Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Os ydych chi'n dymuno cael swydd ar ôl Blwyddyn 11, mae'n bwysig eich bod yn dewis un sy'n cynnig hyfforddiant a drefnir, a fydd yn arwain at gymwysterau a gydnabyddir yn genedlaethol.
Fwyfwy y dyddiau hyn, mae cyflogwyr yn chwilio am weithwyr sydd â lefelau sgiliau a chymwysterau uwch. Felly, os ydych chi'n dymuno dechrau gweithio, bydd dod o hyd i swydd gyda hyfforddiant yn rhoi rhagolygon gwell i chi yn y tymor hir.
Gallwch ddysgu drwy weithio mewn ffordd sy'n addas i chi. Er enghraifft, gallech astudio'n rhan-amser yn ystod gyda'r nosau a phenwythnosau, neu drwy ddysgu o bell (ar-lein neu drwy'r post).
Os hoffech gael swydd sy'n gwarantu hyfforddiant gwych, efallai mai Prentisiaeth yw'r peth i chi.
Mae prentisiaethau ar gael mewn amrywiaeth eang o sectorau cyflogaeth. Fel Prentis, byddwch yn ennill arian wrth i chi ddysgu ac astudio ar gyfer cymwysterau a gydnabyddir yn genedlaethol.
Os nad ydych yn barod i ddechrau ar Brentisiaeth, cyflogaeth gyda hyfforddiant neu addysg bellach ar ôl Blwyddyn 11, efallai y byddai rhaglen Mynediad at Waith (e2e) yn fanteisiol i chi. I fod yn gymwys, rhaid eich bod yn byw yn Lloegr a'ch bod rhwng 16 a 18 oed.
Bwriad Mynediad at Waith yw datblygu eich cymhelliant a'ch hyder. Bydd hefyd yn eich helpu i ddatblygu sgiliau y gallwch eu defnyddio yn y gweithle, a elwir yn 'Sgiliau Allweddol' a 'Sgiliau am Oes'.
Bydd Mynediad at Waith yn cael ei deilwra ar gyfer eich anghenion unigol, felly ni fydd yn para am gyfnod penodol o amser. Yn ogystal â gweithio tuag at gymhwyster, gallwch roi cynnig ar wahanol sefyllfaoedd gwaith a dysgu.
Os ydych chi ar raglen Mynediad at Waith, efallai y cewch arian ar ffurf Lwfans Cynhaliaeth Addysg.
Y Fargen Newydd
Gall y Fargen Newydd eich helpu i ddod o hyd i swydd a'i chadw. Tra'r ydych yn cael y Fargen Newydd, byddwch yn cael cymorth a chefnogaeth gan ymgynghorydd personol. Byddant yn eich helpu i ystyried beth allwch chi ei wneud i adeiladu ar y sgiliau sydd gennych.
Os ydych rhwng 18 a 24 oed ac wedi bod yn hawlio Lwfans Ceisio Gwaith am chwe mis neu fwy, mae'n rhaid i chi gymryd rhan yn y Fargen Newydd er mwyn parhau i gael rywfaint o'ch budd-daliadau - oni bai bod gennych reswm da dros beidio â chymryd rhan.
Os ydych chi a'ch ymgynghorydd personol yn penderfynu gwneud hyn, efallai y gallwch gymryd rhan os ydych wedi bod yn hawlio Lwfans Ceisio Gwaith am lai na chwe mis.
O fis Hydref 2009, mewn rhai ardaloedd yn y DU, bydd y Fargen Newydd yn cael ei disodli gan 'Y Fargen Newydd Hyblyg'. Gweler ‘Y Fargen Newydd’ i gael gwybod mwy.
Os nad yw'r swydd yr ydych wedi dod o hyd iddi yn cynnig llawer o hyfforddiant, neu os nad yw'n cynnig hyfforddiant o gwbl, gallech fod yn gymwys i gael Amser o'r Gwaith i Astudio neu Hyfforddi.
Gallwch fod yn gymwys os ydych chi'n 16 neu'n 17 oed ac na chawsoch yr un cymhwyster Lefel 2 yn yr ysgol. Mae cymwysterau Lefel 2 yn cynnwys:
Mae Amser o'r Gwaith i Astudio neu Hyfforddi yn rhoi hawl i chi gael amser rhesymol o'r gwaith yn ystod dyddiau gwaith cyffredin, gyda thâl, er mwyn astudio ar gyfer cymhwyster cymeradwy. Rhaid i hwn fod yn gymhwyster Lefel 2 a fydd yn helpu i wella eich rhagolygon cyflogaeth ar gyfer y dyfodol.
Bydd yr amser a gewch chi o'r gwaith yn dibynnu ar y cwrs, eich amgylchiadau, ac anghenion eich cyflogwr.
Os ydych chi'n 18 oed, cewch hefyd gwblhau unrhyw gymwysterau yr ydych eisoes wedi dechrau astudio ar eu cyfer.
Efallai y gallech ddefnyddio'r cymwysterau y byddwch yn eu hennill drwy hyfforddiant seiliedig ar waith fel llwybr i brifysgol neu addysg uwch. Gall hyn wella eich rhagolygon ar gyfer cael swydd a'ch siawns o gael gwell enillion yn y dyfodol.
Gallai'r profiad gwaith y byddwch yn ei ennill fod yn ddefnyddiol iawn hefyd os ydych chi'n dymuno gwneud cais am gael gwneud Gradd Sylfaen. Mae Graddau Sylfaen yn cyfuno astudiaeth academaidd gyda dysgu yn y gwaith.