Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Cymorth ariannol i bobl ifanc mewn addysg neu bobl ifanc sy'n derbyn hyfforddiant

P'un ai'ch bod yn mynd i addysg amser llawn neu’n dysgu yn y gwaith, gallwch gael help ariannol gyda’r gost o’ch astudiaethau. Gallai hyn gynnwys help gyda chostau teithio neu ofal plant.

Cymorth ariannol ar gyfer dysgu

P'un ai'ch bod yn penderfynu aros mewn addysg amser llawn ynteu'n penderfynu dysgu yn y gwaith, mae cymorth ariannol ar gael. Bydd y math o gymorth y gallwch ei dderbyn - a faint o arian mae gennych hawl iddo - yn dibynnu ar eich amgylchiadau personol.

Cymorth ariannol os ydych chi'n dysgu yn y gwaith

Os ydych chi'n dysgu yn y gwaith, gallech fod yn gymwys i gael rhywfaint o'r cymorth a ddisgrifir ar y dudalen hon.

Yn ogystal â hyn, mae mathau penodol o gymorth ariannol ar gael i bobl ifanc sy'n dysgu ac yn gweithio yr un pryd.

I gael gwybod mwy, ewch i ‘Sgiliau ar gyfer gwaith os ydych chi dan 19’.

Lwfans Cynhaliaeth Addysg

Gall y Lwfans Cynhaliaeth Addysg roi hyd at £30 yr wythnos i chi i aros yn y maes dysgu ar ôl gadael yr ysgol. Gallwch hefyd ennill bonws, yn dibynnu ar eich cynnydd a'ch presenoldeb.

Bydd y swm a gewch yn dibynnu ar incwm eich cartref.

Gallwch wneud cais am y Lwfans Cynhaliaeth Addysg os ydych chi:

  • mewn addysg amser llawn mewn coleg chweched dosbarth neu yn y chweched dosbarth mewn ysgol, er enghraifft yn astudio Safon UG neu Safon Uwch
  • yn cymryd rhan mewn rhaglen Mynediad at Waith
  • ar ‘Brentisiaeth dan law Rhaglen’ (mae'r rhaglen hon wedi'i chynllunio i arwain at ‘Brentisiaeth dan law Cyflogwr’, lle byddwch yn gweithio i gyflogwr)

Telir Lwfans Cynhaliaeth Addysg ar ben unrhyw fath arall o gymorth ariannol y bydd y llywodraeth yn ei roi i chi, felly ni fydd yn effeithio ar unrhyw un o fudd-daliadau'r cartref y gallech chi neu'ch teulu fod yn eu hawlio (megis Cymhorthdal Incwm, Budd-daliadau Plant neu Gredyd Treth Gwaith).

Cymorth gyda chostau gofal plant

Os ydych chi dan 20 oed a bod gennych blant, gallech gael cymorth â chostau gofal plant drwy'r cynllun Gofal i Ddysgu. Gallwch wneud cais os ydych chi yn y chweched dosbarth mewn ysgol, mewn coleg, neu ar raglen dysgu yn y gwaith.

Cymorth gyda chostau teithio

Os ydych chi'n teithio ar drafnidiaeth gyhoeddus i'r chweched dosbarth mewn ysgol, coleg neu sefydliad addysg bellach, mae'n bosibl y gallech chi gael help gyda'r gost gan eich awdurdod lleol.

Os ydych chi ar raglen Entry to Employment neu ar gwrs sy'n arwain at Brentisiaeth, dylech ofyn i'ch darparwr dysgu a allan nhw gynnig unrhyw gymorth i chi gyda'ch costau teithio.

Cymorth os ydych chi'n astudio oddi cartref

Gallech fod yn gymwys i gael cymorth ychwanegol gyda'ch costau os ydych am fynychu:

  • un o'r 51 Canolfan neu Goleg Preswyl Arbenigol sy'n cynnig cyrsiau mewn amaethyddiaeth, garddwriaeth a chelf a dylunio yn bennaf
  • cyrsiau arbenigol sydd y tu hwnt i bellter teithio dyddiol drwy gyfrwng Cynllun Peilot Preswyl cenedlaethol - dim ond pan nad oes cwrs ar gael yn lleol y bydd hwn yn berthnasol

Os ydych chi ar Brentisiaeth a gofynnir i chi weithio neu astudio oddi cartref, efallai y gall eich cyflogwr neu'r coleg eich helpu gydag unrhyw gostau ychwanegol

Cronfeydd Cefnogi Dewisol

Os ydych chi'n astudio yn y chweched dosbarth naill ai mewn coleg neu ysgol, efallai y gallech chi gael cymorth i brynu llyfrau neu offer, neu ar gyfer costau eraill sy'n gysylltiedig â dysgu gan Gronfeydd Cefnogi Dewisol.

Gallwch gael Cronfeydd Cefnogi Dewisol yr un pryd â'r Lwfans Cynhaliaeth Addysg.

Grantiau Dawns a Drama

Ysgoloriaethau cenedlaethol yw'r Grantiau Dawns a Drama i'r myfyrwyr dawns a drama mwyaf talentog. Maent ar gael yn rhai o sefydliadau celfyddydau perfformio preifat gorau Lloegr. Mae’r grantiau yn cael eu cynnig i’r myfyrwyr sy’n arddangos y potensial mwyaf lwyddo yn y proffesiwn.

Bydd y grant yn talu am y rhan fwyaf o'ch ffioedd dysgu, ond disgwylir i chi wneud cyfraniad personol. Gallwch hefyd gael arian ychwanegol i helpu gyda’ch costau byw.

Cymorth i fynd i'r brifysgol

Os ydych chi'n meddwl am fynd i addysg uwch, gallwch wneud cais am fenthyciadau a grantiau i helpu gyda ffioedd a chostau byw.

Yn yr adran hon...

Allweddumynediad llywodraeth y DU