chi wedi talu digon o gyfraniadau Yswiriant Gwladol yn ystod eich oes gweithio. Fodd bynnag, mae’n bosib y gallwch ddal i’w dderbyn os ydych chi dan 25 oed ac yn bodloni cyflyrau penodol.

Lwfans Byw i'r Anabl

Efallai y byddwch yn gallu hawlio Lwfans Byw i'r Anabl i chi'ch hun ac ar ran plentyn anabl os ydych chi'n gyfrifol am eu gofal. Mae'r lwfans yn dibynnu ar ddau beth: i ba raddau mae rhywun yn gallu symud o gwmpas a faint o ofal sydd ei angen.

Os ydych chi’n fyfyriwr mewn addysg uwch

Os ydych chi'n dilyn cwrs addysg uwch, gallwch wneud cais am gyllid myfyrwyr i'ch helpu i dalu am eich astudiaethau. Fel arfer, ni all myfyrwyr amser llawn hawlio budd-daliadau ar sail incwm hefyd - ond weithiau gall myfyrwyr rhan-amser a grwpiau penodol o fyfyrwyr amser llawn fod yn gymwys.

Y Gronfa Gymdeithasol

Efallai gallwch dderbyn cymorth ariannol am daliadau annisgwyl os ydych eisoes yn hawlio Cymhorthdal Incwm, Lwfans Ceisio Gwaith a rhai budd-daliadau eraill. Mae'r rhain yn cynnwys:

  • benthyciadau cyllidebu
  • benthyciadau argyfwng
  • grantiau mamolaeth os ydych yn disgwyl babi

Allweddumynediad llywodraeth y DU